Cardiff University main building

Caerdydd yn y Coch: Yr esgid yn gwasgu wrth i’w diffyg ariannol gynyddu

Gan Ifan Meredith

Mae adroddiad blynyddol Prifysgol Caerdydd yn dangos bod gan y sefydliad ddiffyg ariannol gweithredol o £33.4m yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Gorffennaf 2025. Noda’r adroddiad fod hyn yn cynrychioli ‘sefyllfa sy’n gwaethygu yn gymharol â diffyg gwaelodol y flwyddyn flaenorol’. Roedd diffyg ariannol gweithredol o £31.2 miliwn gan y brifysgol y flwyddyn honno.

Dywed yr adroddiad mai gostyngiad mewn incwm ffioedd dysgu, oedd y prif reswm dros leihad incwm i’r brifysgol. Wnaeth y ffigwr hwnnw ostwng i £317.9m – £10.3m yn is na’r ffigwr yn 2023/24. Wnaeth incwm o neuaddau preswyl, gweithgareddau masnachol a phartneriaethau hefyd ostwng 4.4% i £91m gydag incwm yn sgil buddsoddiad yn gostwng o £11.7m i £10.5m sydd yn ostyngiad o 10.2%. 

Esbonia’r brifysgol eu bod nhw wedi bod yn gweithredu mewn amodau ‘heriol’ ac mewn ‘amgylchedd chwyddiant uchel, a’i chyfyngu gan gyllid cyhoeddus ac anwadalrwydd y farchnad myfyrwyr rhyngwladol’. 

Roedd y diffyg cyn enillion neu gostau pellach yn £48m gyda’r brifysgol yn gwneud gwarged (surplus) o £24.3m yn sgil Cynlluniau Diswyddo a Dileu Swyddi Gwirfoddol. Mae’r diffyg cyn enillion neu golledion pellach yn ostyngiad o £192m ers 2023/24 lle esboniwyd y cafodd y brifysgol credyd pensiwn gwerth £162.8m ynghyd ag enillion buddsoddiad gwerth £36.9m. 

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd “Rhagwelwyd diffyg ac roedd y Cyngor wedi caniatáu inni gyllidebu ar gyfer y drydedd flwyddyn olynol hon o ddiffyg.”

Wrth gyfiawnhau cynllun dadleuol, rhaglen ‘Ein Dyfodol Academaidd’ dywedodd, “pe na baem wedi cymryd y camau a wnaethom dros y flwyddyn, byddai’r diffyg wedi bod yn sylweddol uwch (tua £65m).”

“Mae’r sector yn ei gyfanrwydd yn wynebu heriau ariannol parhaus, ac mae gan lawer o sefydliadau ddiffyg yn eu cyllidebau. Nid yw diffyg yn y gyllideb yn unigryw i Brifysgol Caerdydd ac nid yw’n golygu bod Caerdydd mewn trafferthion ariannol.” Ychwanegodd fod gan y “Brifysgol fantolen gref oherwydd gwerthoedd sylweddol ei hasedau a’i chronfeydd wrth gefn.”

“Rydym yn anelu at ddychwelyd sylfaen gostau’r Brifysgol i sefyllfa gynaliadwy yn ystod y blynyddoedd i ddod ac mae’r Brifysgol yn cymryd camau rhagweithiol i greu dyfodol cynaliadwy.

Mae prifysgolion eraill Cymru hefyd yn wynebu diffygion ariannol gyda Phrifysgol Bangor wedi adrodd diffyg o £18.3m yn 2024/25 ac Abertawe £39.9m. Serch hynny, llwyddodd Brifysgol Aberystwyth i leihau ei diffyg o £8.1m yn 2023/24 i £2.4m yn 2024/25. 

Ceisia brifysgolion leihau eu diffygion ariannol ac un o’r ffyrdd hynny yw wrth geisio torri swyddi. A dechrau mis Mawrth, cyhoeddodd Prifysgol De Cymru, sydd â champws yn y brifddinas, eu bod am dorri 200 o swyddi mewn ymateb i ‘anawsterau ledled y sector’. Daw hyn ar ôl iddynt gyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn eu bod am dorri 90 o swyddi a lleihau cyrsiau ac ymchwil. 

Dyma realiti sefyllfaoedd ariannol prifysgolion Cymru wrth i sawl un gydnabod eu bod yn wynebu cyfnod o galedi ariannol a cheisio mynd i’r afael â diffygion ariannol a lleihad mewn incwm.