Taf-Od

Gair Golygyddol

MaeÔÇÖr Dr Simon Brooks, a oedd, pan ddechreuom ni yma yng Nghaerdydd, dal yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, wedi awgrymu yn ddiweddar fod y cysyniad o ddwyieithrwydd yn tanseilioÔÇÖr Gymraeg. Ei farn ef yw taw peth annaturiol yw hi bod unrhyw wlad yn gwbl ddwyieithog. MaeÔÇÖr cysyniad yn awgrymu nad oed lle i ysgolion cyfrwng Cymraeg, enwau Cymraeg yn unig ar rai llefydd, neu hyd yn oed neuaddau preswyl fel Pantycelyn.

GaÔÇÖth hwnna ni feddwl. Mae myfyrwyr Aber yn brwydro ar hyn o bryd i gadw Pantycelyn ar agor. Wrth gwrs, mae ÔÇÿda ni fflatiau Cymraeg yng Nghaerdydd ond dim neuadd breswyl Gymraeg. Mae rhai, yn eu blwyddyn gyntaf yma, yn penderfynu peidio byw mewn fflat Cymraeg – efallai er mwyn ÔÇÿehangu eu gorwelionÔÇÖ – ac eraill ddim yn gweld angen byw mewn fflat di-Gymraeg er mwyn ehanguÔÇÖr gorwelion hynny – hynny yw, bod modd ÔÇÿehangu eu gorwelionÔÇÖ tra hefyd yn byw ymhlith eu cyd-Gymry Cymraeg.

Oes angen neuaddau preswyl Cymraeg? Ydyw byw mewn fflatiau Cymraeg eu cyfrwng yn llesol i ni? Beth ywÔÇÖch barn chi? Pam na rowch chi wybod inni a ydych yn frwd o blaid neu yn erbyn neuaddau preswyl neu fflatiau Cymraeg? Gallwch gysylltu ├ó ni ar Twitter @Taf_Od neu ebost ÔÇô tafod@gairrhydd.com.
Cerith Rhys Jones and Anna George

About the author

Tom Eden

Add Comment

Click here to post a comment