Gan Annell Dyfri | Golygydd Taf-od
Gydag effaith andwyol y coronafeirws yn dwys├íu o ddydd i ddydd, un elfen o fywyd sydd wediÔÇÖi heffeithioÔÇÖn fawr yn sgil esblygiad y feirws yw byd y celfyddydau.
Er ein bod oll wedi dibynnuÔÇÖn fawr ar elfennau oÔÇÖr byd celfyddydol yn ystod y cyfnodau clo, boed yn gwrando ar gerddoriaeth, yn gwylio ffilmiau a rhaglenni teledu neuÔÇÖn gwerthfawrogi celfyddyd gain yn rhithiol, maeÔÇÖr adran honno o fywyd yn dioddef yn fawr erbyn hyn. Yn amlwg, does dim modd i berfformwyr, corau na chastiau gynnal cyngherddau na gweithdai byw wyneb yn wyneb ac felly mae sgil effeithiau hyn, yn ariannol, ac yn feddyliol, yn enfawr iÔÇÖr rheini syÔÇÖn gweithio o fewn y diwydiannau celfyddydol.
Yn amlwg, nid ar unigolion yn unig ym myd y celfyddydau y maeÔÇÖr feirws wedi effeithio. Mae canolfannau mawr a bach a chwmn├»au proffesiynol hefyd wediÔÇÖu taro gan effaith y feirws. Mae nifer oÔÇÖr rhain wrth gwrs, megis Canolfan Pontio ym Mangor, Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a Chanolfan Chapter yng Nghaerdydd, wedi gorfod cau eu drysau yn ystod y cyfnodau clo gan gael effaith negyddol ar y cymunedau y maent yn perthyn iddynt.
Canolfan arall sydd wedi profi cyfnod heriol dors ben yw Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Mewn datganiad iÔÇÖr wasg ar Fehefin y 12fed eleni, nododd Mat Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan, iddo orfod gwneud y penderfyniad ofnadwy o anodd i gauÔÇÖr Ganolfan tan fis Ionawr 2021 yn sgil effaith ddinistriol y pandemig ar y diwydiant theatr. Wrth gyhoeddi hyn, ychwangeodd Milsom maiÔÇÖr wythnos honno oedd ÔÇÿun o wythnosau anodda fy ngyrfaÔÇÖ.
Dim sioeau byw nes Ebrill 2021
Erbyn hyn, cafwyd datblygiad pellach yn hanes y Ganolfan. Mewn datganiad ar ei gwefan swyddogol ar 21ain o Hydref, nodwyd ÔÇÿbod yr adeilad bellach ar gau tan fis Ebrill 2021 ar y cynharafÔÇÖ. Yn amlwg, mae effaith y coronafeirws ar y byd theatr aÔÇÖr celfyddydau yn bellgyrhaeddol gan effeithio ar drawsdoriad o bobl syÔÇÖn gweithio o fewn y diwydiant.
Er bod y ganolfan yn cynllunio sesiynau ar lein, yn amlwg, nid oes modd i ffrindiau, teuluoedd nag unigolion fynychuÔÇÖr ganolfan i fwynhau gwylio sioeau neu gymryd rhan ymarferol mewn digwyddiadau celfyddydol.
Un a fuÔÇÖn gweithio yn y Ganolfan tan yn ddiweddar oedd Gwen Shenton. Nododd ei bod ÔÇÿwedi ei thrist├íuÔÇÖn arw o glywed fod sawl un oÔÇÖm ffrindiau yn y Ganolfan wedi colli eu swyddi o ganlyniad i bandemig y CoronafeirwsÔÇÖ. Fel un sydd wrth ei bodd ym myd y celfyddydau, ychwanegodd, ÔÇÿrwyÔÇÖn si┼Ár fy mod iÔÇÖn siarad ar ran nifer fawr o bobl drwy ddweud fy mod i wir yn gweld eisiauÔÇÖr theatr a phob peth y maeÔÇÖr Ganolfan yn ei gynrychioliÔÇÖ.
Er hyn, nododd Gwen ei bod yn obeithiol ÔÇÿy bydd cefnogaeth ariannol a pharodrwydd Canolfan y Mileniwm i gydweithio ag eraill yn arwain at ailagor drysauÔÇÖr adeilad hynod eiconig yma cyn gynted ├ó phosiblÔÇÖ.
Ac er nad oes modd i’r Ganolfan groesawu cynulleidfaoedd trwyÔÇÖr drysau hynny ar hyn o bryd, maeÔÇÖr Ganolfan yn gweithioÔÇÖn ddiwyd er mwyn sicrhau bod gweithgarwch yn digwydd ar-lein. Ychwanegodd Gwen ÔÇÿDiolch hefyd i staff y Ganolfan syÔÇÖn parhau i ‘danio dychymyg y genedl yn rhithiol bob dydd!ÔÇÖ
 
Dyfodol ansicr
ByddaiÔÇÖr rheini syÔÇÖn ymwelwyr cyson ├óÔÇÖr Ganolfan yn ymwybodol ei bod yn cynnig llawer mwy na pherfformiadau ar lwyfan. MaeÔÇÖn aelwyd i ddwsinau o bobl ifanc syÔÇÖn ymarfer eu doniau creadigol yn rheolaidd; maeÔÇÖn gymuned lle daw pobl o gefndiroedd amrywiol ynghyd am glonc a chyfle i fwynhau arddangosfeydd; maeÔÇÖn ganolbwynt ar gyfer dathlu celfyddyd Gymreig a rhyngwladol a hynny o fewn adnodd safonol ac uchel ei barch.
MaeÔÇÖr llwyfan yn dywyll heddiw. MaeÔÇÖr coridorauÔÇÖn ddistaw. MaeÔÇÖr ddau gaffiÔÇÖn dawedog. Mae lleisiauÔÇÖr cantorion aÔÇÖr actorion wedi tewi; felly hefyd nodauÔÇÖr piano aÔÇÖr gerddorfa.
MaeÔÇÖr byd yn dlotach oÔÇÖr herwydd.
Gobeithio wir y daw tro ar fyd ÔÇô a hynnyÔÇÖn fuan ÔÇô fel y gall y Ganolfan, fel holl ganolfannau celfyddydol eraill Cymru, agor ei drysau unwaith yn rhagor gan roi gw├¬n yn ├┤l ar ein hwynebau ni eto fyth.
Add Comment