Taf-Od

Adolygiad: ÔÇÿBreisionÔÇÖ gan Jon Gower

Dyma gasgliad cyntaf yr awdur Jon Gower o straeon byrion a gyhoeddwyd gan Gomer yr haf hwn. Ers iÔÇÖw grefft aÔÇÖi ddychymyg ffantasiol fyrlymus amlygu ei hun yn ei weithiau DalaÔÇÖr Llanw, 2009 a Y Storiwr, 2011 mae llais abswrdaidd-braidd-yn-od-ac-ecsentrig yn cydio rhwng cloriau ein rhyddiaith ddiweddar unwaith eto, yn awdur syÔÇÖn haeddu ei le ar yr un rhestr ag awduron megis Mihangel Morgan a Fflur Dafydd.┬á Ac oÔÇÖr diwedd, cyfrol arall o straeon byrion syÔÇÖn chwaluÔÇÖr cyswllt rhwng diffiniad┬á stori fer gydag hanfodion Kate Robertsaidd.

Er i mi ddweud yn flaenorol fod Jon Gower yn perthyn iÔÇÖr un rhestr neu fowld llenyddol ag awduron megis Mihangel Morgan, ni ddylid cymryd hynnyÔÇÖn llythrennol ychwaith.┬á Y mae yn ei weithiau, fel pob llenor gwerth ei halen yn amlygu┬á ffresni rhyfeddol. ┬á Y maeÔÇÖr chwa o awyr iach hwnnwÔÇÖn┬á tarddu oÔÇÖi ddelweddau dychmygus sydd weithiau ac nid yn ormodol yn pontio yr hyn y maeÔÇÖn ei ddisgrifio gyda natur, daearyddiaeth ac arferion gweddill y byd- rhywbeth syÔÇÖn gallu bod yn brin ymysg awduron Cymraeg.┬á Ni allaf ychwaith s├┤n am Jon Gower heb grybwyll yr arddull nodweddiadol hwnnw syÔÇÖn bwydo ar fathu geiriau a chyfuno geiriau fel a welir yn y gyfrol Breision;┬á bathiadau megis ÔÇ£pantomeimaiddÔÇØ aÔÇÖi dueddiad i gyfuno geiriau syÔÇÖn creu rhyw fath o ddiarhebion ynddynt eu hunain er enghraiff y ÔÇ£digamsiynol-blydi-horriblÔÇØ.┬á Y mae rhyw deimlad ynof y bydd arddull oÔÇÖr fath yn corddiÔÇÖr plismyn iaith yn ein plith, ond cyn i neb feirniadu, cyfuno teithiÔÇÖr iaith y mae Jon Gower a cheir enghreifftiau o ddweud grymus fel yn y stori Cadw Paradwys;

ÔÇ£Felly maeÔÇÖn camu oÔÇÖr cysgodion, aÔÇÖi gyllell yn cynnig gw├¬n o sglein siarp wrth iÔÇÖr rhimyn llofruddiol adlewyrchuÔÇÖr lleuad.ÔÇØ

Beth yw ffrwyth dychymyg Jon Gower yn Breision felly?┬á Fel dywed y broliant, cawn hanes y fampir olaf yng Nghlydach, mam-gu frawychus o lofruddiol, dyn syÔÇÖn mynd yn ddall ar ├┤l gweld merch hardd, beirdd Cymraeg yn troiÔÇÖn sombis, ac arwres syÔÇÖn achub bywydau ei chyd-Ferched y Wawr gydaÔÇÖi hymbarel. Ond ÔÇÿda chi, os mai storiau mwy naturiolaidd eu naws syÔÇÖn mynd aÔÇÖch pryd peidiwch ├ó gadael iÔÇÖr abswrdiaeth uchod eich dychryn.┬á Y mae mwy na ffantasi i gnoi cil arno yn y straeon.┬á Tu hwnt i ffenestr ffantasiÔÇÖr straeon aÔÇÖr dychymyg beiddgar, trafodir dimensia ├ó sensitifrwydd yn Breision, cyfalafiaeth aÔÇÖr byd materol yn Cadw Paradwys a threiddir i mewn i seicoleg sawl cymeriad syÔÇÖn dal d┼Ár.┬á Mae yma ddychan ar ein diwylliant llenyddol yn Gwlad Beirdd, maeÔÇÖr┬á fflachiadau o hiwmor tywyll yn cydio yn Dacw Mam-gu yn d┼Áad a ni chefais ond fy syfrdanu yn Adrodd Cyfrolau syÔÇÖn rhoi chwydd-wydr ar gymeriad Howard; cwsmer syÔÇÖn cael ei droi mlaen yn rhywiol gan arogl llyfrau!

Ydi, maeÔÇÖr straeon yn amrywiol a digon rhwydd yw rhyfeddu ar ddyfeisgarwch straeon Breision ond nid ywÔÇÖr gyfrol heb ei ffaeleddau ychwaith.┬á Wedi blasuÔÇÖr holl straeon, ni allwn ond ├ó theimlo fod yr un delweddau ├óÔÇÖr un ansoddeiriau yn cael eu defnyddioÔÇÖn aml.┬á Mae delwedd o frithyll mewn afon yn cael ei defnyddio sawl gwaith er enghraifft, nid wyf yn gwadu na wneir hynny mewn ffyrdd gwahanol, ond drwy ososd y straeon o fewn┬á cyfrol y mae rhywun yn debygol o sylwi.┬á Yn yr un modd, teimlais fod angen cwtogi ambell frawddeg aml-gymalog a bod tueddiad o bentyrru ansoddeiriau fesul un ambell waith. Ond, dyna ddigon o hollti blew. Cefais bleser pur wrth ddarllen ffrwyth dychymyg Jon Gower yn Breision, ac yn wir, maeÔÇÖr dychymyg syÔÇÖn porthi drwyÔÇÖr straeon yn eich llyncu i fyd arall.┬á Mwynhewch.

Anna George

About the author

Tom Eden

Add Comment

Click here to post a comment