Y Mabinogi

Geiriau gan Rhiannon Jones.

Gan fod Dydd Santes Dwynwen newydd ein pasio ni ar y 25ain o Ionawr, mae’n si┼Ár bod llawer ohonom ni eisiau gwella ein dealltwriaeth o chwedlau Cymru ac ail-edrych ar rai o’r goreuon (Os nad ÔÇÿych chi eisiau gwybod diweddglo rhai o’r chwedlau, nawr yw’r amser i edrych i ffwrdd!).  

Falle eich bod chi hefyd yn gyfarwydd gyda’r gair ÔÇÿMabinogion’, mae hwn yn derm i ddisgrifio casgliad o chwedlau brodorol Cymraeg. Mae’r casgliad yn cynnwys 11 chwedl i gyd. Mewn gwirionedd, mae’n debygol y dechreuodd y gair ÔÇÿMabinogion’ fel gwall yn wreiddiol, a gafodd ei ysgrifennu yn hytrach na’r gair ÔÇÿMabinogi’. 

Cyn i chwedlau’r Mabinogi gael eu cofnodi mewn llawysgrifau, roedden nhw’n cael eu hadrodd o berson i berson (o’r cof!) er mwyn eu cadw nhw’n fyw. Rydyn ni’n lwcus iawn fod y chwedlau yn parhau hyd heddiw, gan fod rhannau o’r ysgrifau gwreiddiol yn dyddio yn ├┤l at 1250. Hefyd, mae yna Bedair Cainc i’r Mabinogi ac er eu bod yn sefyll ar wah├ón, mae yna gysylltiadau rhwng y chwedlau hyn. Credai rhai bod chwedlau’r Mabinogi yn debyg i gwlwm Celtaidd oherwydd mae’r ddau yn syml ar yr un llaw, ac ar y llaw arall maent yn llawn manylion crefftus.  

Rhan o’r hyn sydd yn gwneud chwedlau’r Mabinogi mor gofiadwy yw’r ffaith eu bod nhw’n llawn cymeriadau ffantastig yn debyg i Bendigeidfran y cawr a Gwydion y Dewin, yn ogystal ├ó dreigiau a gwrachod. Mae’r byd yn un hudol a hynafol, ond mae’r byd hefyd yn cyfateb yn ddaearyddol gyda thirwedd Cymru. Er bod y straeon wedi eu gosod mewn byd sy’n wahanol iawn i ein byd ni heddiw, mae hi dal yn hawdd i ni uniaethu gyda nhw. Mae’r chwedlau yn trafod testunau megis serch, barusrwydd, tegwch, problemau cyfathrebu ac adeiladu perthnasau ÔÇô hynny yw, rhai o’r pethau y rydyn ni’n aml yn eu hwynebu neu’n eu profi fel bodau dynol.  

Mae’n deg i ddweud fod y chwedlau yn amrywiol ac yn rhyfeddol iawn. Mae chwedl Lludd a Llefelys, er enghraifft, yn stori am ddau frawd a oedd hefyd yn ddau frenin. Roedd un yn frenin Ynys Prydain a’r llall yn frenin Ffrainc. Roedd problemau yn poeni Lludd, gan gynnwys sgrech annaearol a oedd yn gwneud yr ynys yn ddi-ffrwyth. Llwyddodd Lludd i ddatrys y broblem ond er mwyn gwneud hynny roedd rhaid iddo garcharu’r ddwy ddraig a oedd yn sgrechian, mewn twll!  Mae Breuddwyd Rhonabwy hefyd yn sefyll allan i mi fel un o’r chwedlau mwyaf rhyfeddol (a rhyfedd!). Yn fras, cwympodd Rhonabwy i gysgu a breuddwydiodd yn drwm am wyddbwyll. Fodd bynnag, pan ddihunodd Rhonabwy, sylweddolodd iddo gysgu am dri diwrnod a hanner. 

Byswn yn dadlau fod llawer o negeseuon chwedlau’r Mabinogi yn dal i fod yn berthnasol iawn heddiw. Er enghraifft, mewn un o straeon mwy adnabyddus y Mabinogi, yn y Bedwaredd Gainc, mae llawer o negeseuon o amgylch bod yn arwynebol. Cafodd Blodeuwedd ei chreu o flodau gan y dewin Gwydion er mwyn bod y wraig berffaith i Lleu Llaw Gyffes. Er prydferthwch Blodeuwedd, doedd hi ddim yn caru Lleu a chyn hir syrthiodd hi mewn cariad gyda dyn arall o’r enw Gronw Pebr. Penderfynodd Blodeuwedd a Gronw Pebr ceisio lladd Lleu Llaw Gyffes er mwyn gallu priodi ei gilydd.   

Yn ffodus, cafodd Lleu Llaw Gyffes ei achub ar y funud olaf. Llwyddodd Gwydion i ddal Blodeuwedd, a phenderfynodd ei chosbi hi wrth ei throi hi’n dylluan. Sicrhaodd na fyddai hi’n dangos ei wyneb yng ngolau’r dydd eto. Ar ben hynny, o ganlyniad i bwerau Gwydion, byddai’r adar eraill yn ei chas├íu hi. Doedd prydferthwch arwynebol Blodeuwedd ddim ganddi hi ragor a buasai rhai yn dweud i hylltra ei phersonoliaeth hun amlygu ei hun yn ffisegol erbyn diwedd y chwedl. 

Boed y tywyll, yr hudol, y buddugoliaethus neu’r rhyfedd; dw i’n si┼Ár y gallech uniaethu gydag o leiaf un o’r 11 chwedl ddychmygus yn y Mabinogi. Felly, gall nawr fod yr amser perffaith i ail-edrych arnynt neu i edrych arnyn nhw am y tro cyntaf, er mwyn dod o hyd i’ch hoff chwedl chi.   

Scroll to Top