Pump cam i’ch ystafell ddelfrydol

Gan Rhiannon James

Mae eich ystafell yn bwysig i’ch profiad o Brifysgol er gall ymddangos yn ddistadl mae fe yn gartref o gartref, felly mae’n bwysig ÔÇÿneud e’n gyffyrddus a gartrefol. Dyma gwpl o gamau i ÔÇÿneud eich ystafell yn lle cysurus byddwch yn hoff o dreulio amser mewn.

Cam Un

Mae argraffu lluniau yn ffordd hawdd o bersonoli eich ystafell. Argraffwch luniau ohonoch chi gyda’ch teulu, ffrindiau, anifeiliaid anwes ÔÇô unrhywbeth sydd yn mynd i wneud i chi deimlo’n hapus pan rydych yn edrych arnyn nhw. Mae defnyddio’r app ÔÇÿFree Prints’ yn ffordd hawdd o argraffu lluniau am bris rhad gan ddaw ond talu cost bost sydd angen. Oes ydych chi eisiau arddangos eich lluniau mewn modd mwy soffistigedig rhowch eich hoff luniau mewn fframiau ÔÇô mae gan IKEA digon o ddewis.

Cam Dau

Efallai chi eisiau gwneud argraff dda ar eich ffrindiau newydd ac yn meddwl bod tedi o’ch plentyndod mynd i wneud y gyferbyn o hyn? Ond, credwch fi mae gan bawb rhywbeth gall godi cywilydd arnynt sy’n rhoi cysur iddyn nhw. Mae eiddo personol yn rhoi’r teimlad fod darn o gartref gyda chi yn y Brifysgol, gall hyn fod yn dedi, blanced neu eich hoff siwmper. Os nad ydych mor sentimental ├ó fi, beth am fynd ag eich cynfas o gartref i’r brifysgol, gall hyn hefyd gwneud i’ch ystafell deimlo’n gartrefol.

Cam Tri

Er bod cael rhannau o gartref yn gysurus, mae’n bwysig cofio fod symud i Brifysgol yn bennod newydd, felly peidiwch fod yn ofn cymryd mantais o’r ystafell newydd i fod yn greadigol. Oes mae hyn yn swnio fwy fel chi, y peth cyntaf rydw i’n awgrymu tyllwch neud yw dewis cynllun lliw, wedyn ewch ymlaen i brynu nwyddau sy’n gydfyd efo’r lliwiau chi wedi dewis. Bydd hyn yn sicrhau fod eich ystafell yn edrych yn hardd ac wedi cyd-drefnu. Defnyddiwch y cyfle o ystafell newydd i greu eich ystafell ddelfrydol, efallai chi wastad wedi gobeithio am ystafell wedi cyflwyno i fflamingos, ewch amdani!

Cam Bedwar

Ni fydd y cam hwn yn apelio i bawb ond mae’r pethau bychain yn gallu sicrhau fod yr holl ystafell yn dod at ei gilydd. Rydw i’n ymwybodol fod bron pob myfyriwr brifysgol gyda ÔÇÿfairy lights’ yn eu hystafelloedd felly nid yw’n syniad unigryw ond mae yna reswm fod pawb yn ddwli arnynt ÔÇô maen nhw’n edrych yn effeithiol heb braidd dim ymdrech. Mae nifer o wahanol fathau o oleuadau pert ac maen nhw’n dod mewn amryw o liwiau, maen nhw’n opsiwn gwahanol i’r lamp syml. Syniad arall yw defnyddio hen jariau jam sydd wedi eu glanhau i ddal stwff fel pens a pensils, brwsiai colur, bobbles gwallt, a.y.b.

Cam Bump

Cadwch eich ystafelloedd yn glan, fi’n gwybod ÔÇÿtaw hyn yw’r peth olaf rydych eisiau gwneud pan rydych efallai wedi yfed gormod y noswaith cyn, ond gall ystafell daclus golygu meddwl taclus ac mae cael meddwl clir mynd i fod yn hanfodol i lwyddo ym Mhrifysgol. Golchwch eich cynfas yn aml ÔÇô does dim llawer yn well ÔÇÿna neidio mewn i wely lan ar ├┤l cael cawod! Defnyddiwch eich bin golchdy, peidiwch adael eich sanau pobman a rhowch bopeth nol ar ├┤l ei ddefnyddio! Camau bach sy’n gallu neud byd o wahaniaeth i sut rydych yn teimlo yn eich ystafell, does neb yn hoffi ystafell anniben. Mae defnyddio canhwyllau neu declyn arall sy’n rhyddhau arogl hardd yn rhoi’r argraff fod eich ystafell yn ffres. Yn ogystal, gallwch yr un arogl a’r un rydych yn defnyddio gartre er mwyn gwneud i’ch ystafell deimlo’n gartrefol. Yn bersonol rydw i’n defnyddio ÔÇÿreed diffuser’, mae hyn oherwydd yn wahanol i gannwyll does dim perygl ac maen nhw dal yn edrych yn bert ac mae amryw o aroglau hyfryd.

 

Mae symud i Brifysgol yn amser llawn ansicrwydd felly mae cael rheolaeth dros eich ystafell yn rhywbeth hwyl i edrych ymlaen tuag at. Byddwch yn si┼Ár o wario llawer o amser yn eich ystafell ÔÇô yn gweithio, ymlacio ac yn amlwg yn cysgu ÔÇô felly mae’n bwysig blaenoriaethu gwneud i’ch ystafell deimlo’n gartrefol.

Scroll to Top