The Voice (TV series) stage

Y Llais yn dychwelyd am ail gyfres

Gan Hannah Williams

Ar yr 8fed o Fawrth eleni, dychwelodd Y Llais i’n sgriniau am ail gyfres. Am yr wythnosau nesaf bydd cantorion o hyd a lled Cymru yn ein swyno, wrth i’r hyfforddwyr geisio dod o hyd i seren nesaf y sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Addasiad yw’r rhaglen o gyfres deledu fyd-eang, a chaiff y fersiwn Saesneg, The Voice, ei darlledu ar ITV1. Y cyflwynydd a’r DJ BBC Radio 1, Sian Eleri, sy’n cyflwyno’r fersiwn Gymraeg, a phwy well i arwain y cystadleuwyr ar hyd y daith na’r pedwar hyfforddwr talentog – y canwr opera byd-enwog Syr Bryn Terfel, y gantores a’r cyflwynydd Bronwen Lewis, y canwr a’r perchennog label recordiau Yws Gwynedd a’r gantores reggae a’r cyflwynydd Aleighcia Scott.

Mae’r gyfres eisoes wedi dechrau gyda’r Clyweliadau Cudd. Yn y rownd hon mae’r cystadleuwyr yn perfformio i gefnau’r hyfforddwyr, gan obeithio y byddant yn troi yn eu cadeiriau coch er mwyn eu gwahodd i fod yn rhan o’u tîm. Yn ystod y clyweliadau hyn, bydd yr hyfforddwyr yn adeiladu timoedd o 8 cystadleuydd yr un. Bydd y sawl sy’n llwyddiannus yn mynd ymlaen i’r ail alwadau, ac yna bydd carfan lai fyth o gystadleuwyr yn cystadlu yn y rowndiau terfynol. Ar ddiwedd y gyfres, bydd un o’r cystadleuwyr yn cael eu coroni yn seren Y Llais. Bydd yr enillydd lwcus hwnnw yn cael cyfle i recordio cân wreiddiol gyda’r cyfansoddwr Amy Wadge, sydd wedi cydweithio yn y gorffennol gydag artistiaid fel Pink, Sam Ryder ac Ed Sheeran.

Rose Datta o Gaerdydd enillodd y gyfres gyntaf, a hynny o dan arweiniad Aleighcia Scott. Ac yn wir, mae Rose wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn ers hynny. Cafodd ei sengl ‘Gwerthfawr’ ei rhyddhau ym mis Gorffennaf y llynedd. Y cerddorion Mared Williams a Nate Williams a gyfansoddodd alaw a geiriau’r gân ar y cyd, yn rhan o wobr Rose am ennill cyfres gyntaf Y Llais. Cafodd hi gyfle hefyd i ganu ‘Ymlaen’ ar y cyd gydag Aleighcia Scott ac Eden, sef anthem i gefnogi tîm pêl droed menywod Cymru yn yr Ewros y llynedd. Amser yn unig a ddengys pwy fydd yn olynu Rose fel enillydd yr ail gyfres!

Yn ôl un o’r hyfforddwyr ar y rhaglen, Yws Gwynedd, “be sy’n grêt am Y Llais ydi bod o’n agored i bawb – dydi o ddim ar gyfer un steil na genre. Os ydi’r llais yn sefyll allan, dyna sy’n bwysig.

“Mae nifer o’r lleisiau â gymerodd ran yn Y Llais llynedd wedi mynd ymlaen i ryddhau cerddoriaeth eu hunain a chyfoethogi’r sîn gerddorol yng Nghymru.

 “Dwi methu aros i bawb adra weld y talent ‘da ni wedi’i brofi’n barod yn rowndiau cyntaf Y Llais – mae hi am fod yn gystadleuaeth ffyrnig iawn eto eleni!”

Mae Y Llais yn cael ei darlledu bob nos Sul am 19:30 ar S4C. Gallwch chi hefyd ei wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. Felly ewch i ôl eich hoff snac, rhowch eich traed i fyny a mwynhewch y wledd o ganu!

Llun: Augustas Didžgalvis trwy Wikimedia Commons