Clebar

Cadw’r Gymraeg yn fyw tra yn y brifysgol

Prifysgol Caerdydd (trwy Wikimedia Commons)
Prifysgol Caerdydd (trwy Wikimedia Commons)

Ar hyn o bryd, mae Aled Biston ac Alexa Price wrthi’n astudio ym mhrifysgol Caerdydd. Mae Alexa’n astudio Llenyddiaeth Saesneg tra bod Aled yn astudio’r cwrs MA Newyddiaduraeth Newyddion trwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, mae’r ddau yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac eisiau parhau i ddefnyddio’r iaith tra yn y brifysgol. Dyma eu profiadau nhw o gadw eu Cymraeg yn fyw wrth astudio cyrsiau di-gymraeg.

Geiriau gan Aled Biston

Fel myfyriwr sydd wedi astudio nid yn unig addysg yn yr ysgol trwy’r Gymraeg, ond hefyd fy BA Cymraeg a Hanes (rhan fwyaf o’r cwrs hanes) trwy’r Gymraeg, mae symud i astudio MA i gyd trwy gyfrwng y Saesneg wedi bod braidd yn her. MA Newyddiaduraeth Newyddion yw beth dwi’n astudio, ac mae’r cymysgedd o ddarlithoedd ymarferol o ysgrifennu straeon i rai ar y gyfraith a gweinyddiaeth gyhoeddus wedi bod yn anodd iawn i addasu iddynt. Dwi’n dod ar draws geirfa academaidd iawn sydd yn anodd imi ddeall gan fy mod ond yn eu hadnabod trwy fy mamiaith. Mae’r profiad braidd yn heriol felly, ond dros y misoedd diwethaf dwi wedi dod i’r arfer gyda’r termau newydd ac o ganlyniad wedi gallu ehangu fy ngeirfa.

Dwi’n ddigon ffodus i fyw bywyd allgyrsiol trwy’r Gymraeg, ar y cyfan. Rwyf yn byw gyda grŵp o fechgyn lle ni gyd yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd, ac mae fy nghariad yn siaradwraig Gymraeg hefyd. Yr unig gyfnod lle nad yw’r Gymraeg yn bresennol yw sgyrsiau gyda fy ffrindiau cwrs. Er bod tua chwech ohonom yn siarad Cymraeg, nid oeddwn yn gwybod eu bod yn medru tan iddynt ddweud wrthai, a hynny ar ôl tua chwech wythnos o astudio. Mae ein trafodaethau bellach yn y Saesneg, ac mae elfen drist iawn am hynny. Ond, dwi yn ceisio dysgu fy nghyd-fyfyrwyr geiriau Cymraeg defnyddiol iddynt. Fel myfyrwyr sydd hefyd yn newyddiadurwyr mewn hyfforddiant yng Nghymru, credaf ei fod yn bwysig eu bod nhw’n dysgu’r geiriau cyfarwydd fel ‘bore da’, ‘diolch’, ‘shwmae’. A chwarae teg iddynt hefyd, maen nhw’n dangos diddordeb yn yr iaith ac yn gofyn i fi cyfieithu dyfyniadau ar gyfer eu gwaith. Dwi hefyd yn mynnu bod unrhyw fideos rydym yn creu ar gyfer ein cyfrif Trydar, TikTok a mwy, gydag is-deitlau Cymraeg.

Mae’r trawsnewidiad o fywyd prifysgol gwbl Cymraeg i un sydd yn cynnwys y Saesneg wedi bod yn her, ond yn un dwi wedi croesawu ac wedi ceisio integreiddio’r Gymraeg gyda.

Geiriau gan Alexa Price

Fel myfyrwraig Llenyddiaeth Saesneg, mae cadw fy Nghymraeg i wedi profi i fod yn sialens yn ystod fy amser yn y Brifysgol. Er mai calon y wlad ydy Caerdydd, mae’n siomi fi bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yn brin iawn. Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, dwi wedi brwydro mewn sawl ffordd i sicrhau bod fy Nghymraeg i yn aros yn agos atai. Yn gyntaf, mae gen i diwtor personol sydd yn siaradwr y Gymraeg. Pan wnes i ddanfon cais i Brifysgol Caerdydd, roedd hon yn opsiwn i mi a nes i gymryd o ar unwaith. Er bod y cyfarfodydd ddim yn rhy aml, efallai dwywaith y tymor, dwi’n gwybod bod y gefnogaeth wastad ar gael i mi pe bai dwi’n dewis siarad yn Gymraeg neu’n Saesneg. Yn ogystal â hyn, mae gen i sawl ffrind sydd hefyd yn siaradwyr y Gymraeg. Yn y Brifysgol, rydych chi’n ymglymu â shwd cymaint o bobl ac felly mae hi’n mor hawdd i droi i siarad yn y Saesneg heb feddwl. Mewn byd lle does dim digon o siaradwyr y Gymraeg, pam ni fyddech chi’n troi i siarad o gyda nhw sydd efo’r gallu? Heddiw mae gen i sawl ffrind agos o Brifysgol ac o fewn y gweithle sydd yn siaradwyr y Gymraeg, ac sydd yn ddigon hapus i siarad yr iaith gyda mi. Gallech chi gadw eich iaith trwy’r pethau bach hefyd; lists siopa, gwylio rhaglenni, neu ddarllen llyfrau Cymraeg. Dydy o ddim mor galed â beth yr oeddwn i yn meddwl ar ddechrau fy mlwyddyn gyntaf!

css.php