Dwy wlad, dau ddiwylliant, un iaith: fy mhrofiad ym Mhatagonia

Yn ddiweddar, ges i a phump myfyrwyr arall Prifysgol Caerdydd y cyfle i deithio i Batagonia fel rhan o brosiect yr Adran Gymraeg. Ar ôl ffarwelio â Mam a Dad ym maes awyr Heathrow, teithiais i a Betsan am 17 awr cyn glanio ym Muenos Aires. Treuliom ddiwrnod yn crwydro prysurdeb y ddinas fawr, cyn pacio’n bagiau am yr eilwaith a hedfan i Esquel.

Cawsom ein croesawi gan fynyddoedd trawiadol yr Andes, ac oerfel min paith Cwm Hyfryd. Wrth i ni ymlwybro tuag at Drevelin, cawsom ein hamgylchynu gan fawredd yr Andes, a’u copaon eira yn syllu lawr arnom fel cewri gwynion yn gwarchod y dirwedd.

Ar ôl ymgartrefu yng nghartref ein gwesteiwyr clên, dyma ni’n dechrau ein diwrnod cyntaf o waith yn Ysgol Y Cwm! Ac am ddechrau! Profiad hollol unigryw, bron yn annisgrifiadwy!

Sawl un ohonoch chi all ddweud eich bod wedi cael sgwrs gwbl naturiol, yn eich mamiaith, â rhywun ar ochr arall y byd, ym Mhatagonia? Er nad oedd y Gymraeg yn rhy amlwg i’w glywed o amgylch y dref, roedd y ddraig goch yn cwhwfan uwch ym mhob twll a chornel o Drevelin, fel atgof byw o’r cysylltiad arbennig rhwng Cymru a’r wlad bell, yr Ariannin.

Un foment neith aros yn fy nghof am byth oedd clywed lleisiau bach y plant yn canu hen alawon Cymreig â chlasuron Cyw yn yr ysgol! Roedd rhywbeth gwbl hudolus am glywed ein hiaith a’n diwylliant yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, filoedd o filltiroedd o Gymru. Roedd fel petai ddarn bach o adref wedi cael ei gludo draw i ganol yr Andes!

Yng nghanol yr holl fwrlwm o weithio yn yr ysgol am bythefnos, cawsom y cyfle arbennig i farchogaeth ar ucheldiroedd yr Andes â gauchos draddodiadol yr ardal! Dyma heb os oedd un o uchafbwyntiau’r daith, gyda’r cefndir trawiadol a’r golygfeydd syfrdanol yn ein hamgylchynu. O gopaon uchel miniog y mynyddoedd, i ru’r rhaeadrau’r drwy ddyffrynnoedd a cheunentydd Cwm Hyfryd yn creu golygfa dylai berthyn i flaen cerdyn post.

Ar ôl ffarwelio â Threvelin, troesom ein golygon tua’r dwyrain, gan barhau â’n hantur ar hyd y path helaeth tuag at Ddyffryn Camwy, Gaiman. Anodd credu’r gwahaniaeth amlwg rhwng y ddwy dref, prin gallem gredu cymaint o newid oedd i’r dirwedd, eu bywyd beunyddiol ac yn bwysicach oll, bresenoldeb byw’r iaith Gymraeg ar hyd bob stryd yn y Gaiman. Gweithion am bythefnos mewn amryw o ysgolion, Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, Ysgol feithrin a chynradd y Gaiman a Choleg Camwy. Nid yn unig yn yr ysgolion roedd presenoldeb y Gymraeg i’w weld chwaith – roedd fel petai’r iaith wedi’i phlethu ei hun i wead y dref! Ar rhai adegau, roedd hi’n anodd credu nad oeddem yng Nghymru.

Buon ni’n ffodus iawn i allu gwylio Eisteddfod Y Bobl Ifanc yn ystod fy nhaith draw i’r Wladfa! Am brofiad gwefreiddiol ac unigryw! Heb os, hwn oedd un o fy uchafbwyntiau i yn ystod y mis, wrth weld ein diwylliant ni a’i diwylliant Sbaeneg nhw yn plethu mewn un Eisteddfod llawn bwrlwm.

Roedd penwythnos yr Eisteddfod yn un gwerth chweil, ac roedd angerdd trigolion Y Wladfa tuag at y Gymraeg o ben un cwm i’r llall yn cael ei bloeddio ar hyd y neuadd. Ar ddiwedd diwrnod hir o Eisteddfota, cawsom ni’r cyfle i flasu Asado, sef cig traddodiadol tyner yn yr Ariannin! Nefoedd!

Ar ôl treulio pythefnos yn Nhrevelin a phythefnos yn y Gaiman, daeth ein hamser i ffarwelio gyda’r Wladfa. Ond cyn i ni hedfan nôl i Gymru, buon ni’n ddigon ffodus i allu gweld morfilod gwyllt ym Mhuerto Madryn! Fan hyn hefyd glaniodd y Mimosa, a thrigolion cyntaf Cymru ym 1865, felly roedd yn ddiwrnod hanesyddol ac arbennig iawn i ni!

Cawsom ni gyfle i grwydro Buenos Aires eto ar ein diwrnod olaf, ac roedd yn hyfryd cwrdd â Sami ac Efa unwaith eto a chael cyfle i barablu am ein taith arbennig. Crwydrom strydoedd lliwgar y brif ddinas cyn ffarwelio gyda’r ddau unwaith eto! Am daith fwyaf anhygoel – gobeithio caf y cyfle i fynd dol cyn bo hir!

Geiriau gan: Greta Williams

Scroll to Top