Taf-Od

Coronafeirws aÔÇÖr argyfwng newid hinsawdd

Coronafeirws yn rhoiÔÇÖr cyfle i ddod iÔÇÖr afael ├óÔÇÖr argyfwng newid hinsawdd
Mae cyfyngiadau'r coronafeirws wedi rhoi'r cyfle prin i ddod iÔÇÖr afael aÔÇÖr argyfwng newid hinsawdd cyn bydd pethau'n rhy hwyr. Tarddiad: Robert S. Donovan (trwy Stanford News).
Mae cyfyngiadau'r coronafeirws wedi rhoi'r cyfle prin i ddod iÔÇÖr afael aÔÇÖr argyfwng newid hinsawdd cyn bydd pethau'n rhy hwyr.

Gan Catrin Lewis | Golygydd Taf-od

Nid oes amheuaeth bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd mae pobl yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd.┬á Er bod y cyfyngiadau a rheolau sydd yn eu lle wedi cael effaith negyddol ar sawl agwedd o fywydau’r cyhoedd nid ydynt o reidrwydd yn ddrwg i gyd.┬á Un fantais annisgwyl sydd wedi dod oÔÇÖr pandemig ywÔÇÖr effaith mae wedi ei gael ar newid hinsawdd.

Mae data gan y Carbon Brief yn awgrymu bydd allyriadau eleni wedi gostwng rhwng 4-8% o gymharu â llynedd.  Yn ogystal dengys y data bod y galw am drydan wedi gostwng o 20% yn rhyngwladol ers blwyddyn ddiwethaf.

Un oÔÇÖr prif ffactorau oÔÇÖr coronafeirws sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd ywÔÇÖr ffaith bod mwy o bobl nag erioed yn gweithio o adref.┬á Ers cychwyn y cyfnod clo gwreiddiol maeÔÇÖr llywodraeth wedi annog pobl i weithio o adref ble bynnag posib ac i fynd iÔÇÖr gweithle pan foÔÇÖn angenrheidiol yn unig.┬á MaeÔÇÖr un neges yn parhau i sefyll ac mewn cynhadledd ddydd Mawrth dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gofyn i bobl i barhau i weithio o adref pan foÔÇÖn bosib.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wrth raglen Politics Wales bod gweithio o adref yn un ffordd i leihau llygredd yng Nghymru.  Dywedodd hi

“Yn sicr rydw i wedi clywed llawer o bobl – nid yn unig o fewn y llywodraeth neu o fewn y Senedd – yn dweud nad ydyn ni eisiau mynd yn ├┤l i sut yr oedden ni o’r blaen, rydym am i bethau fod yn wahanol”

ac felly mae hiÔÇÖn gweld nawr fel y cyfle aur i wneud newidiadau a fydd o bosib yn atal yr argyfwng hinsawdd rhag gwaethygu.

Yn ogystal, nododd bod y ffyrdd wedi bod yn dawelach yn ystod y pandemig a bod hynny mewn tro wedi arwain at lai o lygredd.┬á Yn ystod y rhaglen gofynnodd i bobl ailystyried y ffyrdd maent yn teithio a’u ffordd i weithio ac i ystyried yr effaith maent yn ei gael ar yr amgylchedd.

ÔÇ£Rwy’n credu bod cyfleoedd i bobl edrych ar y ffordd maen nhw’n teithio i’r gwaith, y ffordd maen nhw’n gweithio. Rwy’n credu bod busnesau yn sicr yn edrych ar hynny hefyd .ÔÇØ

Gofynnodd i Lywodraeth Cymru i barhau i ffocysu ar yr heriau hinsawdd syÔÇÖn eu gwynebu er gwaethaf y pandemig ac i beidio colli gafael ar y materion hyn.┬á Atgyfnerthodd┬á Dr Rebecca Heaton yr un pwynt a dywedodd er ei bod hiÔÇÖn deall rhesymauÔÇÖr llywodraeth tu ├┤l ffocysu ar y pandemig dros y misoedd diwethaf bod angen hefyd talu sylw iÔÇÖr argyfwng newid hinsawdd. Dywedodd:

ÔÇ£Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn edrych ar sut y gall mynd i’r afael ├ó newid yn yr hinsawdd hefyd fynd i’r afael ag adferiad Covid.ÔÇØ

Aeth hefyd yn ei blaen i s├┤n am y pwysigrwydd o greu swyddi gwyrdd er mwyn dod iÔÇÖr afael aÔÇÖr argyfwng newid hinsawdd:

“Felly pan rydyn ni’n edrych ar ble mae angen i ni greu swyddi, dewch i ni eu creu yn yr economi werdd gyda seilwaith gwyrdd.ÔÇØ

A dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd bod modd creu swyddi gwyrdd er mwyn delio aÔÇÖr allyriadau llygredd ac effaith economaidd y pandemig ar yr un pryd.

Felly, er yr holl sgil effeithiau negyddol maeÔÇÖr pandemig wedi ei gael mewn gwahanol feysydd, nid ywÔÇÖr effaith ar yr hinsawdd wedi bod mor negyddol.┬á Mae wedi rhoi cyfle gwerthfawr i leihau allyriadau ac i ddod iÔÇÖr afael aÔÇÖr argyfwng cyn bydd pethauÔÇÖn rhy hwyr.┬á Fodd bynnag, er bod y dataÔÇÖn dangos bod y pandemig wedi cael rhywfaint o effaith gadarnhaol wrth leihau allyriadau, maeÔÇÖn rhaid iÔÇÖr llywodraeth rhoi fwy o ffocws ar yr amgylchedd er mwyn i bethau barhau i wella.

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment