Clebar

Tafliad Nôl: Tyfu i fyny yn y Gogledd

Tyfu lan o amgylch Cymru fel siaradwyr Cymraeg yn wahanol yn dibynnu ble yn union rydych chi’n byw. Gall hyn newid os ydych chi’n dod o’r Gogledd wrth gymharu â’r De, neu hefyd newid wrth i chi tyfu lan yn dŷ Cymry Cymraeg neu dŷ efo siaradwyr Saesneg. Dyma un cyfrannwr yn trafod sut oedd tyfu lan yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru.

Gan Rhianedd Grug Gwilym

Cefais i fy ngeni’n Ysbyty Maelor yn Wrecsam, yna fy magu yn yr Wyddgrug (Mold) mewn teulu Cymraeg; fy rhieni, dwy chwaer ac un brawd hŷn. Yn yr Wyddgrug roeddwn i’n ddigon ffodus i fynychu cylch meithrin drwy gyfrwng y Gymraeg, cyn symud ymlaen i fy ysgol gynradd Cymraeg, Glanrafon. Er fy mod i yn dod o deulu Cymry Cymraeg, nid felly oedd yr achos efo’r mwyafrif o fy nghyd-ddisgyblion. Saesneg oedd eu hiaith adref nhw ac felly dim ond yn yr ysgol roedden nhw mewn amgylchedd Cymraeg. O ganlyniad i hyn, anodd oedd i mi eu cael nhw i siarad yr iaith tu allan i’r dosbarth. Er hyn roedden ni yn mynd i’r is-adran Cymraeg, a phan ddaw ffrind draw i chwarae, Cymraeg buasem ni wedi’i siarad. O ran bywyd tu allan i’r ysgol, mae’r Wyddgrug yn cynnig ambell i weithgaredd drwy’r Gymraeg – roedd athrawes biano Gymraeg gen i. Yn fy ysgol Sul roedd criw ohonom ni, a hefyd yn ystod yr haf cynigiai’r Urdd gynllun chwarae i blant, ond fel arall, prin oedd y cyfleoedd Cymraeg o gymharu efo’r sefyllfa heddiw.

Yn y cartref ymhell cyn dyfodiad ‘Cyw’, ‘Planed Plant Bach’ fyddwn i’n ei wylio ar y teledu er mwyn gweld ein hoff gymeriadau megis ‘Sali Mali’ a ‘SuperTed’ cyn gwylio ‘Rownd a Rownd’ ac ‘Uned 5’- y pwynt ydi, S4C fyddai’n hawlio’r sgrin o fore gwyn tan nos, rhywbeth nad oedd yn gyffredin rhyngof i a fy ffrindiau. Tebyg oedd y sefyllfa efo’r radio a chaneuon Cymraeg yn gyffredinol; pan oedd fy ffrindiau’n siarad am ryw ganwr/cantores newydd poblogaidd. Yn aml doedd gen i ddim syniad am bwy roedden nhw’n ei siarad gan mai BBC radio Cymru, Bryn Fon a Gwibdaith Hen Fran roeddwn i wedi’i harfer eu clywed.

Yn dilyn fy mhlentyndod yng Nglanrafon, yn Ysgol Maes Garmon roedd cyfnod nesaf fy mywyd. Yma hefyd, er gwaethaf bod yn ysgol Gymraeg, Saesneg oedd iaith adref rhan fwyaf o’r disgyblion yn cynnwys fy nghriw ffrindiau. Roedden nhw wedi hen arfer siarad yn ddi-Gymraeg ymysg ei gilydd, ac felly eto, er gwaetha f’ymdrechion, Saesneg oedd iaith y grŵp. Yn yr ysgol, roedd siarad Cymraeg ddim yn cael ei weld yn ‘cŵl’ ac felly doedd o ddim yn boblogaidd , a brwydr oedd hi i’r athrawon gael y disgyblion i’w siarad ar brydiau. Fodd bynnag, mae’r ysgol hyd heddiw yn cynnal cwrs trochi er mwyn cael disgyblion cynradd di-Gymraeg I ymuno â’r ysgol, ac i ddysgu’r iaith o’r newydd. Erbyn blwyddyn 8 roedden nhw yn cael pob gwers drwy’r Gymraeg yn union fel ni. Er hyn, nad o ganddyn nhw gymaint o gyfle i’w hymarfer gan fod pawb yn gyffredinol yn siarad Saesneg ar y coridorau ac ar y buarth.

Ym mlwyddyn 13, roeddwn i a fy ffrindiau yn rhan o’r pwyllgor ‘Bwrdd Syr Ifanc’ efo’r Urdd, a bu’n rhaid i ni fynd i Gaerdydd am benwythnos ynghyd a phwyllgorau eraill ar draws Cymru. Yn ystod ein taith fe agorodd fy llygaid at y ffaith bod pobl eraill â’r un oed a mi wir yn siarad Cymraeg efo’i gilydd – heb oedolyn yn dweud wrthynt am wneud! Yn byw mor agos at Ffin Lloegr, mae’n debyg fod gan Sir y Fflint enw am fod yn ardal braidd yn Saesneigaidd ac felly, pan roedden nhw’n siarad â mi a gofyn o le roeddwn yn dod, roedden nhw i gyd yn synnu efo fy ateb, gan nad oedden nhw yn meddwl fod neb o’r Wyddgrug yn siarad Cymraeg. Wrth gwrs fe wnaeth hyn wneud i mi deimlo yn flin fod pobl yn meddwl am fy ardal fel hyn, ond hefyd teimlais i yn falch fy mod yn dangos iddynt ein bod ni yn ei siarad er gwaethaf bod mor agos at Loegr. Sylweddolais gymaint roeddwn i’n caru siarad Cymraeg, a pha mor gyfforddus ydw i yn ei siarad o gymharu â Saesneg. Diolch i’r penwythnos yma, roedd meddwl am symud i Gaerdydd i’r brifysgol mis Medi yn llawer haws, gan fyddwn i’n mewn cymdeithas Cymraeg ac o’r diwedd yn gallu siarad Cymraeg efo ffrindiau oedd hefyd yn rhannu fy mrwdfrydedd tuag at y Gymraeg.

A minnau newydd ddod adref o fy mlwyddyn tramor yn Ffrainc ac yr Eidal fel rhan o fy nghwrs, er y cymaint wnes i fwynhau mae’n saff i ddweud fy mod yn dyheu am fod nôl yn fy mamwlad ac yn siarad fy mamiaith.

css.php