Clebar

Ai annibyniaeth yw’r ffordd ymlaen i Gymru?

Aled Biston sydd yn ymwchilio i pam y dylai Cymru fod yn wlad annibynnol, a’r hyn maent yn ei olygu i’r wlad o fewn y Deyrnas Unedig.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r drafodaeth dros annibyniaeth i Gymru wedi dod yn rhan o drafodaethau gwleidyddol pob dydd. Mae aelodaeth mudiad YesCymru wedi treblu ers cychwyn y cyfnod clo ym mis Mawrth, ac erbyn hyn mae 25% o bobl Cymru o blaid annibyniaeth. Ond pam bod cynnydd syfrdanol i annibyniaeth i Gymru yn y misoedd diwethaf, a beth fydd annibyniaeth i Gymru yn golygu?

Os ydy’r cyfnod clo wedi dangos unrhyw beth i ni, mae’n dangos bod Cymru yn ddigon da i reoli materion ei hun, mae edrych ar ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o bandemig COVID-19 yn dystiolaeth glir dros hyn. Pan ysgrifennwyd yr erthygl yma, Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd gyda ‘R rate’ sydd yn gostwng, tra bod gweddill y DU yn ddisymud neu’n cynyddu. Mae cefnogwyr o blaid annibyniaeth yn defnyddio hyn fel enghraifft o sut gall Cymru ffynnu fel gwlad annibynnol tu allan i’r DU a rheoli materion ei hun. Ni ellir dadlau yn erbyn y syniad o Gymru yn rheoli materion ei hun. Er mai dyna yw pwrpas datganoli, nid yw pob mater yn ddatganoledig.

Mae’r ddadl dros annibyniaeth wedi dod mewn i brif ffrwd gwleidyddiaeth Cymru. Ym mis Gorffennaf gwelwyd y ddadl gyntaf dros annibyniaeth i Gymru yn y Senedd, dadl hanesyddol yn hanes gwleidyddiaeth ein gwlad. Er bod y ddadl wedi gorffen gyda’r mwyafrif yn erbyn refferendwm annibyniaeth, mae’r syniad yn rhan o drafodaethau pob dydd erbyn hyn. Mae’r symudiad (dros annibyniaeth) yn y lleiafrif ar hyn o bryd, ond mae’n lleiafrif llawer mwy nag oedd hi. Mae aelodaeth YesCymru wedi treblu ers mis Mawrth, ac mae 12,000 wedi arwyddo deiseb y mudiad i gael refferendwm dros annibyniaeth. Ond beth fydd annibyniaeth yn golygu i Gymru?

Cymru ddim rhy fach.

Yn sicr nid yw Cymru yn rhy fach ‘na tlawd i fod yn wlad annibynnol, er bod nifer o bobl yn credu bod hi. Mae gan Gymru GDP y pen 28ain gorau’r byd, gyda $31,309, a bydd potensial i hyn wella gydag annibyniaeth. Bydd Cymru yn gallu cymryd rheolaeth o’i mewnforion ac allforion, gydag allforion yn bwysig iawn. Ar hyn o bryd mae Cymru yn allforio 133 biliwn litr o ddŵr i Loegr, am ddim. Gydag annibyniaeth gall Cymru werthu’r dŵr i Loegr, yn lle ei roi am ddim, rheoli costau ar allforion yn lle prisiau San Steffan.

“Mae cyfnod ansicr yn economaidd, yn risg sydd werth ei gymryd i weld Cymru’n ffynnu yn y byd fel gwlad annibynnol”

Bydd annibyniaeth yn golygu hunanlywodraeth i Gymru, yn lle diffyg cynrychiolaeth yn San Steffan. Mae gan Gymru ond 40 AS yn San Steffan, tra bod gan Loegr 533. Mae hon yn hen system sydd bellach ddim yn gweithio mewn gwleidyddiaeth fodern. Nid yw’r system yn rhoi cynrychiolaeth glir i Gymru, ac nid yw datganoli yn ddigon i bontio’r bwlch. Yn ogystal, nid yw Cymru erioed wedi pleidleisio’n fwyafrifol am y Ceidwadwyr, ond llywodraeth Geidwadol sydd yn San Steffan, sut mae hyn yn deg? Nad oes gan Gymru cynrychiolaeth deg yn system lywodraethol y DU, mae ein gwlad dan fantais ddifrifol gydag AS sydd ddim yn dod o Gymru yn gwneud penderfyniadau dros ein gwlad.

Bydd annibyniaeth yn datrys y problemau yma, ond mae cefnogwyr Cymru annibynnol yn cydnabod ni fydd bob dim yn wych o’r cychwyn mewn Cymru rydd. Yn sicr bydd cyfnod o ansicrwydd economaidd, bydd angen dal refferendwm Undeb Ewropeaidd, i Gymru ddewis os bydd ein gwlad yn rhan o’r UE. Bydd y cyfnod lle bydd symud pŵer o San Steffan i Gymru’n annibynnol yn hir, fel mae Brexit wedi bod. Ond mae cyfnod ansicr yn economaidd, yn risg sydd werth ei gymryd i weld Cymru’n ffynnu yn y byd fel gwlad annibynnol.

Mae safle Cymru o fewn y DU mewn risg, os yw’r Alban yn gadael ac mae Iwerddon yn ailuno. Mae 55% o boblogaeth Yr Alban o blaid annibyniaeth, tra bod 49% o Iwerddon o blaid ailuno. Os bydd y ddau yma yn digwydd, bydd Cymru mewn sefyllfa lle bydd cenedl o 3 miliwn o bobl a chenedl o 56 miliwn yn gorfod cyd-weithio. Yn syml, bydd Cymru yn dod yn rhan o Loegr wir, fel math o ‘West England’. Sut gall Cymru fel gwlad disgwyl ennyn parch a ffynnu ar lwyfan y byd pan fyddent yn cael ei thrin fel dinas yn lle gwlad, mewn system wleidyddol lle nad oes ganddynt gynrychiolaeth deg?

I grynhoi, fel gwlad annibynnol gallu ffynnu ar lwyfan y byd, gan reoli materion ei hun yn lle gwrando ar lywodraeth sydd wedi anwybyddu anghenion ein gwlad ers y Deddfau Uno yn 1536. Mae’r ddraig yn codi, nid yw’n cysgu rhagor, rhydd yw’r ddraig sydd wedi bod mewn cyffion am ormod o amser. Tybed a fydd y Cymry yn codi a gweithredu er lles gwlad eu hun?

Geiriau gan Aled Biston / Llun gan Elan Ial Jones.

css.php