Gan Ifan Meredith (Golygydd Taf-Od)
Mae data newydd yn dangos gall tymereddau dŵr daear islaw dinas Caerdydd gyrraedd hyd at 20°C. Credir mai gweithred uwchlaw’r ddaear sydd yn gyfrifol am y “llygredd tymheredd” yma. Er mwyn canfod y data yma, driliwyd 61 o dyllau ar draws dinas Caerdydd fu’n casglu data am dymereddau’r ddaear o dan y ddinas ers 2018. O’r bae i ganol y ddinas, a thu hwnt, roedd y dyfeisiau yma yn trosglwyddo data i sefydliad y ‘UK Geoenergy Observatories’ bob hanner awr dros y chwe blynedd diwethaf.
Ond mae yna gyfanswm o 234 o dyllau i gyd ar draws y ddinas sydd yn casglu data ar gyfer sefydliadau gwahanol fel y ‘British Geological Survey’ sydd i gyd yn dangos yr un tueddiadau sef bod yr hyn sydd gyda Chaerdydd o dan y ddaear wirioneddol yn mynd i allu cynhesu cartrefi gan leihau’r angen am nwy.
Pe bai cynlluniau ar gyfer gwresogi geothermal yn cael eu cyflwyno, byddai’n newid y byd i 124,000 o gartrefi Caerdydd. Mae’n bosib fydd y cartrefi yma yn gallu cael eu gwresogi a’u pweru gan dymheredd y ddaear.
Ond sut, medde chi?
Wrth dyllu o dan y ddinas, bydd peiriannau ‘Ffynhonnell Tir’ (Ground Source) yn gallu cael eu defnyddio wrth i ddŵr oer deithio o’r pwmp i’r ddaear lle fydd yn cael ei gynhesu’n naturiol. Wrth ddychwelyd i’r pwmp, bydd y dŵr yn cael ei gynhesu drwy broses anweddu a chywasgu sydd yn cynyddu’r tymheredd yn uwch.
Mae gan y dŵr cynnes yma y gallu wedyn i wresogi’r cartref ac yn fwy na dim, y gallu i roi cyflenwad dibynadwy o ddŵr cynnes i’r cartref.
Tra’n arloesol i Gymru, nid yw defnyddio ‘geothermal’ yn anghyffredin. Yng Ngwlad Yr Iâ, mae egni ‘geothermal’ yn cael ei ddefnyddio yn aml — dyma beth sydd yn gwresogi 90% o gartrefi’r wlad. Yno, mae’n manteisio ar actifrwydd folcanig yr ynys sydd yn cynhyrchu gwres daear naturiol.
Clywn yn aml am bryderon amgylcheddol a’r angen i ddod o hyd i ddulliau amgen i wresogi a chael ynni. Ai dyma dyfodol twymo ein tai felly?
