Tafliad N├┤l: Tyfu i fyny yn y De

Gan Daniel Greenway

Os wnaethoch astudio Cymraeg fel Safon Uwch, maeÔÇÖn debyg iawn y byddech wedi dod ar draws y bardd Ifor ap Glyn. Disgrifir yn ei gerdd beaufort, blaenau Gwent, mewn gwyrdd cysylltiad annatod yr iaith rhwng y presennol aÔÇÖr dyfodol. Gw├¬l y bardd holl dyfiant y fynwent yn symbol am dwf yr iaith, mewn ardal ddad-ddiwydiannol yn ne Cymru. Y twf ywÔÇÖr genhedlaeth iau. Ond a yw hon yn ddadl deg i’w wneud?

Gafael basig ar yr iaith sydd gan fy rhieni, er iddyn nhw benderfynu ei anfon fy mrawd a minnau i ysgol gyfrwng Cymraeg. Nid oedd hwn yn benderfyniad anarferol. Mae’r galw am addysg gyfrwng Cymraeg wedi tyfu’n gyson yn y de dros y degawdau diweddar, gyda llawer o rieni yn gweld y buddion a’r cyfleoedd a allai deillio iÔÇÖw phlant. Yn aml bydd ysgolion gyfrwng Gymraeg yn y de yn perfformio’r gorau yng Nghymru yn erbyn eu cymheiriaid. Mae addysg gyfrwng Cymraeg yn un o’r straeon llwyddiant mawr yn addysg Cymru wrth adfer yr iaith. Er, maeÔÇÖn annheg iÔÇÖw awgrymu mai hon wedi bod yn daith syml yn y de. Mae fy mhrofiad i yn un debyg. Dwi wedi profiÔÇÖr stigma aÔÇÖr ÔÇÿcywilyddioÔÇÖ a gadawyd ar ├┤l gan y Brad y Llyfrau Gleision tuag at yr iaith, gan rhaiÔÇÖn eu galw’r iaith ymadawedig ac yn un ddibwrpas. BuÔÇÖr iaith yn cysylltu’n anghywir ├ó safonau addysgol a moesoldeb isel.

Mae’n iawn iÔÇÖw awgrymu bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn ne Cymru yn cynyddu, ond mae hwn ond un ochr iÔÇÖr geiniog. Fel unigolyn, dwiÔÇÖn angerddol ac yn falch iawn fy mod i’n gallu siarad iaith fy hynafiaid, er yn aml mae Saesneg yn dod yn fwy naturiol wrth siarad ├óÔÇÖm ffrindiau a theulu yn dibynnu ar gyd-destun. Byddwn yn sgwrsio gyda ffrindiau yn Saesneg oherwydd dyna’r iaith y byddent yn ei siarad ├ó mi. Mae yna rhywfath o gylch dieflig. Yr her felly yw ceisio newid y normalrwydd o siarad Saesneg i siarad Cymraeg. Mae Saesneg yn iaith sy’n dominyddu byd busnes ac academyddion. Y ddoler Americanaidd yw’r arian cyfred o ddewis ledled y byd. Felly, rydyn ni’n byw mewn amgylchedd sydd wedi’i deilwra o amgylch yr iaith Saesneg, heb ddarparu unrhyw gymhellion i ddefnyddioÔÇÖr iaith fel yr iaith ÔÇÿdewis cyntafÔÇÖ. Ai’r ateb yw cael mwy o gymhellion i siarad Cymraeg?

Fe wnaeth fy ysgol weithredu polis├»au i gymell disgyblion i ddefnyddioÔÇÖr iaith, gan roi gwobrau i rheiny a oedd yn defnyddioÔÇÖr iaith. Byddai athrawon yn cadw cyfrif at nifer o weithiau byddent yn clywed rhywun yn defnyddioÔÇÖr iaith tu allan i wersi.┬á Yn ogystal, b├╗m yn cystadlu mewn EisteddfodauÔÇÖr ysgol a chystadlaethau Urdd, lle byddem yn dathlu ein diwylliant a rennir.

Yn aml wrth imi gyfathrebu ar lafar, byddaf yn defnyddio geirfa Saesneg a Chymraeg h.y. Wenglish. Mae hon i mi yn beth normal ac nid yw’n arwydd o ddryswch. Mae newid cod yn bodoli’n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, mae pobl yn wreiddiol o Dde America sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau yn defnyddio Sbaeneg a Saesneg gyda’i gilydd. Mae pobl India hefyd yn defnyddio ieithoedd fel Hindi a Punjabi gyda Saesneg.

RwyÔÇÖn ymfalch├»o yn y ffaith fy mod iÔÇÖn siarad Cymraeg pryd y gallwn. Mae digwyddiadau megis Tafwyl, Dydd Miwsig Cymru a ÔÇÿ(s┼Án)ÔÇÖ wedi rhoi cyfleoedd i mi i fedru defnyddioÔÇÖr iaith. Yn yr un modd, mae Hansh (Gwasanaeth ar-lein gan S4C a anelir i bobl ifanc) syÔÇÖn dangos brathiad bob dydd o gerddoriaeth, comedi, straeon pryfoclyd, celf drawiadol, a phethau gwirion eraill wedi rhoi fwy o hyder i mi i ddefnyddioÔÇÖr Gymraeg. Mae eitemau gan Bry, Hywel Pitts aÔÇÖr Welsh Whisperer wedi fy ysbrydoli i gymryd fwy o sylw ac i bob pwrpas fwy o barch iÔÇÖr cyfryngau Cymraeg yn enwedig wrth gan fy mod i’n dod o deulu lle maeÔÇÖr brif iaith yw Saesneg . Un oÔÇÖm bryderon mwyaf yw colli iaith, felly, rwyÔÇÖn ystyried fy hun mewn dyled iÔÇÖr rheiny sy’n darparu gwasanaeth fel hyn. Fel Cymro, mae gen i gyfrifoldeb i sicrhau fod yr iaith yn fyw ac i drosglwyddo’r iaith i’m blant. Mae cyfrifoldeb hon yn un yr un mor bwysig i mi ag ydyw i unrhyw un arall syÔÇÖn byw ledled Cymru.

I gloi, maeÔÇÖr gallu i siarad a chyfathrebu trwy gyfrwng yr iaith wedi gwneud mi i fod yn unigolyn mwy cynhwysol a chroesawgar ac wedi agor drysau i ddiwylliannau, cyfeillgarwch, cerddoriaeth, celfyddydau a chyfleoedd.