Y Synau Gorau o ┼┤yl S┼Án 19/10/19

Gan Gwern Ab Arwel

Tra bod gwyliau cerddoriaeth yr haf bellach yn ddim ond atgofion, mae G┼Áyl S┼Án yn mynd ar ei liwt ei hun a chynnal gwledd o gerddoriaeth ym mis Hydref. Ers sefydlu yn 2007, mae lleoliadau Caerdydd wedi croesawu artistiaid fel Wolf Alice a The Vaccines dros y blynyddoedd, gan roi hwb i broffil llu o fandiau ifanc.

Cafodd yr ┼Áyl ei chynnal eleni rhwng y 18fed aÔÇÖr 20fed o Hydref, a serennodd nifer o artistiaid Cymraeg dros y penwythnos. Dyma rai o oreuon dydd Sadwrn yr ┼Áyl. 

Elis Derby

Yn chwarae am y tro cyntaf yng Ng┼Áyl S┼Án eleni, roedd Elis Derby yn un oÔÇÖr tri artist a gafodd y pleser o agor y dydd Sadwrn, a hynny ar lwyfan The Moon ar Stryd Womanby. Gyda set lawn riffs git├ór ymlaciedig a gr┼Áfs ysgafn, tynnodd y gynulleidfa yn esmwyth i mewn i ysbryd y dydd (yn enwedig y rhai hungover fuodd yng nghyngerdd Gruff Rhys y noson gynt!). Ond maeÔÇÖn hawdd gweld datblygiad yn Elis Derby, gydaÔÇÖi ganeuon yn dechrau swnioÔÇÖn aml-haenog a chyflawn.

Papur Wal

Gyda gig mewn lleoliad eithaf cuddiedig, daeth Papur Wal ├óÔÇÖu harddull nodweddiadol tanddaearol i seler JacobÔÇÖs Market, gan lenwiÔÇÖr pedair wal ag elfennau o sain niwlog Pavement, ynghyd ├ó rhyfyg The Libertines. Cafodd y gerddoriaeth ei gyferbynnuÔÇÖn berffaith gyda geiriau meddylgar. Yn wir, roedd Papur Wal yn ddigon i ddeffro pawb yn y dorf, aÔÇÖn sicr roedd yn gosod y bar ar gyfer gweddill y dydd o ran desibelau. Perfformiad digon swmpus gan fand syÔÇÖn barod yn creu llwybr iÔÇÖw hunain.

Gwilym

Maen nhwÔÇÖn fand sydd wedi hen arfer ├ó llwyfannau blaenaf Cymru erbyn hyn, a doedd dim cyfaddawdu o gwbl i lwyfan cywasg OÔÇÖNeillÔÇÖs. Gan chwarae dim ond pop positif i swynoÔÇÖr glust, roedden nhwÔÇÖn gwahodd cynulleidfa ddi-gymraeg hefyd i fwynhau eu tiwns. Roedd eu caneuon lliwgar yn cynnwys sawl pwnc, gydaÔÇÖu c├ón brotest Catalonia yn ennyn sylw ar ddiwedd y set. Heb os, mae Gwilym yn fand sydd wedi gollwng y label nawddoglyd o ÔÇÿfand ifanc newyddÔÇÖ a nawr yn canolbwyntio ar gyrraedd brig y s├«n gerddorol yma yng Nghymru.

MR

Yn dilyn ei ddychweliad i berfformioÔÇÖn fyw llynedd, mae Mark Roberts, fel gwin da, yn mynd yn well gydag amser. Roedd hiÔÇÖn amlwg i unrhyw un oedd yn gwylio bod profiad yn hanfodol iÔÇÖw perfformiad, wrth i hen ganeuon a rhai newydd ddisgleirio lleoliad tywyll Kongs. Yn sicr, maeÔÇÖr gallu gan MR i gyfansoddi anthemau yn ei gwsg, gyda chaneuon fel ÔÇÿCymru, Lloegr a LlanrwstÔÇÖ ac ÔÇÿY PwysauÔÇÖ yn swnioÔÇÖr un mor ffres drws nesaf iÔÇÖw gilydd. 

Tri Hwr Doeth

Digon anarferol yw rapio yn y Gymraeg beth bynnag, ond mae Tri Hwr Doeth wedi plethu i mewn iÔÇÖr s├«n Gymraeg, gan lenwi bwlch doedd neb yn sylweddoli arno gynt. Ond nid yn unig rapio mae Tri Hwr Doeth, ond creu twrw a geiriau hollol boncyrs. Does dim hunanbwysigrwydd o gwbl yn perthyn iÔÇÖw perfformiad, dim ond ffraeth gyda chyfeiriadau at eu cymdeithas. O ran eu perfformiad yn S┼Án, llwyddon nhw i lenwi bwlch yn absenoldeb y trydydd ÔÇÿhwr doethÔÇÖ, wrth i aelodau oÔÇÖr band Pys Melyn ymddangos, gan gynnal yr egni sydd iÔÇÖw gael trwy gydol eu holl ganeuon.

CHROMA

Gan orffen ar y band a oedd yn cauÔÇÖr dydd Sadwrn, ni wnaeth CHROMA adael dim ar ├┤l yn y bag. Gyda set hwyr am hanner awr wedi hanner nos, rhoddodd y band berfformiad a oedd yn ddim llai na ffrwydrol, gan chwarae dim byd ond y pync caletaf. Gorchuddiodd y brif gantores bob modfedd oÔÇÖr llwyfan, tra bod gweddill y band yn rhoi eu heneidiau i mewn iÔÇÖw perfformiad nhw. Yn ddios y perfformiad mwyaf bywiog oÔÇÖr dydd Sadwrn; yr olaf ond yn sicr nid y lleiaf.