Words by Catrin Edith
Mae cychwyn yn y Brifysgol yn gallu bod yn brofiad dychrynllyd iawn, ac yn codi pob mathau o deimladau. Erbyn hyn rydym hanner ffordd drwyÔÇÖr semestr gyntaf ac mae llawer, maeÔÇÖn debyg wedi newid yn eich bywydau, Dinas newydd, ffrindiau newydd a sawl hangover wedi bod maeÔÇÖn siwr! Er y bydd rhai ohonch chi wedi setloÔÇÖn hawdd I mewn I’r bywyd yma yn y 6 wythnos diwethaf mi fydd rhai sydd yn dal I weld hiÔÇÖn anodd dod I’r arfer gyda ffordd gwbl newydd o fyw. Felly dyma ychydig o dips I helpu chi I ffeindioÔÇÖch traed yma yng Nghaerdydd –
Ymuno a Chymdeithas!
Mae gan Brifysgol Caerdydd dros 200 o gymdeithasau allwch ymuno gyda nhw, mae amrywiaeth eang o gymdeithasau ar gael sydd yn cynnig rhywbeth sydd at ddant bawb. Y Gymdeithas sydd am apelio at llawer un fydd yn darllen hwn bydd y GymGym, os ÔÇÿdachi ddim yn gyfarwydd gydaÔÇÖr GymGym erbyn hyn (lle ÔÇÿdachi ÔÇÿdi bod?!), Y GymGym ydi cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd, un oÔÇÖr cymdeithasau mwyaf sydd gan y Brifysgol, a maeÔÇÖn debyg un. o’r cymdeithasau mwyaf gwallgoÔÇÖ sydd, ond maeÔÇÖr GymGym yn cynnig cymuned agos a chroesawgar iawn, felly os ÔÇÿdachi heb wneud yn barod, ymunwch gydaÔÇÖr gymdeithas!
Edrychwch ar ├┤l eich arian!
MaeÔÇÖn hawdd iawn i ddod I’r Brifysgol, gweld y lwmp mawr o arian y benthyciad yn cyrraedd eich cyfrif a eisiau ei wario fo i gyd, ond maeÔÇÖr arian yna angen eich cynnal hyd at mis Ionawr! Felly ceisiwch wneud yn siwr eich bod yn bod yn ofalus hefoÔÇÖr hyn rydych yn ei wario (haws dweud na gwneud, dwiÔÇÖn gwybod!)
Gwthiwch eich hunain allan oÔÇÖr ÔÇÿcomfort zoneÔÇÖ a cymerch bob cyfle!
Gwnewch rhywbeth newydd, ymunwch gyda t├«m chwaraeon, ewch i ddigwyddiad byddwch byth yn mynd i fel arfer, hwn ywÔÇÖr amser yn eich bywydau lle gewchi byth gyfleoedd yr un fath eto! Gwnewch y mwyaf o’r hyn sydd ar gael yng Nghaerdydd, mae cymaint yma, dwy stadiwm chwaraeon, theatrau, cwmn├»oedd teledu, a llawer iawn mwy, mae gymaint o gyfleoedd ar gael yng Nghaerdydd, ewch i weld beth sydd allan yno!
Cofiwch eich bod chi ddim ar eich pen eich hun!
Mae cymaint o bobl yma i chi yn y Brifysgol, boed yn gyd-fyfyriwr, yn diwtor personol neuÔÇÖn ddarlithydd, neu un o swyddogion Undeb y Myfyrwyr, mae rhywun yno i wrando arnoch chi. Mae’n hynod bwysig eich bod yn gofyn am gymorth os mae pethau ychydig yn ormod i chi, mae symud I’r Brifysgol yn step anferth yn eich bywydau, ac maeÔÇÖn iawn i deimlo fel eich bod yn methu adref, yn gweld hiÔÇÖn anodd i fyw ar eich pen eich hunain neuÔÇÖn teimlo ychydig ar goll.