Geiriau gan Rhiannon Jones
Mae llawer o greawdwyr wedi cael llwyddiant ar gyfryngau cymdeithasol wrth greu cynnwys am draddodiadau Cymreig. Mae’r cynnwys yn amrywio o waith celf ddeniadol, cynnwys addysgiadol a chomedi ysgafn. Yn ogystal, mae pob un oÔÇÖr creawdwyr yn dod ag elfen eu hun i’r traddodiadau yma ÔÇô a ÔÇÿdyn nhw bendant ddim yn sych naÔÇÖn hen ffasiwn!
Un enghraifft hwyl a phoblogaidd yw Mari, syÔÇÖn rhedeg cyfrif┬áMythsntits┬áar┬áInstagram. Mae ei chyfrif yn llawn darluniau llachar ac maeÔÇÖn agos at ddenu 10,000 o ddilynwyr. O edrych ar ei chyfrif, gallwch weld fod y wisg Gymreig draddodiadol yn ymddangos yn aml yn ei gwaith, ac mae rhai oÔÇÖi darluniau yn seiliedig ar chwedlau Cymreig yn ogystal. Fodd bynnag, mae Mari yn cyfunoÔÇÖr elfen draddodiadol hon gydag elfen chwareus, ac weithiau elfen rywiol hefyd. MaeÔÇÖn ddiogel dweud fod y cymysgedd hwn yn bendant yn gweithio.┬á
MaeÔÇÖr ferch draddodiadol Gymreig yng nghynnwys Mythsntits yn llawer mwy na merch syÔÇÖn gwisgoÔÇÖr wisg draddodiadol yn unig. Mae llawer oÔÇÖr darluniauÔÇÖn dangos merched Cymreig syÔÇÖn gallu siarad yn ├┤l, a merched syÔÇÖn gyfforddus gydaÔÇÖu rhywioldeb. Ar yr un pryd, mae rhannau o waith celf Mari yn normaleiddio rhywioldeb pobl LHDT+ (Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Traws), ac felly mae negeseuon positif yn cael eu ychwanegu at a’u cysylltu ├óÔÇÖr traddodiadau Cymreig.
Os hoffech chi ddysgu mwy am draddodiadau Cymreig, maeÔÇÖn sicr yn syniad dilyn cyfrif Efa Lois ar Instagram neu Twitter. Mae gan Efa Lois ddawn am waith celf feddylgar, sydd hefyd yn edrych yn ddeniadol iawn. Yn ei gwaith, mae hiÔÇÖn darlunio pethau syÔÇÖn gysylltiedig ├ó thraddodiadau Cymreig fel y Fari Lwyd, yn ogystal ├ó chelf am chwedlau a gwrachod Cymru. Yn ychwanegol, mae hiÔÇÖn dueddol o esbonioÔÇÖr traddodiad yn ddwyieithog o dan ei delweddau er mwyn rhoi cyd-destun ac fel y gallwch ddysgu rywbeth newydd.
Wrth gwrs, mae rhai creawdwyr ar gyfryngau cymdeithasol hefyd yn ychwanegu elfen gomed├»aidd wrth greu cynnwys am y traddodiadau hyn. Er enghraifft, mae Ellis Lloyd Jones yn adnabyddus am ei gynnwys doniol tu hwnt ar TikTok, ac mae Cymreictod yn thema amlwg yn ei gynnwys. Fel rhan o hynny, maeÔÇÖn esbonio rhai traddodiadau Cymreig mewn modd syÔÇÖn llawn dychymyg a hiwmor. Ar Ddydd Santes Dwynwen, adroddodd Ellis stori Dwynwen i’w 130,000 o ddilynwyr. Rhoddodd stamp ei hun ar y stori pan roddodd enwau cyfarwydd fel Ruth Jones a Mark Drakeford i gymryd lle prif gymeriadauÔÇÖr stori ÔÇô ac Ellis chwaraeodd bob un r├┤l!
Ar ben hynny, cydweithiodd Ellis gyda Hansh, cyfrif sydd hefyd yn llawn cynnwys digrif o amgylch traddodiadau Cymreig. Yn anhygoel, cyfunon nhw chwedlauÔÇÖr Mabinogi gyda steil y rhaglen deledu realiti enwog, ÔÇÿKeeping Up with the KardashiansÔÇÖ. Ar ├┤l gwylioÔÇÖr clip a chwerthin cymaint ├ó hynny, maeÔÇÖn annhebygol iawn y byddech chiÔÇÖn anghofioÔÇÖr chwedlau fyth eto.
MaeÔÇÖn deg i ddweud fod traddodiadau Cymreig yn denu sylw ac yn creu cyffro ar gyfryngau cymdeithasol. Gyda chymaint o greadigrwydd a hwyl yn rhan oÔÇÖr cynnwys, maent yn denu cynulleidfa newydd i ddysgu am rai traddodiadau Cymreig. Nid y traddodiadau hyn yn unig syÔÇÖn gyfrifol am yr holl ddiddordeb ar gyfryngau cymdeithasol; MaeÔÇÖr ‘twists’ ffres ac unigryw y mae creawdwyr (yn debyg i’r rhai uchod) yn ychwanegu at ein traddodiadau fel Cymry yn dod ├ó mwynhad mawr i lawer ohonom ni.┬á┬á┬á