Taf-Od

Andrew R T Davies: Llai o wyliau i ACau

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, syÔÇÖn un o Aelodau Cynulliad rhanbarth Canol De Cymru syÔÇÖn cynnwys Caerdydd, wedi galw am lai o wyliau i Aelodau Cynulliad.
Mewn cyfweliad ar Radio Wales, dywedodd Andrew R. T. Davies y dylai ACau gael llai o wyliau yn ystod yr haf a chwrdd am ddiwrnod ychwanegol bob wythnos tra yn y Senedd.
Dywedodd Mr Davies y dylid cynnal sesiwn lawn ar fore Iau yn y Cynulliad yn ogystal ├óÔÇÖr sesiynau llawn syÔÇÖn digwydd ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Barn Mr Davies yw bod y system sydd ohoniÔÇÖn cyfyngu ar allu Aelod Cynulliad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru aÔÇÖi Gweinidogion.
Yr haf hwn, bu Aelodau Cynulliad i ffwrdd oÔÇÖr Senedd am 10 wythnos, ac mae swyddfa Mr Davies yn honni bod ACau i ffwrdd am 20 wythnos trwy gydol y flwyddyn. Yn ystod y cyfnodau hyn, mae disgwyl bod Aelodau Cynulliad yn weithgar yn eu hetholaethau neu ranbarthau, ond maeÔÇÖn debyg fod amrywiadau mawr yn bodoli o ran faint o waith etholaethol bydd Aelodau Cynulliad gwahanol yn ei wneud yn ystod y cyfnodau hyn.
Yn ymateb i alwadau Mr Davies, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys M├┤n, Rhun ap Iorwerth, ei fod yntauÔÇÖn ÔÇÿbyw yn wahanol iawn i Andrew RT DaviesÔÇÖ ac yn lwcus os ywÔÇÖn cael pedair wythnos o wyliau go iawn yn ystod y flwyddyn. Awgrymodd Mr ap Iorwerth fod llwyth gwaith Aelodau Cynulliad yn aruthrol a bod bod yn AC o etholaeth fel Ynys M├┤n, syÔÇÖn llawer pellach o Gaerdydd na rhanbarth Mr Davies, yn cynydduÔÇÖr faich eto.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: ÔÇÿDw iÔÇÖn gorfod teithio yn bell iawn i gyrraedd y Cynulliad ac yn dad i dri o blant. Mae oÔÇÖn gofyn i bobol dreulio bob wythnos i ffwrdd oÔÇÖu teuluoedd. ÔÇ£RecessÔÇØ ydiÔÇÖr gair Saesneg ÔÇô syÔÇÖn wahanol iawn i wyliau. Er mwyn i mi allu gwasanaethu etholwyr Ynys M├┤n, maeÔÇÖn rhaid i mi weithioÔÇÖn ddi-baid. Does dim digon o oriau yn ystod y dydd i wneud yr holl waith.ÔÇÖ
Barn Mr ap Iorwerth yw bod angen newid y ffordd y mae ACau yn gweithio traÔÇÖu bod yn y Bae er mwy defnyddio eu hamser yn fwy effeithiol, ac hynny er ei fod yn gobeithio y daw mwy o bwerau iÔÇÖr Cynulliad maes o law.
Nid yw Mr Davies yn cytuno. Dywedodd ef:
ÔÇÿMaeÔÇÖr amser y mae aelodauÔÇÖn gwario yn eu hetholaethau aÔÇÖu rhanbarthauÔÇÖn bwysig iawn ac yn hanfodol iÔÇÖn gwaith, tra fo nifer o aelodau hefyd yn gorfod teithio pellterau hirion iÔÇÖr Senedd. MaeÔÇÖn debyg nad yw dod o hyd i gydbwysedd yn hawdd o beth, ond rhaid ei wneud er lles Cymru.ÔÇÖ
Dadl Canolfan Llywodraethiant Cymru, sydd aÔÇÖi chartref ym Mhrifysgol Caerdydd, yw y dylid cynydduÔÇÖr nifer o Aelodau Cynulliad o 60 i 100 er mwyn sicrhau bod ACau yn gallu craffuÔÇÖn effeithiol ar waith Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Dr Rebecca Rumbul, syÔÇÖn gweithio fel rheolydd y Ganolfan:
ÔÇÿAr hyn o bryd, does dim digon o ACau er mwyn dwyn y llywodraeth i gyfrif yn effeithiol a dw i ddim yn credu y bydd byrhau toriadauÔÇÖr Cynulliad neu orfodi i aelodau pwyllgorau eistedd trwy gyfarfod arall yn ddatrysiad o ddigon o safon iÔÇÖr broblem.
ÔÇÿBydd y mwyafrif helaeth o ACau ryÔÇÖch chiÔÇÖn siarad ├ó nhwÔÇÖn gweithio 60 awr bob wythnos. Pan fo nhw ar doriad, dyÔÇÖn nhw ddim ar fordaith yn y Carib├«, maen nhw yn eu hetholaethauÔÇÖn gweithioÔÇÖn ddyfal dros y sawl aÔÇÖu hetholodd nhw.
ÔÇÿDw i ddim yn meddwl y bydd cynyddu oriau gwaith ACau yn creuÔÇÖr math o ddemocratiaeth o safon uchel ryÔÇÖn ni am weld. Mewn gwirionedd, yr hyn ryÔÇÖn ni am weld yw amrywiaeth o leisiau a chynnydd yn y profiad yn y cynulliad a dim ond trwy gael rhagor o ACau y gellir gwneud hynny.ÔÇÖ
Eto, nid yw Andrew RT Davies yn cytuno. Dywedodd ef:
ÔÇÿNawr mwy nag erioed mae angen adolygiad gwraidd a brig oÔÇÖr prosesau o fewn y Senedd Gymreig. Mae awgrymiadau o fwy o ACau yn ormod cyn eu hamser. Mae mwy y gellid ei wneud gydaÔÇÖr nifer presennol o aelodau, a rhaid inni gael hynnyÔÇÖn iawn yn gyntaf.ÔÇÖ

Beth ywÔÇÖch barn chi?

A ydych chiÔÇÖn meddwl fod gormod o lwyth gwaith ar Aelodau Cynulliad iddynt allu cyflawni eu swyddiÔÇÖn iawn?

A ydych chiÔÇÖn meddwl y dylid cyfyngu ar wyliau Aelodau Cynulliad?

A ydych chiÔÇÖn meddwl y dylid cael mwy o Aelodau Cynulliad?

Rhowch wybod inni! Cysylltwch ar Twitter @Taf_Od neu drwy ebost ÔÇô tafod@gairrhydd.com.

Cerith Rhys Jones

About the author

Tom Eden

Add Comment

Click here to post a comment