Beth ywÔÇÖr Genhedlaeth Windrush?
MaeÔÇÖr ÔÇÿGenhedlaeth WindrushÔÇÖ yn cyfeirio at y rhai wnaeth deithio o wledydd Carib├»aidd i Brydain rhwng 1948 ac 1971.
Ar y pryd, roedd diffyg gweithwyr megis nyrsys a gweithwyr rheilffordd ym Mhrydain ar ├┤l y rhyfel. Felly, fel rhan oÔÇÖr Gymanwlad, daeth llawer oÔÇÖr genhedlaeth Windrush i weithio.
Yn ├┤l yr Archifau Cenedlaethol, cyrhaeddodd tua hanner miliwn oÔÇÖr genhedlaeth Windrush rhwng 1948-1970.
DawÔÇÖr enw ÔÇÿWindrushÔÇÖ o ÔÇÿHMT Empire WindrushÔÇÖ sef enwÔÇÖr llong wnaeth cludo gr┼Áp o bobl o wledydd Carib├»aidd i Brydain yn 1948.
Y Sgandal
Dechreuodd y sgandal ddenu sylw yn y wasg yn 2017, er roedd y Swyddfa Gartref wedi cael eu hysbysu am elfennau oÔÇÖr sgandal yn 2013.
Roedd y rhan helaeth oÔÇÖr sgandal yn ganlyniad iÔÇÖr polisi ÔÇÿamodau gelyniaethusÔÇÖ a ddechreuodd yn 2012, gydaÔÇÖr bwriad oÔÇÖi wneud yn anodd i fewnfudwyr anghyfreithlon fyw ym Mhrydain.
Golygodd hyn roedd rhaid i bawb ddangos dogfennau adnabod er mwyn profi eu bod nhw yn y wlad yn gyfreithlon wrth geisio am swydd, lle i fyw a thriniaeth trwyÔÇÖr gwasanaeth iechyd.
Roedd hyn yn broblem gan nad oedd gan llawer oÔÇÖr genhedlaeth Windrush y dogfennau oherwydd teithion nhw i Brydain ar basbort eu rhieni.
Yn waeth, cafodd cardiau glanio eu dinistrio gan y Swyddfa Gartref yn 2010. Felly, roedd yn anodd i’r genhedlaeth Windrush brofi eu bod nhw ym Mhrydain yn gyfreithlon, hyd yn oed os roeddynt wedi bod yn gweithio a thalu trethi ers blynyddoedd.
O ganlyniad i ddiffyg gwaith papur, collodd llawer ohonynt eu swyddi a’u mynediad at driniaeth gan y gwasanaeth iechyd, a chafodd rhai eu gyrru oÔÇÖr wlad yn anghyfiawn. MaeÔÇÖr gweithredoedd hyn yn cyferbynnuÔÇÖn llwyr gyda chroesoÔÇÖr gwasanaeth iechyd i’r genhedlaeth Windrush yn 1948 pan roedden nhwÔÇÖn gofalu amdanon ni wrth wneud y swyddi pwysig nad oedd digon o bobl Prydain am wneud.
Roedd y genhedlaeth Windrush yn gwynebu ansicrwydd ac ofn ynghylch eu dyfodol yn y wlad. Gyda faniau ├óÔÇÖr neges ÔÇ£In the UK illegally? Go home or face arrestÔÇØ yn gyrru ar hyd Prydain yn rhan o strategaeth y Llywodraeth. MaeÔÇÖn ymddangos roedd yr elyniaeth yn amhosib iddynt ei dianc.
Yn ├┤l adroddiad annibynnol ar y testun gall y sgandal wedi cael ei rhagweld, aÔÇÖi hosgoi.
Cyfraniad y Genhedlaeth Windrush yng Nghymru
Er bod llawer yn gwrthod cydnabod bod unigolion oÔÇÖr genhedlaeth Windrush yn bodoli yng Nghymru, maent wedi cyfrannuÔÇÖn fawr at ein gwlad.
MaeÔÇÖn amlwg i’r genhedlaeth Windrush gyfrannu at ein heconomi. Wrth i’r galw am weithwyr gynyddu yn y 50au, roedd rhai cyflogwyr yn cyflogi pobl oÔÇÖr Carib├« cyn iddynt gyrraedd Prydain. Roedd yn arferol i gwmn├»au dalu am daith y gweithwyr i Brydain ac ennill yr arian yn ├┤l dros amser trwy ostwng t├ól y gweithwyr.
Hefyd, maent wedi cyfrannuÔÇÖn fawr tuag at ein gwasanaeth iechyd. Mae Jackie Jones yn enghraifft oÔÇÖr genhedlaeth Windrush yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at y GIG.
Rhannodd Jackie ei stori yn rhan o brosiect gan yr African Community Centre. Glaniodd hi yn Llundain ac yna daeth i Gymru yn 1972 i hyfforddi fel nyrs, yn ysbyty Castell Nedd. Mae hi wedi bod yn gweithio mewn ysbytai yng Nghymru am dros dri degawd.
Yn debyg, mae Vernester Cyril OBE wedi cyfrannu at y GIG trwy weithio fel nyrs ac yna fel bydwraig yng Nghasnewydd.
Yn ychwanegol, mae Vernester wedi siarad ar draws Cymru yngl┼Àn ag anghydraddoldeb a derbyniodd Vernester OBE yn 1999 am ei gwaith gyda chymunedau yn Ne-ddwyrain Cymru. Credai Vernester buasai dysgu am hanes eraill mewn ysgolion yn gwneud ein cymdeithas yn fwy cyfoethog aÔÇÖn fwy parod i dderbyn eraill.
Iawndal Poenus o Araf
Mae nifer o’r dioddefwyr yn dal i aros am iawndal yn dilyn y sefyllfa. Ar ddiwedd mis Mai eleni, 60 oÔÇÖr dioddefwyr yn unig oedd wedi derbyn iawndal trwy gydol Prydain.
Yn ogystal, cwpwl o wythnosau yn ├┤l adroddwyd bod o leiaf 5 oÔÇÖr dioddefwyr ym Mhrydain wedi marw cyn derbyn yr iawndal.
Ar Ddiwrnod Windrush, ddywedodd Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog aÔÇÖr Prif Chwip: ÔÇÿRydym wedi cysylltu ├óÔÇÖr Swyddfa Gartref ar sawl achlysur mewn perthynas ├ó cheisiadau ac achosion iawndal Tasglu Windrush syÔÇÖn benodol i Gymru ond nid ydym wedi cael ymateb boddhaol eto.ÔÇÖ
ÔÇ£DwiÔÇÖn dwlu ar fod yn GymraesÔÇØ
Mae Cymru yn rhan fawr o hunaniaeth rhai oÔÇÖr genhedlaeth Windrush. Esboniodd Sharon Lawrence, a chafodd ei magu ym Mhort Talbot, ei bod hiÔÇÖn ÔÇ£dwlu ar fod yn GymraesÔÇØ.
Ychwanegodd: “Pan maeÔÇÖr rygbi ymlaen ac mae CymruÔÇÖn gwneud yn dda, dwiÔÇÖ yno, ond pan ‘dwiÔÇÖn clywed cerddoriaeth reggae, mae fy nghalon yn JamaicaÔÇØ.
Er bod Sharon yn s├┤n am sut maeÔÇÖr wlad wedi effeithio arni hi, maeÔÇÖn hynod o bwysig ein bod niÔÇÖn cofio cymaint y maeÔÇÖr genhedlaeth Windrush wedi cyfrannu at ein gwlad ni hefyd, a bod hanes y genhedlaeth Windrush yn berthnasol iawn i Gymru.
Geiriau gan Rhiannon Jones.