Nofio Gaeafol

Ydych chi erioed wedi mentro nofio mewn dŵr oer yn ystod y gaeaf? Neu hyd yn oed wedi nofio mewn dŵr oer o gwbl? Wel, dyma rywbeth sy’n cadw nifer fawr o bobl yn brysur yn ystod eu hamser sbâr – yn enwedig yn ystod dechrau’r flwyddyn newydd!

Pam?

Felly pam fod cymaint yn cymryd rhan mewn gweithgaredd sydd mor straenus i’r corff? Wel, dyma ffordd o osod her i’ch hunain wrth gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Mae rhai hyd yn oed yn ei wneud i gyflawni traddodiadau fel ‘boxing day’ – a ffordd o losgi’r twrci oddi ar eich corff!

Daw hefyd buddion meddyliol a chorfforol, gan wella eich iechyd yn gyffredinol. Drwy ryddhau endorphins a chynyddu dopamine, mae gan unigolion lawer mwy o egni, llai o bryder, a gwell hwyliau’n gyffredinol – perffaith ar gyfer lleihau straen y brifysgol!

Y galon sy’n cael ei dargedu fwyaf, mae’r weithgaredd yn gwella cylchrediad y gwaed, gan olygu gwellhad yn adferiad y cyhyrau. Felly, bydd llai o boen yn eich cyhyrau, sy’n rhywbeth defnyddiol iawn yn hirdymor.

Roedd Lois Rhiannon o ardal Aberystwyth ddigon ffodus i fod yn nofio mewn dŵr oer ers oedi tua 3/4oed, ac yn dweud ei fod yn “ffordd o glirio’r pen ar ôl cael wythnos straenus”.

Mynegodd Lois y gwahaniaeth a theimlai yn ystod y weithgaredd:

“ar y dechrau dwi’n cael ‘rush’ o banic ac adrenalin, ac mae’n cymryd ychydig o amser i gael fy anadl yn ôl, ond unwaith ti’n arfer gyda thymheredd y dŵr mae dy gorff i gyd yn addasu, a dwi’n cael teimlad cwbl ymlaciedig, yn gorfforol ac yn feddyliol.”

Risgiau:

Wrth gwrs, mae’r weithgaredd unigryw yma’n dod â rhai risgiau, felly mae’n bwysig bod yn ofalus a chadw’n ddiogel wrth ei wneud. 

Os oeddech chi’n teimlo’n oer yn ystod yr eira mis diwethaf, byddech hyd yn oed yn oerach yn nofio yn y gwyllt, gyda risg uchel o gael hypothermia os ydych chi’n aros yn y dŵr rhy hir. Mae’r newid yn nhymheredd eich corff ar ôl cerdded i mewn i’r dŵr yn gallu achosi problemau yn gyda’r galon, ac arafu symudiadau yn eich coesau a’ch breichiau.

Gallwch hefyd ddioddef o ‘ymateb sioc oer’, sy’n arwain at y gwrthwyneb, cyfradd curiad y galon gyflymach, pwysedd gwaed uwch, ac anadl byr. Dydy hi ddim yn rhywbeth arferol i’ch corff neidio mewn i ddŵr o dan 15gradd, felly all hyn achosi i chi golli rheolaeth a rhoi chi dan berygl.

Sut i leihau’r risgiau:

Ond, mae miloedd ar filoedd yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, felly wrth gwrs ei fod yn saff i wneud – mae jyst angen sicrhau bod yn ofalus ac yn gall, a pheidio mynd ar ben eich hun.

Os ydy’r gweithgaredd yn rhywbeth newydd i chi – mae angen i chi gynhesu’n iawn cyn mynd, a sicrhau nad ydych yn treulio gormodedd o amser yn y dŵr – er efallai na fydd hyn yn broblem fawr i nifer ohonoch!

Mae’n bwysig hefyd dewis eich lleoliad yn ofalus, mae angen i chi fod yn ymwybodol ble i gamu mewn ac allan o’r dŵr, beth ydy sefyllfa llif y dŵr, a sut i ymdopi petai chi’n cael eich dal mewn llif dwfn (rip current).

Yn agos i Gaerdydd mae modd i chi wneud y gweithgaredd yn Llys-faen a llyn cronfa ddŵr Llanisien. Gallwch archebu lle, felly pam lai? Ewch amdani gyda’ch ffrindiau i ymlacio yn ystod yr ail dymor eleni, a gwnewch y mwyaf o natur y wlad!

Am fwy o wybodaeth a’r sut i gyflawni nofio mewn dŵr oer yn saff, ewch i:

Outdoorswimmingsociety.com

Rnli.org

Geiriau gan: Gwenllian Mason 

Llun gan: Erin Davies

Scroll to Top