Taf-Od

CamreÔÇÖr Cymro: Bywgraffiad Vernon Higham

Ganwyd Vernon Higham yng Nghaernarfon ym 1926 ond o ganlyniad iÔÇÖr dirwasgiad mawr yn y 1930au gorfodwyd y teulu o bedwar i symud i Bolton yn Lloegr. Yno y bu drwy gydol y rhyfel cyn dychwelyd i Gymru yn ei ugeiniau cynnar ar gwrs ymarfer dysgu yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Ar ├┤l ychydig flynyddoedd yn dysgu mewn ysgol Saesneg yng Nghaerdydd penderfynodd fynychu cwrs diwinyddol yn Aberystwyth ac yno, ym 1953, y cafodd Vernon Higham dr├Âedigaeth, gan ddod i adnabod Iesu Grist fel ei Waredwr. Arweiniodd hyn at alwad Vernon Higham iÔÇÖr weinidogaeth.
Capeli
Treuliodd flynyddoedd cynnar ei weinidogaeth mewn capeli Cymraeg, bychain yng nghefn gwlad Cymru – Hermon (Pontarddulais), Bethlehem (Penyrheol) a Bethesda (Llanddewibrefi). Mewn cymuned glos Gymreig, yn llawn o bobl diwygiad 1904, roedd Vernon Higham yn hapus ei fyd. Wedi gorfod gadael Caernarfon yn 10 oed a throi cefn ar ei ffrindiau, ei iaith aÔÇÖi wlad i fyw yn Lloger yn y 1930au doedd dim bwriad ganddo droi cefn ar gymuned Gymraeg cefn gwlad Cymru mewn brys. Ond ym 1962 daeth galwad iddo fod yn weinidog ar gapel Saesneg yng Nghaerdydd – Heath Evangelical Church. Ar ├┤l cyfnod o bwyso a mesur y gwahoddiad, derbyniodd Vernon Higham yr alwad. Teg fyddai dweud mai cyndyn oedd Vernon Higham i gychwyn wrth iddo unwaith yn rhagor orfod troi ei gefn ar bentrefi Cymreig cefn gwlad Cymru a symud iÔÇÖr brifddinas ac i gapel Saesneg. Er yr holl ofidiau cynnar oedd gan Vernon Higham am fyw mewn dinas a bugeilio capel Saesneg, yno y bu am 40 o flynyddoedd. Yn 2002 fe wnaeth Vernon Higham ymddeol fel gweinidog ar Heath Evangelical Church, ond maeÔÇÖn parhau hyd heddiw i bregethu yn Saesneg yn Tabernacle Cardiff ac yn Gymraeg yng Nghapel y Rhath.
Salwch
Yn ystod y 1970au dirywiodd iechyd Vernon Higham yn ddifrifol. Dioddefodd o gyflwr y fogfa (status asthma) a buan y cafodd y newydd mai ond blwyddyn oedd disgwyl iddo fyw. Serch hyn, brwydrodd yn erbyn ei salwch am 15 mlynedd gydag ymweliadau wythnosol, cyson iÔÇÖr ysbyty. Yn y cyfnod hwn o 15 mlynedd dim ond ar 12 Sul y methodd Vernon Higham a chyrraedd y pulpud i bregethu iÔÇÖw bobl ond roedd ei gorff yn wan iawn ac yn hollol ddibynnol ar feddyginiaeth. Tyfodd y capel o fod yn gynulleidfa weddol fychan o 40 nes bod yr adeilad (syÔÇÖn dal 1,000) dan ei sang ac yn gorlifo iÔÇÖr strydoedd. Nid y fogfa yn unig a gafodd Vernon Higham, yng nghanol y 1980au dioddefodd o angina difrifol ac yna ar droad y Mileniwm cafodd fethiant yr arennau. Serch hyn, gellir dweud heb os fod y cyfnod caled o salwch difrifol a gafodd Vernon Higham wedi arwain at fendith arbennig yng nghapel yr Heath. Honna rhai bod y cyfnod hwn yn flas oÔÇÖr hyn a gafwyd yn ystod y diwygiadau crefyddol mawr yng Nghymru ym 1735, 1859 a 1904.
Emynau
Ysgrifennodd Vernon Higham ran helaeth oÔÇÖi emynau yn ystod y cyfnod o salwch difrifol ac fe adlewyrchir hyn yn y geiriau. Gweler isod gyfieithiad oÔÇÖr pennill cyntaf o un o emynau enwocaf Vernon Higham ÔÇÿI saw a new vision of JesusÔÇÖ;

Fe ges weledigaeth oÔÇÖr Iesu
Golygfa mor newydd i mi
Ei weld mewn gogoniant mor hynod
Mewn harddwch ac urddas a bri.
Fe sefais ar lan fy holl wendid
A braw aeth trwy ÔÇÖnghalon fel cledd
Yn sydyn fe welais oÔÇÖr newydd
Ei Berson, aÔÇÖi gariad llawn hedd.

Yn yr emyn fe welir pa mor agos oedd Vernon Higham i farwolaeth wrth iddo nodi ÔÇÿfe sefais ar lan fy holl wendidÔÇÖ, ond yma, ar lannau ei wendid y cafodd Vernon Higham werthfawrogiad pellach o Iesu Grist aÔÇÖi ogoniant. Emyn enwog arall sydd gan Vernon Higham yw ÔÇÿGreat is the GospelÔÇÖ;

Great is the gospel of our glorious God,
Where mercy met the anger of GodÔÇÖs rod;
A penalty was paid and pardon bought,
And sinners lost, at last to Him were brought:

O let the praises of my heart be Thine,
For Christ has died that I may call Him mine,
That I may sing with those who dwell above,
Adoring, praising Jesus, King of Love.

Great is the mystery of godliness,
Great is the work of GodÔÇÖs own holiness,
It moves my soul, and causes me to long
For greater joys than to the earth belong:

The Spirit vindicated Christ our Lord,
And angels sang with joy and sweet accord;
The nations heard, a dark world flamed with light –
When Jesus rose in glory and in might:

Mae Vernon Higham wedi ysgrifennu dros 200 o emynau ac yn parhau i wneud. Bellach mae gwefan ac Ymddiriedolaeth wediÔÇÖu sefydlu i hyrwyddo Efengyl Crist drwy bregethau, emynau, llyfrau a phamffledi Vernon Higham. Er ei fod wedi ymddeol parha Vernon Higham i siarad ├óÔÇÖi bobl drwy ei weithiau ledled Cymru aÔÇÖr byd. Er y gellir yn hawdd edrych ar ei fywyd a rhestruÔÇÖr holl dreialon, yr hyn sydd yn amlwg iawn ywÔÇÖr baich rhyfeddol sydd ganddo i ledaenuÔÇÖr Efengyl, unwaith eto, ar hyd a lled ein gwlad.

Osian Higham

About the author

Tom Eden

Add Comment

Click here to post a comment