Taf-Od

Gwlad y g├ón? Y corauÔÇÖn dawedog ar draws Cymru

Tarddiad: Chris Midgey
Er bod y caeau chwarae yn dechrau prysuro, s┼Án trafnidiaeth yn cynyddu ar ein priffyrdd a bagiau siopa y stryd fawr yn llenwi, does dim modd ail-gydio yn yr hyn y mae cynifer o Gymry yn ei fwynhau, sef ymarfer neu gystadlu fel rhan o g├┤r. Ydy wir, maeÔÇÖr traddodiad corawl, syÔÇÖn rhan annatod oÔÇÖn diwylliant fel cenedl, yn fud am y tro.

Gan Annell Dyfri | Golygydd Taf-od

Yn wir, mae corau ledled y byd wedi gorfod ymatal rhag canu ers sawl mis bellach yn sgil y coronafeirws. Ond beth yw effaith hyn ar yr aelodau, yr arweinyddion aÔÇÖr gymdeithas yn ehangach?

Un sydd wedi treulio cymaint oÔÇÖi bywyd yn arwain, dysgu a chyfeilio i gorau yw Meinir Richards. Yn Bennaeth ar Adran Gerdd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac yn sylfaenydd ac arweinydd ar G├┤r Llanddarog aÔÇÖr Cylch, maeÔÇÖr coronafeirws wedi golygu tro ar fyd iÔÇÖr hyn y buÔÇÖn ei wneud ers degawdau. GydaÔÇÖr c├┤r yn cystadluÔÇÖn flynyddol yn yr Esiteddfod Genedlaethol ac wedi profi llwyddiant ar hyd y blynyddoedd, nododd ei bod

ÔÇÿyn bendant yn colli cwmn├»aeth aelodau C├┤r Llanddarog. Colli hiwmor a chyfeillgarwch yr aelodau hefydÔÇÖ.

Gyda dyddiadur y Nadolig yn wag am y tro cyntaf erioed, ychwanegodd fod

ÔÇÿyr ymdeimlad o waith t├«m pan yn paratoi ar gyfer perfformiad, boed yn gystadlu neu gyngerdd, yn rhywbeth dwi wrth gwrs yn gweld ei isheÔÇÖn fawrÔÇÖ.

Unigolyn arall sydd wediÔÇÖi ysgwyd yn sgil effaith y coronafeirws ar ganu corawl yw Carwyn Hawkings, un o arweinyddion Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd. Nododd mai

ÔÇÿrhwystredigaeth a siom – ymhlith nifer o eirieÔÇÖ eraill – syÔÇÖn disgrifio siwt iÔÇÖn niÔÇÖn teimlo fel aelwyd ar hyn o brydÔÇÖ.

MaeÔÇÖr Aelwyd yn amlwg iawn ar lwyfan yr Urdd yn flynyddol ac yn gymdeithas i fyfyrwyr a phobl ifanc Caerdydd. Ychwanegodd yr arweinydd ei bod hiÔÇÖn

ÔÇÿdu hwnt o druenus nad ywÔÇÖr c├┤r yn gallu cyd-ganu a chymdeithasu, ond dwi wir yn gobeithio y byddaf yn gallu ail gydio yn yr aweneÔÇÖ cyn hirÔÇÖ.

Gydag ystadedau lu yn cefnogiÔÇÖr ffaith fod ymaelodi ├ó ch├┤r yn ffordd o alluogi unigolyn i ymlacio a dianc rhag pwysau bywyd, maeÔÇÖn amlwg fod llawer mwy i fod yn aelod o g├┤r na dysguÔÇÖr gerddoriaeth aÔÇÖr geiriauÔÇÖn unig.

Fel un sydd wedi bod yn aelod o G├┤r Llanddarog a Ch├┤r Aelwyd y Waun Ddyfal, a bellach yn ei drydedd flwyddyn yn astudio cerddoriaeth a mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd, nododd Owain Rowlands fod

ÔÇÿbod yn aelod o g├┤r fel Aelwyd y Waun Ddyfal yn ychwanegu at fwynhad bywyd y brifysgol ond maÔÇÖ ÔÇÿna lot fwy i ganu corawl; oÔÇÖr elfen gymdeithasol, iÔÇÖr ochr addysgiadol, i gadwÔÇÖr ymennydd yn iachÔÇÖ.

Ychwanegodd fod

ÔÇÿcerdd yn gyffredinol yn rhoi pleser i bawb mewn rhyw ffordd neuÔÇÖi gilydd, ac mae pawb wedi ystyried pa mor bwysig yw hyn yn ein bywydauÔÇÖ.

Fel un sydd wedi gorfod parhau ├óÔÇÖi ganu yng nghanol y sefyllfa heriol hon yn sgil ei astudiaethau, nododd fod

ÔÇÿsawl ffordd saff wediÔÇÖi brofi er mwyn gallu cynnal ymarferion, er eu bod ychydig yn wahanol, felly gobeithio fydd corau yng Nghymru yn ├┤l yn ymarfer eto cyn hirÔÇÖ.

RwyÔÇÖn siwr y byddai pawb ohonom ÔÇô y rheini ohonom syÔÇÖn aelodau o gorau neuÔÇÖr rheini syÔÇÖn mwynhau gwrando ar gorau a phart├»on yn canu – yn cefnogiÔÇÖr sylwadau hynny. Dyw Cymru ddim yr un fath heb ei thraddodiad corawl.

Gwlad y gân? Ddim ar hyn o bryd efallai.

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment