MaeÔÇÖr gymuned LGBTQ fel y gwyddoch, wedi goroesi nifer fawr o ddigwyddiadau trais a homoffobia yng nghanol yr holl glityr, dawnsio a dathlu. MaeÔÇÖr digwyddiadau erchyll yma tuag at y gymuned LGBTQ yn dyddio yn n├┤l canrifoedd. Er bod pethau wedi ac yn parhau i wellhau, dydiÔÇÖr berthynas rhwng y gymuned LGBTQ aÔÇÖr gymuned heterorywiol dal ddim yn berthynas berffaith, ac mae rhaid cofio mai protest yw pride ac nid parti (wel)!
Yn 1954 sefydlwyd Pwyllgor Wolfenden ar ├┤l i lawer o ddynion adnabyddus gael eu dyfarnuÔÇÖn euog o ÔÇÿanweddusterÔÇÖ. Yna yn 1957 awgrymodd y pwyllgor Wolfenden y dylai rwystro’r ddeddfwriaeth oedd yn atal dau ddyn i gael rhyw, neu’r hawl i droseddu dau ddyn os roeddynt yn cael eu dal. Cafodd yr awgrymiad yma gryn dipyn o gefnogaeth, yn enwedig gan Gymdeithas Feddygol Prydain, er hyn gwrthodwyd yr awgrymiad gan y llywodraeth.
Ychydig wedi hynny, sefydlwyd Cymdeithas Beaumont fel corff hunangymorth cenedlaethol wedi ei redeg ac ar gyfer y gymuned drawsryweddol. Yna yn 1969, y flwyddyn lle sbardunwyd un o ddigwyddiadau fwyaf arwyddocaol y gymuned LGBTQ hyd heddiw. Roedd Stonewall Inn yn Efrog Newydd yn destun cyrch gan yr heddlu yn ystod oriau m├ón y bore. Yn dilyn hyn, bu Stonewall Inn yn wynebu tair noson o aflonyddwch gydaÔÇÖr gymuned LGBTQ yn brwydro yn n├┤l yn erbyn yr heddlu. Roedd lesbiaid a menywod traws groenliw yn rhai o ffigyrau allweddol y gwrthsafiad. Un o’r rheiny oedd Marsha P Johnson, merch draws groenliw a sefydlwyd y ÔÇÿGay Liberation FrontÔÇÖ, a dyma sbardunodd y gymuned LGBTQ i ddechrau ymgyrchu yn galed dros eu hawliau.
Yn 1970 cafodd y Gay Liberation Front ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig, dwy flynedd cyn iÔÇÖr digwyddiad Pride gyntaf gael ei gynnal yn Llundain, a ddenodd dros 2,000 o bobl.
Er roedd pethau yn edrych ar ei fyny iÔÇÖr gymuned LGBTQ yma yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, roedd dal llawer iawn o bobl yn gwrthwynebu caniat├íu dau berson oÔÇÖr un rhyw i fod mewn cariad, ac mewn perthynas.
Yn 1988 cafodd gyfraith newydd ei gyflwyno o dan lywodraeth Margaret Thatcher oÔÇÖr enw ÔÇÿArticle 28ÔÇÖ. Roedd y ddeddf yma yn gwahardd athrawon rhag hyrwyddo perthnasoedd hoyw mewn ysgolion, ac i beidio rhamanteiddio y syniad o deuluoedd hoyw. Roedd y gyfraith newydd yma yn un o nifer o rwystredigaethau a wynebodd Stonewall Prydain, sef elusen sydd yn cefnogi aelodau oÔÇÖr gymuned LGBTQ.
Yn 1992, penderfynodd sefydliad iechyd y byd i stopio cyfeirio at atyniad iÔÇÖr un rhyw fel salwch meddwl, a dim ond yn y flwyddyn 2000 penderfynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godiÔÇÖr gwaharddiad tuag at y gymuned LGBTQ yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Erbyn hyn, mae dynion hoyw yn cael rhoi gwaed, ond dim ond ers 2011 ac mae hynny ar yr amod eu bod ddim yn rhan o unrhyw berthnasedd rhywiol 12 mis cyn rhoi gwaed. Yn fwy diweddar ac yn hanesyddol i’r gymuned LGBTQ, gall cyplau oÔÇÖr un rhyw briodiÔÇÖn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr.
Er bod hawliau yn newid a deddfau yn cael ei dileu, mae dal llawer iawn o waith iÔÇÖw wneud ar lawr gwlad er mwyn atal homoffobia, yng Nghymru, Lloegr ac o gwmpas y byd. Mae bod yn hoyw yn rhywbeth cyffredin, ac maeÔÇÖr gymuned LGBTQ yr un mor gyffredin ├óÔÇÖr gymuned heterorywiol. Dydi caru rhywun oÔÇÖr un rhyw ddim yn cyfiawnhau gweithredoedd homoffobic mewn unrhyw ffordd.
Mae gennym ni gyd waith iÔÇÖw wneud er mwyn sicrhau perthynas iach rhwng y gymuned LGBTQ aÔÇÖr gymuned heterorywiol, ac mae hynny drwy sawl ffactor. Mae angen normaleiddio perthnasoedd yr un rhyw. Mae rhaid gwneud hynny i bawb o bob oedran, yn enwedig ar y teledu, mewn ffilmiau ac mewn llyfrau, i blant a phobl ifanc ond hefyd i oedolion.
Yn yr un modd a hynny mae rhaid dysgu am y gymuned LGBTQ, y terfysgoedd Stonewall, ac yr holl unigolion arwyddocaol sydd wedi siapioÔÇÖr gymuned LGBTQ i fod yn gymuned agored a chynhwysol i bawb. Yn ychwanegol i hynny, mae dyletswydd ar y gymuned heterorywiol i gefnogiÔÇÖr gymuned LGBTQ drwy arwyddo deisebau, cefnogi elusennau, ymuno yn yr hwyl o benwythnos pride. Bellach, mae pride yn cael ei gynnal ym mhob dinas fawr yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn, gan gynnwys prif ddinas Cymru, Caerdydd.
MaeÔÇÖr flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn hynod o od i bawb, ond mae un peth yn sicr, mae pawb ├ó gwaith iÔÇÖw wneud yngl┼Àn ├ó dysgu am eraill, am gymunedau, crefyddau, a hil, ac i beidio bod mor gyfun iÔÇÖn cylch personol.
Mae angen i ni fod yn agored i dderbyn pawb, dim ots pwy maent yn eu caru, neu beth yw lliw eu croen. Mae gan bawb hawl i garu pwy bynnag – byddwch yn garedig, a chefnogwch eich cyd-ddinasyddion!
Geiriau gan Dafydd Wyn Orritt.