Gan Rhiannon Jones
Nigel Owens
Mae Nigel Owens yn ddyfarnwr o Gymru sydd wedi bod yn gyfrifol am 100 gêm brawf, ac mae e hefyd wedi ennill MBE am ei lwyddiannau.
Fel rhan o fis LHDT ym mis Chwefror, rhannodd Nigel Owens ei brofiadau o fod yn ddyfarnwr syÔÇÖn agored am fod yn hoyw, gydaÔÇÖi ffrind Jonathan Davies a BBC Sport Wales.
Pwysleisiodd Nigel Owens pwysigrwydd hiwmor mewn sawl sefyllfa. MaeÔÇÖr hiwmor hwn wedi bod yn rhan fawr o siwrnai Nigel Owens, hyd yn oed wrth iddo ddod allan yn hoyw am y tro cyntaf ar raglen Jonathan ar S4C, yn 2007. Ar y rhaglen, cuddiodd Nigel Owens mewn cwpwrdd cyn ymddangos gyda gw├¬n ÔÇô ÔÇÿComing out of the closetÔÇÖ yn llythrennol!
Dros ddegawd yn ddiweddarach mae ei ffrind, Jonathan Davies, yn teimlo i Nigel ddod yn llawer mwy hyderus ers ÔÇÿddod allanÔÇÖ ac o ganlyniad yn berson gwell ac yn ddyfarnwr gwell.
Gareth Thomas
Mae Gareth Thomas yn enghraifft arall o seren ym myd rygbi Cymru sydd wedi siarad yn gyhoeddus am fod yn hoyw ac am ei brofiad o gael HIV. Gweithiodd Gareth Thomas gydaÔÇÖr BBC ar y rhaglen ddogfen ÔÇÿGareth Thomas: HIV and MeÔÇÖ er mwyn codi ymwybyddiaeth am y salwch.
Trafododd ei salwch yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn 2019 ond er mwyn diogelu eu partneriaid oÔÇÖr gorffennol, ni ddywedodd pryd gafodd y diagnosis cyntaf.
Dywedodd wrth bapur The Guardian roedd eÔÇÖn teimlo ÔÇÿcywilyddÔÇÖ ar y pryd. Teimlodd na fyddai pobl wedi deall ac y byddent wedi gweld bai arno fe.
Mae dal llawer o gamddealltwriaeth ynghylch HIV ac i ddechrau doedd Gareth ei hun ddim yn hollol ymwybodol o ffeithiau ynghylch salwch. Dywedodd yn gyhoeddus roedd eÔÇÖn credu ei fydd eÔÇÖn marw a ni fyddaiÔÇÖn cael perthynas eto, pan glywodd fod ganddo HIV am y tro cyntaf.
Mae Gareth Thomas yn brawf nad ywÔÇÖr tybiaethau hyn yn gorfod bod yn wir. Heddiw, mae modd trin HIV fel bod y mwyafrif o bobl gydaÔÇÖr feirws yn gallu bywyd hir ac iach.
Yn ei raglen ddogfen, mae Gareth Thomas yn gwneud Triathlon Ironman. Pwysleisia hyn ei gryfder ef a’r ffaith nad yw HIV wedi ei wanhau.