Taf-Od

Cysylltiadau Cymru ├ó’r Unol Daleithiau

Joe Biden yw arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau
Mae cysylltiadau Cymru a'r UDA yn ymestyn yn ├┤l canrifoedd. Tarddiad: Gage Skidmore (trwy Wikimedia Commons).
Catrin Lewis sy'n edrych ar gysylltiadau busnes, diwylliannol a hanesyddol Cymru â'r UDA yn dilyn buddugoliaeth Joe Biden.

Gan Catrin Lewis | Golygydd Taf-od

Dydd Sadwrn cyhoeddwyd bod Joe Biden wedi ennill yr etholiad i fod yn arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau.  Ef sydd wedi derbyn y mwyaf o bleidleisiau erioed mewn etholiad arlywyddol sef ychydig dros 70 miliwn.

Aeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ymlaen iÔÇÖw longyfarch ar Twitter gan ddweud:

ÔÇ£Llongyfarchiadau i @JoeBiden ar ennill etholiad arlywyddol yr UDA.┬á Ac iÔÇÖr Is-lywydd @KamalaHarris ÔÇô fenyw gyntaf, du ac Indiaidd-Americanaidd i ddal ail swyddfa uchaf y wlad.ÔÇØ

Yn ogystal soniodd am y berthynas rhwng Cymru aÔÇÖr Unol Daleithiau gan ddweud:

ÔÇ£Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i adeiladu ar y cysylltiadau cryf rhwng Cymru aÔÇÖr UDA.ÔÇØ

Beth, felly, maeÔÇÖn cyfeirio atynt pan yn son am y cysylltiadau cryf yma?

Mae rhestr hirfaith o gysylltiadau hanesyddol, diwylliannol a byd busnes rhwng Cymru aÔÇÖr UDA.┬á Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, y canlynol am y cysylltiad rhwng y ddwy wlad:

ÔÇ£mae Americanwyr o dras Gymreig wedi gwneud cyfraniad pwysig i fywyd yn yr Unol Daleithiau dros y blynyddoedd, ac yn parhau i wneud hynnyÔÇØ.

Yn nhermau busnes, mae 270 o fusnesau Americanaidd syÔÇÖn cyflogi dros 50,000 o bobl yng Nghymru.┬á Yn ogystal, yr UDA yw un o bartneriaid masnach cryfaf Cymru gan mai dyma yw marchnad allforio fwyaf Cymru y tu allan i Ewrop .┬á MaeÔÇÖr allforion yn cyfateb i 14.7% o allforion sef gwerth ┬ú2.44 biliwn.

O ran cysylltiadau hanesyddol, roedd gan o leiaf wyth o gyn Arlywyddion yr UDA wreiddiau Cymreig o ryw fath, gan gynnwys Thomas Jefferson, Abraham Lincoln a John Quincy Adams.┬á Yn ogystal, roedd o leiaf pump oÔÇÖr llofnodion ar y Datganiad Annibyniaeth wedi dod gan wleidyddion a oedd yn Gymry neu o dras Gymreig ddiweddar.

Roedd y Cymry hefyd ymysg rhai oÔÇÖr bobl gyntaf i ymfudo iÔÇÖr UDA, y Crynwyr oedd un oÔÇÖr grwpiau cyntaf i ymfudo yn y wlad.┬á Ymsefydlasant nhw ar ddarn o dir sef Pennsylvania a oedd o dan ofal William Penn, dyn o dras Gymreig.

Ar hyn o bryd, mae 3,715 o Americanwyr yn byw yng Nghymru.┬á Yn ogystal, mae dros 10 miliwn o Americanwyr a chyfenw Cymreig neu syÔÇÖn dod o dras Gymreig.

Ar yr ochr diwylliannol, maeÔÇÖr geiriau ÔÇ£Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl, Wales – Cymru am byth,ÔÇØ wedi eu hysgrifennu ar Gofeb Washington.┬á Yn ogystal, ar ddiwedd y 19eg ganrif, cafodd to dur y T┼À Gwyn yn Washington ei wneud ym Mhontardawe.┬á Felly, mae diwydiant Cymreig wedi ei integreiddio ym mhensaern├»aeth un o adeiladau pwysicaf gwleidyddiaeth yr UDA.

Pan yn son am y cysylltiad diwylliannol, dywedodd Eluned Morgan:

ÔÇ£Mae’n deg dweud bod y Cymry wedi helpu i adeiladu sylfeini’r genedl sydd wedi datblygu erbyn hyn yn yr Unol Daleithiau modern a welwn ni heddiw. Roedd y Cymry ymhlith y rhai cyntaf i ymfudo i America.ÔÇØ

Soniodd hefyd am y diwydiant dur yng Nghymru aÔÇÖi gysylltiad ├óÔÇÖr Unol Daleithiau a dywedodd:

ÔÇ£Gwelwyd yr ail don o fewnfudwyr o Gymru ganol y 1800au, ac fe wnaeth hyn barhau drwy gydol y Chwyldro Diwydiannol, pan ddaeth mewnfudwyr o Gymru ├ó sgiliau newydd i ddiwydiannau glo, dur a llechi yn America. Gweithwyr dur o Gymru adeiladodd strwythur dur to’r T┼À Gwyn hyd yn oed!ÔÇØ

FellyÔÇÖn amlwg, mae cysylltiadau busnes, hanesyddol a diwylliannol cryf yn bodoli rhwng Cymru aÔÇÖr UDA ac maeÔÇÖr cysylltiadau hyn yn deillioÔÇÖn ├┤l ganrifoedd.┬á Y gobaith yw bydd y cysylltiadau hyn yn parhau i ddatblygu a chryfhau dros y blynyddoedd nesaf yn ystod arlywyddiaeth Joe Biden.

 

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment