Y s├«n roc Gymraeg oedd trac sain fy magwraeth. Cefais fy magu ger y Barri i rieni o’r gogledd ac ydy, cyn i chi ofyn, mae fy acen yn rhyfedd. Doedd canu Cymraeg ddim i’w glywed llawer yn yr ysgol nac yn y dref, felly dim ond yn Disco Renault Espace Dad roedd modd i mi fwynhau perseiniau’r s├«n. Ond, ar ├┤l symud i’r brifddinas cefais floeddio am gerddoriaeth Cymraeg am y tro cyntaf erioed. Roedd pobol eisiau dod i gigs gyda mi, dim jest fi oedd yn llusgo nhw! Nid oedd yn rhaid i mi weiddi ar dop fy llais yn ganol y gig “IE, JEST YN GYMRAEG MANW’N CANU!”. Am y tro cyntaf roeddwn yn medru rhannu fy nghyffro am fand yn rhyddhau sengl gyda rhywun arall! Doeddwn wir methu credu’r peth. Felly, pan ddaeth y cyfle i sgwennu’r erthygl hon fe neidiais arni, a gyda thema’r cylchgrawn mewn golwg, dwi am fynd a chi ar daith. Dyma restr o rai o fy hoff artistiaid Cymraeg sydd wedi bod dros y degawdau, cewch chwerthin a chrio ar fy newisiadau fel y mynnwch.
Y Blew
Yn y dechreuad roedd ÔÇÿY Blew’. Y band a gynnodd t├ón y s├«n roc Gymraeg rydym i gyd yn ei adnabod heddiw. Gyda’i sengl enwog ÔÇÿMaes B’ yn deitl ar hoff ┼Áyl gerddorol pobol ifanc ein gwlad, mae dylanwad y band i’w weld ym mhob cornel o ddiwylliant Cymraeg cyfoes. Roeddent yn gwthio ffiniau gyda’u s┼Án secedelig, nhw oedd y chwa o awyr iach ymysg cerddoriaeth werinol a thraddodiadol yr adeg. Yn wir, mae fy niolch i’r Blew yn anfarwol.
Endaf Emlyn
Endaf Emlyn. Enw nid oeddwn wedi ei glywed tan ambell i fis yn ├┤l. Ar ├┤l clywed yr holl frwdfrydedd dros ryddhad ei waith yn ddigidol, yn amlwg roedd yn rhaid i mi weld am beth roedd yr holl ffß╗│s, a chefais i ddim fy siomi. Fy hoff agwedd o’i gerddoriaeth ydy s┼Án hardd y piano. Mae dechrau’r g├ón ÔÇÿMadryn’ yn fy ymlacio yn llwyr gan hefyd fy ngwneud eisiau neidio ar y piano er mwyn dysgu’r patrwm cordiau persain. Os daeth un peth da allan o 2020, fi yn darganfod Endaf Emlyn oedd hynny.
Meic Stevens
Does dim modd siarad am gerddoriaeth Cymraeg heb s├┤n am y dyn hwn. Mae ei ganeuon rywsut yn osgoi amser yn llwyr gan apelio at bob aelod o’r teulu (ydy, mae hynny hyd yn oed yn cynnwys Nain). Mae gan ei gerddoriaeth y p┼Áer i dawelu ystafell ac i ddod a deigryn i lygaid hyd yn oed y person mwyaf swrth (dwi’n edrych arna chdi Dad). Cafodd y sengl ÔÇÿNos Du, Nos Da’ ei ganu yn hyfryd gan Lewys Wyn a Gwyn Rosser yn ddiweddar a wir i chi, dwi’n meddwl taw fi ydy bob un o’r 125 views ar y fideo.
Caryl Parry-Jones a Bando
Ydw i angen dweud mwy? Hollol iconig. Os ydych chi erioed yn clywed unrhyw un yn dweud nad ydynt yn hoffi Caryl, mae nhw’n dweud celwydd. O rythmau ÔÇÿfunky’ ÔÇÿSiamp┼Á’ i eiriau torcalonnus ÔÇÿAil Feiolin’, does ‘na ddim byd dydy’r ddynes methu ei wneud. Roedd ei pherfformiad yn Tafwyl 2019 yn un o uchafbwyntiau fy mywyd ac mae canu ÔÇÿGorwedd gyda’i nerth’ gyda fy ngh├┤r bob tro yn dod a gw├¬n anferth i fy ngwyneb. Hir oes i Caryl!
Bryn F├┤n a Sobin a’r Smeiliaid
Wneith wrando ar gerddoriaeth Bryn F├┤n wastad fy atgoffa o’r A470. Mae clywed ei lais yn mynd a mi syth yn ├┤l i’r lonydd afiach o droellog drwy’r canolbarth ac yn codi hiraeth arna’i dros fy nheulu yn y gogledd. Dwi’n cofio bloeddio canu ÔÇÿCeidwad y Goleudy’ ym mhriodas fy nghyfnither a meddwl ar y pryd nad oedd modd bod unrhyw hapusach. Bryn, ti ydy’r dyn wneith byth fy siomi.
Beganifs a Big Leaves
Heb os nac oni bai, un o fy hoff fandiau Cymraeg EVER. Dwi’n medru gwrando ar ei albwm am oriau ar y tro gan ddisgyn mewn cariad gyda bob c├ón eto ,ac eto, ac eto. Mae ÔÇÿCwcwll’ yn gwneud i mi neidio o gwmpas fel kangaroo ar steroids a’r geiriau anhygoel ÔÇÿAlaw sy’n newid o donfedd i donfedd a’r d├┤n sy’n aflonydd, dwi’n derbyn y d├┤n’ yn fy syfrdanu bob tro dwi’n eu clywed. Dwi’n teimlo fel arddegwr blin sydd eisiau dianc rhag crafangau mam wrth imi wrando ar ÔÇÿBl├¬r’ ar ÔÇÿfull volume’ yn fy nghlustffonau. Big Leaves ÔÇô the ultimate serotonin kick.
Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals
SFA, y band mwyaf dylanwadol Cymraeg erioed? Mae ei gwaith cynnar fel Ffa Coffi Pawb yn cynnwys rhai o fy hoff ganeuon megis ÔÇÿBreichiau Hir’ a ÔÇÿLluchia dy fflachlwch drosda i’. Mae eu caneuon yn swnio fel yr Haf a llais Gruff Rhys yn gwneud i mi deimlo’n gynnes tu fewn. Mae ei agwedd ÔÇÿffwrdd a hi’ i’w glywed yn y gerddoriaeth gyda bob cyfansoddiad yn cynnig rhywbeth newydd, fel bod ei blas ar fiwsig yn newid ar ├┤l bob peint. Dwi’n meddwl taw rhan o’i ap├¬l oedd faint o ÔÇÿnormal’ oeddent. Jest criw o hogia’ oedd yn medru teithio’r byd wrth sgwennu cerddoriaeth roeddent yn mwynhau. Dim byd mwy, a dim byd llai.
Frizbee
Mae cerddoriaeth Frizbee yn fy atgoffa o wylio Uned 5 ar bnawn Nos Wener glawiog pan oeddwn tua 7 oed. Mae eu caneuon ÔÇÿcatchy’ yn gallu troelli yn fy mhen am oriau a dwi’n ffeindio fy hun weithiau yn sgrechian ÔÇÿSI-HEI LWWWWWW FY MABIII’ yn hollol ar hap. Mae ÔÇÿDa ni n├┤l’ yn un o fy hoff faledi gyda’r stori ynddi yn codi calon. Yn amlwg, daeth llwyddiant Yws Gwynedd yn hwyrach wrth iddo dorri’n rhydd, gydag un g├ón yn benodol yn gwneud argraff enfawr ar boblogeiddrwydd cerddoriaeth Cymraeg (u know the one). Mae argraff Yws Gwynedd a Frizbee i’w weld yn glir yn y s├«n heddiw gyda bandiau megis Gwilym a Lewys wedi magu’r un s┼Án cythryddus o fachog.
Elin Fflur
Pwy fysa’n meddwl busai’r ferch ifanc ar lwyaf G├ón i Gymru yn 2002 yn mynd ymlaen i ddominyddu’r s├«n cerddoriaeth Gymraeg? Mae melod├»au syml ,ond effeithiol, ei chaneuon yn golygu bod pawb yn medru canu gyda hi, a’i llais pwerus yn hitio bob nodyn ├ó grym. Mae ei gwisgoedd disglair a lliwgar wastad yn llenwi llwyaf a’i gw├¬n fawr yn dod ag egni gwych i’w pherfformiadau. Dwi’n si┼Ár fydd hyd yn oed fy wyrau ac wyresau yn canu Harbwr Diogel, clasur pur!
Papur Wal
Dwi jest yn caru Papur Wal. O rythmau c┼Ál ei gitarau i’w fideos cerddorol boncyrs, mae bob dim amdanyn nhw yn neud i mi wenu. Gyda’r g├ón ÔÇÿMeddwl am Hi’ yn cyrraedd brig siart amgen Rhys Mwyn yn ddiweddar, mae ei argraff ar y s├«n yn amlwg. Dwi methu stopio fy hun rhag chwarae eu caneuon yn llawer rhy uchel drwy ddarseinydd, gan falu llinynnau fy llais wrth adrodd stori Jac Hudec yn ÔÇÿYn y Weriniaeth Tsiec’. Mae’n hyfryd cael bandiau Cymraeg sydd yn creu cerddoriaeth mwy ÔÇÿindie’ sydd yn sicrhau dydy sain y s├«n ddim yn aros yn rhy gul.
Los Blancos
Band arall dwi wrth fy modd gyda. Mae ei s┼Án ÔÇÿslacker rock’ yn swnio fel plentyn sydd yn gwrthod gwneud ei waith cartref, ond sydd dal yn ddigon crefftus i beidio cael fewn i drwbl. Mae ei albwm diweddar, ÔÇÿSbwriel Gwyn’, yn gampwaith gyda phob c├ón yn ysgogi emosiynau gwahanol. Gyda chaneuon megis ÔÇÿCadi’ yn mynd a fi n├┤l at gigs meddwol yn ÔÇÿsteddfod, tra bod eraill fel ÔÇÿCadw Fi Lan’, yn fy sobri’n llwyr, gan fy atgoffa o bwysigrwydd cyfoedion. Wrth. Fy. Modd.
Adwaith
Ai dyma’r tair merch fwyaf c┼Ál yng Nghymru? Mae’r gan ÔÇÿLipstick Coch’ wastad yn fy nghodi o fy sedd ac yn fy rhoi mewn hwyliau da ar gyfer noson allan. Mae llais melfedaidd Hollie, y brif gantores, fel atsain heddychlon sy’n clymu bob c├ón at ei gilydd, glywir hyn ar ei orau yn ÔÇÿFel i fod’. Roedd ei pherfformiad yn Tafwyl 2020 yn anhygoel gyda’r band yn dangos ochr mwy tawel a melodaidd i’w cerddoriaeth. Maent wedi derbyn y grant ÔÇÿMomentum’ yn ddiweddar gan gwmni PRS, y band Cymraeg cyntaf i’w dderbyn, er mwyn ei galluogi i hysbysebu eu halbwm newydd i gynulleidfa fwy eang. Dwi methu disgwyl tan albwm rhif 2!
Hyll
Dwi erioed wedi gwrando ar fand sydd yn gallu gwneud i mi grio mor hawdd, a dwi’n meddwl hynny yn y ffordd gorau posib. Mae bob gair mor bwysig a bob un yn dal ei le yn berffaith. Maent yn crynhoi sut deimlad ydy hi i fod yn ifanc a’r g├ón ÔÇÿSai’n Si┼Ár’ yn disgrifio yn berffaith sut mae modd teimlo ar goll yng nghanol bwrlwm tyfu fyny. Mae’r g├ón ÔÇÿCoridor’ yn un o fy hoff ganeuon erioed. Mae’r gymysgedd syml o biano a llais yn creu s┼Án gwag a noeth, ond eto mor llawn.
A dyna ni! Fy nhaith gerddorol wedi dod i ben. Gobeithio eich bod am ychwanegu ambell i artist newydd i’ch ÔÇÿplaylists’ heno. A chofiwch, os dydych ddim yn hoffi unrhyw un o fy argymhellion, please peidiwch a deutha fi.
Geiriau gan: Elen Owen.

