Ar y 23ain o Fawrth 2020, cafodd y byd ei newid am byth pan wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson annog i bawb o fewn y Deyrnas Unedig i aros gartref oherwydd y cynyddiad mewn pobl a oedd yn cael eu heffeithio gan y Coronafeirws. Ar y 30 o Ionawr 2020, cafodd y Coronafeirws ei datgelu yn bandemig gan Sefydliad Iechyd y Byd. Nid tan fis Mawrth cafodd pawb o fewn y Deyrnas Unedig y deffroad garw yr oedd y sefyllfa yn hollol ddifrifol. Ers hynny, mae nifer o agweddau bywyd normal wedi cael eu heffeithio yn aruthrol. Cafodd ysgolion, bwytai, siopau a nifer o lefydd arall wnaethon ni ymweld yn aml cael eu cau heb wybod pryd byddwn nhwÔÇÖn agor eto.
O ran yr economi mae Cymru yn dibynnu ar nifer o dwristiaeth. Dros y blynyddoedd mae nifer wedi dod ar draws y byd i ymweld ar y natur a thirwedd anghredadwy rydyn ni’n lwcus i gael. Mae nifer oÔÇÖr sectorau a chafodd eu cau, e.e. Manwerthu a lletygarwch oedd yn dod llaw yn llaw i helpu cynyddu twristiaeth. Felly efoÔÇÖr effeithiau niweidiol iÔÇÖr sectorau yma gan gynnwys popeth arall maeÔÇÖn amlwg maeÔÇÖr effaith ar yr economi yng Nghymru yn anferth.
Yn ├┤l papur briffio o Brifysgol Caerdydd gan Jes├║s Rodr├¡guez, roedd tua 228,000 (16% oÔÇÖr boblogaeth) o weithwyr yng Nghymru yn gyflogedig o fewn sectorau a chafodd eu cau yn llwyr oherwydd cyfyngiadau. Roedd nifer o bobl sydd yn gweithio o fewn y sectorau busnes a chyllid yn gallu gweithio o gartref yn effeithiol heb iÔÇÖr swydd cael ei heffeithio gormod. , I nifer o bobl eraill yr oedd nifer o newidiadau angen digwydd. Gan gynnwys nifer hefyd yn colli swyddi. Dengys y papur briffio yr oedd nifer a oedd yn derbyn cyflogau is yng Nghymru yn ddeg gwaith mwy tebygol o gael eu heffeithio gan gyfyngiadau oherwydd y Coronafeirws na phobl efo cyflogau uchel. Yn bendant nid ywÔÇÖr effeithiau ar yr economi wedi cael eu dosbarthuÔÇÖn gyfartal ar draws y gymdeithas.
Beth sydd am digwydd nawr?
Dros blwyddyn ar ├┤l iÔÇÖr cyfyngiadau cyntaf cael eu cyhoeddi yn 2020 yr ydym ni ond nawr yn dechrau gweld newidiadau cadarnhaol tymor hir diolch iÔÇÖr NHS ac y brechlyn. Felly mae bywyd normal oÔÇÖr diwedd o gwmpas y cornel. Ond, mae llawer angen cael ei gwneud i cyrraedd normalrwydd eto. Yn enwedig gwellaÔÇÖr economi.
Felly, beth ydyÔÇÖr llywodraeth am wneud i wellaÔÇÖr effeithiau maeÔÇÖr pandemig Coronafeirws wedi cael ar yr economi? Mae llawer o wybodaeth ar gael ar y wefan GOV.WALES ond dyma rhai pwyntiau pwysig i ddarllen-
- Datrys y broblem diweithdra gan gael ┬ú40 miliwn oÔÇÖr ERF am raglenni hyfforddi, yn enwedig i rai sydd o dan 25 ac sydd yn cael trwbl dod o hyd i swyddi- pwrpas y rhaglenni yma i annog cyflogwyr i gynnig prentisiaethau i bobl ifanc.
- Hefyd bydd mwy o gyllid iÔÇÖr ÔÇÿAction Inclusive ProgrammeÔÇÖ sydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc a hen sydd yn teimlo maent yn cael eu hynysu gan y farchnad llafur.
- I sicrhau nid yw pobl ifanc yn colli allan yn addysgol neu yn economaidd a sicrhau maeÔÇÖr bobl ifanc sydd wedi eu heffeithio yn dal lan o ran gwaith ysgol ac yn cael y cymorth sydd angen.
- Cynyddu’r ÔÇÿChildhood Development ProgramÔÇÖ am blant ifanc a chynnig cymorth o ran datblygiadau cymdeithasol ac iaith- buddsoddi miliynau o bunnoedd iÔÇÖr sector gofal plant i ddiogelu darpariaeth barhaus.
- Cynnig cymorth adolygu i blant mewn blynyddoedd 11,12 a 13 gan ffocysu ar fyfyrwyr bregus.
- Gweithio efo cymunedau lleol i fuddsoddi canol trefi a sicrhau maent yn edrych yn fwy deniadol gan ffocysu ar greu cymuned fywiog a bydd yn creu awyrgylch cadarnhaol (gall hwn hefyd helpu o ran cynyddu twristiaeth).
- Bydd mwy o gymorth i siopau a busnesau lleol yn gallu darparu swyddi i nifer.