Tyfu lan o amgylch Cymru fel siaradwyr Cymraeg yn wahanol yn dibynnu ble yn union rydych chi’n byw. Gall hyn newid os ydych chi’n dod o’r Gogledd wrth gymharu ├ó’r De, neu hefyd newid wrth i chi tyfu lan yn d┼À Cymry Cymraeg neu d┼À efo siaradwyr Saesneg. Dyma un cyfrannwr yn trafod sut oedd tyfu lan yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru.
Gan Rhianedd Grug Gwilym
Cefais i fy ngeniÔÇÖn Ysbyty Maelor yn Wrecsam, yna fy magu yn yr Wyddgrug (Mold) mewn teulu Cymraeg; fy rhieni, dwy chwaer ac un brawd h┼Àn. Yn yr Wyddgrug roeddwn i’n ddigon ffodus i fynychu cylch meithrin drwy gyfrwng y Gymraeg, cyn symud ymlaen i fy ysgol gynradd Cymraeg, Glanrafon. Er fy mod i yn dod o deulu Cymry Cymraeg, nid felly oedd yr achos efoÔÇÖr mwyafrif o fy nghyd-ddisgyblion. Saesneg oedd eu hiaith adref nhw ac felly dim ond yn yr ysgol roedden nhw mewn amgylchedd Cymraeg. O ganlyniad i hyn, anodd oedd i mi eu cael nhw i siarad yr iaith tu allan iÔÇÖr dosbarth. Er hyn roedden ni yn mynd iÔÇÖr is-adran Cymraeg, a phan ddaw ffrind draw i chwarae, Cymraeg buasem ni wediÔÇÖi siarad. O ran bywyd tu allan iÔÇÖr ysgol, maeÔÇÖr Wyddgrug yn cynnig ambell i weithgaredd drwyÔÇÖr Gymraeg ÔÇô roedd athrawes biano Gymraeg gen i. Yn fy ysgol Sul roedd criw ohonom ni, a hefyd yn ystod yr haf cynigiaiÔÇÖr Urdd gynllun chwarae i blant, ond fel arall, prin oedd y cyfleoedd Cymraeg o gymharu efoÔÇÖr sefyllfa heddiw.
Yn y cartref ymhell cyn dyfodiad ÔÇÿCywÔÇÖ, ÔÇÿPlaned Plant BachÔÇÖ fyddwn iÔÇÖn ei wylio ar y teledu er mwyn gweld ein hoff gymeriadau megis ÔÇÿSali MaliÔÇÖ a ÔÇÿSuperTedÔÇÖ cyn gwylio ÔÇÿRownd a RowndÔÇÖ ac ÔÇÿUned 5ÔÇÖ- y pwynt ydi, S4C fyddaiÔÇÖn hawlioÔÇÖr sgrin o fore gwyn tan nos, rhywbeth nad oedd yn gyffredin rhyngof i a fy ffrindiau. Tebyg oedd y sefyllfa efoÔÇÖr radio a chaneuon Cymraeg yn gyffredinol; pan oedd fy ffrindiauÔÇÖn siarad am ryw ganwr/cantores newydd poblogaidd. Yn aml doedd gen i ddim syniad am bwy roedden nhwÔÇÖn ei siarad gan mai BBC radio Cymru, Bryn Fon a Gwibdaith Hen Fran roeddwn i wediÔÇÖi harfer eu clywed.
Yn dilyn fy mhlentyndod yng Nglanrafon, yn Ysgol Maes Garmon roedd cyfnod nesaf fy mywyd. Yma hefyd, er gwaethaf bod yn ysgol Gymraeg, Saesneg oedd iaith adref rhan fwyaf oÔÇÖr disgyblion yn cynnwys fy nghriw ffrindiau. Roedden nhw wedi hen arfer siarad yn ddi-Gymraeg ymysg ei gilydd, ac felly eto, er gwaetha fÔÇÖymdrechion, Saesneg oedd iaith y gr┼Áp. Yn yr ysgol, roedd siarad Cymraeg ddim yn cael ei weld yn ÔÇÿc┼ÁlÔÇÖ ac felly doedd o ddim yn boblogaidd , a brwydr oedd hi iÔÇÖr athrawon gael y disgyblion iÔÇÖw siarad ar brydiau. Fodd bynnag, maeÔÇÖr ysgol hyd heddiw yn cynnal cwrs trochi er mwyn cael disgyblion cynradd di-Gymraeg I ymuno ├óÔÇÖr ysgol, ac i ddysguÔÇÖr iaith oÔÇÖr newydd. Erbyn blwyddyn 8 roedden nhw yn cael pob gwers drwyÔÇÖr Gymraeg yn union fel ni. Er hyn, nad o ganddyn nhw gymaint o gyfle iÔÇÖw hymarfer gan fod pawb yn gyffredinol yn siarad Saesneg ar y coridorau ac ar y buarth.
Ym mlwyddyn 13, roeddwn i a fy ffrindiau yn rhan oÔÇÖr pwyllgor ÔÇÿBwrdd Syr IfancÔÇÖ efoÔÇÖr Urdd, a buÔÇÖn rhaid i ni fynd i Gaerdydd am benwythnos ynghyd a phwyllgorau eraill ar draws Cymru. Yn ystod ein taith fe agorodd fy llygaid at y ffaith bod pobl eraill ├óÔÇÖr un oed a mi wir yn siarad Cymraeg efoÔÇÖi gilydd ÔÇô heb oedolyn yn dweud wrthynt am wneud! Yn byw mor agos at Ffin Lloegr, maeÔÇÖn debyg fod gan Sir y Fflint enw am fod yn ardal braidd yn Saesneigaidd ac felly, pan roedden nhwÔÇÖn siarad ├ó mi a gofyn o le roeddwn yn dod, roedden nhw i gyd yn synnu efo fy ateb, gan nad oedden nhw yn meddwl fod neb oÔÇÖr Wyddgrug yn siarad Cymraeg. Wrth gwrs fe wnaeth hyn wneud i mi deimlo yn flin fod pobl yn meddwl am fy ardal fel hyn, ond hefyd teimlais i yn falch fy mod yn dangos iddynt ein bod ni yn ei siarad er gwaethaf bod mor agos at Loegr. Sylweddolais gymaint roeddwn iÔÇÖn caru siarad Cymraeg, a pha mor gyfforddus ydw i yn ei siarad o gymharu ├ó Saesneg. Diolch iÔÇÖr penwythnos yma, roedd meddwl am symud i Gaerdydd iÔÇÖr brifysgol mis Medi yn llawer haws, gan fyddwn i’n mewn cymdeithas Cymraeg ac oÔÇÖr diwedd yn gallu siarad Cymraeg efo ffrindiau oedd hefyd yn rhannu fy mrwdfrydedd tuag at y Gymraeg.
A minnau newydd ddod adref o fy mlwyddyn tramor yn Ffrainc ac yr Eidal fel rhan o fy nghwrs, er y cymaint wnes i fwynhau maeÔÇÖn saff i ddweud fy mod yn dyheu am fod n├┤l yn fy mamwlad ac yn siarad fy mamiaith.