Taf-Od

ÔÇÿCofiwch DrywerynÔÇÖ yn sefyll yn gryf unwaith eto

Newydd: Wal 'Cofiwch Dryweryn wedi eu hadfer. Tarddiad: Donald Morgan
Newydd: Wal 'Cofiwch Dryweryn wedi eu hadfer. Tarddiad: Donald Morgan
Gyda wal Cofiwch Dryweryn wedi cael ei hadfer, Alaw Fflur Jones sydd yn edrych ar y broses o gadwriaeth i'r murlun hanesyddol.

Gan Alaw Fflur Jones | Golygydd Taf-od

A hithau union 55 mlynedd iÔÇÖr wythnos ers i faer Lerpwl agor Llyn Celyn, atgyweiriwyd wal eiconig Cofiwch Dryweryn. Er bod bellach dros 50 o sloganau Cofiwch Dryweryn ar hyd a lled Cymru, ar nos Iau, 22 Hydref ail-beintiwyd y darlun coch a gwyn eiconig sydd ar ochr ffordd A487 iÔÇÖr de o Aberystwyth. Cafodd y wal ei hatgyweirio dros yr wythnosau diwethaf ac yna ei gwblhau gyda brwsh a phaent gan yr artist enwog o Geredigion, Rwth J├¬n.

 

Dros y blynyddoedd ceir llawer o densiwn yngl┼Àn ├óÔÇÖr wal wrth iddi gael ei ddifrodi aÔÇÖi fandaleiddio amryw waith.

ÔÇÿDros y degawdau mae ‘na gymaint o fersiynau wedi bodÔǪac wrth gwrs ma pobl wedi ychwanegu, a’r hyn a’r llall.ÔÇÖ Meddai Ruth J├¬n.

 

Er mai Meic Stephens oedd y cyntaf i greuÔÇÖr slogan ar y garreg gydag ysgrifen gwyn yn unig. Aeth Ruth J├¬n ati i ail-baentioÔÇÖr gofeb gan gydymffurfio iÔÇÖr fersiwn mwyaf diweddar gydaÔÇÖr ysgrifen gwyn ar gefndir coch.

ÔÇÿYr un ma pobl yn cydnabod, a’r un sydd wedi cael ei ail-gynhyrchu yn rhyngwladol yw’r cefndir coch a’r ysgrifen gwyn.ÔÇÖ Esboniodd Rwth J├¬n.

 

Pwysleisia Ruth J├¬n iddi ÔÇÿneidio ar y cyfleÔÇÖ pan holodd Elin Jones, AS Ceredigion iddi ymuno yn y prosiect o adfer y gofeb.┬á Ond pwysleisiodd,

ÔÇÿGoffes i feddwl am y peth, rhyw eiliad fach, achos mae graffiti oedd e’n y b├┤n. Felly ma cael comisiwn i wneud rh’wbeth sydd mor enwog fel darn o graffiti – a dwi’n ffan mawr o graffiti a gwaith celf cyhoeddus ‘ta beth – nes i feddwl ‘os na wna i fe neith rhywun arall e’. Felly mae e’n fraint ca’l neud e.ÔÇÖ

 

Eglura Elin Jones, AS Ceredigion fod Ruth Jên wedi ymfalchïo yn ysbryd gwreiddiol Meic Stepthens flynyddoedd yn ôl,

ÔÇÿFe wnaeth hi gymryd yr ysbryd hynny o wneud y graffiti dros nos, ac erbyn boreÔǪfe fyddai unrhyw un oedd yn gyrru drwy Llanrhystud yn gweld ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y wal unwaith eto.ÔÇÖ

 

Ac maeÔÇÖr gwaith atgyweirio wedi plesioÔÇÖr cyhoedd. Esboniodd Donald Morgan, Cynghorydd Lleol Cymuned Llanrhystud,

MaeÔÇÖn hyfryd gweld y wal n├┤l! Mae’r gofeb yn bwysig iawn i ni fel Cymry aÔÇÖn Hanes Cenedlaethol. Ac felly dwiÔÇÖn falch iawn oÔÇÖi gweld wedi ei ail pheintio mor agos iÔÇÖr gwreiddiol ├ó phosib.ÔÇÖ

 

├éÔÇÖr gofeb wedi ei gwblhau, gobeithir na fydd angen ei hatgyweirio eto. Er mwyn sicrhau diogelwch y gofeb prynwyd y safle gan Dilys Davies sydd wedi ariannu’r holl waith atgyweirio. ┬áEsboniodd Dilys Davies, drwy brynu’r safle maeÔÇÖr bwriad oedd trosglwyddo’r murlun i ofal elusen er mwyn sicrhau ei bod ÔÇÿyn hollol saff am bythÔÇÖ. Fel cynghorydd lleol, eglura Donald Morgan:

ÔÇÿMaeÔÇÖn drist iawn gweld y wal yn cael ei ddifrodi o HYD, ond dwiÔÇÖn falch fod y gofeb wedi ei hail greu. Ac mae’r diolch hynny i garedigrwydd Mrs Dilys Davies sydd wedi prynu’r wal a diogelu iÔÇÖr dyfodol.ÔÇÖ

 

ÔÇÿRy’n ni eisiau gwarchod y wal, a gwarchod y negesÔÇÖ Meddai Elin Jones.

Ac felly, anogir y Cymry i beidio ├ó pheintio dros y wal naÔÇÖi chyffwrdd, ond yn hytrach i barchu ac ymfalch├»o yn y gofeb fel y mae. Er mwyn diogeluÔÇÖr gofeb aÔÇÖi slogan yn y dyfodol, maent wedi gosod camer├óu diogelwch ar y safle. I ategu at ddiogelwch y gofeb, apelia Donald Morgan am blac er mwyn egluro hanes a phwrpas y gofeb iÔÇÖr cyhoedd er mwyn rhwystro unrhyw gyfrwy o fandaliaeth yn y dyfodol. Esboniodd Donald Morgan:

ÔÇÿNi fyddem yn hoffi gweld gorchudd plastig dros y wal gan mai graffiti byw ywÔÇÖr wal, ac fel yna fyddwn i yn hoffi ei weld. Ond hoffwn weld rhyw fath o blac yn dweud yr hanes yno i esbonio i bobol yr ystyr tu ├┤l iÔÇÖr wal er mwyn i bobol ddeall pa mor bwysig yw dyfodol y wal!ÔÇÖ

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment