Gan Ely Rhys (Golygydd Taf-Od)
Ar ddydd Sadwrn y 25ain o Hydref bu i dîm merched Cymru wynebu Awstralia mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Er mai 2-1 i Awstralia oedd y sgôr derfynol roedd dros 11,000 o’r wal goch yno yn cefnogi’r merched mewn gêm oedd yn arwyddocaol am sawl rheswm.
Mae Jess Fishlock, Capten Cymru wedi bod yn rhan annatod o’r garfan ers ei hymddangosiad cyntaf ar y cae yn 2006. Ers hynny a hithau bellach yn 38 mlwydd oed, mae wedi derbyn 166 o gapiau dros ei chenedl, wedi sgorio 48 gôl ac wedi chwarae yn 67% o gemau pêl droed cenedlaethol y merched. Ond, bu i Jess ganu’r anthem genedlaethol am y tro olaf ar y cae ddydd Sadwrn wrth iddi ddatgan mai’r gêm honno yn erbyn Awstralia oedd yn dynodi ei hymddeoliad.
Er mai gorffen ei gyrfa mae Jess, dim ond dechrau mae Mared Griffiths y seren ddisglair ifanc o Drawsfynydd. Gyda hithau ond yn ddeunaw mlwydd oed ac yn ystod ei pherfformiad cychwynnol cyntaf i’r brif garfan, llwyddodd i sgorio yn dilyn yr hanner amser.
Tydi chwaraewyr ifanc, talentog fel Mared yn ddim ond adlewyrchiad o’r garfan newydd, addawol mae’r Brif Hyfforddwraig, Rhian Wilkinson yn ceisio’i ffurfio wrth iddi fwydo mwy a mwy o ferched ifanc i’r tîm cyntaf. Derbyniodd Gwen Zimmerman, yr amddiffynwraig deunaw mlwydd oed ei chap cyntaf i’r tîm ddydd Sadwrn hefyd.
Yn 2021 bu i FAW (Football Association Wales) lunio strategaeth “Our Wales; For Her”, cynllun 6 mlynedd uchelgeisiol wedi’i anelu i drawsnewid tirwedd pêl droed merched ledled Cymru. Yn ôl data gan FAW, mae nifer y merched sy’n chwarae’r gamp ers cyflwyno’r strategaeth wedi cynyddu 45% gyda 15,898 o ferched yn chwarae yn ystod tymor 2024/25. Mae’r swm sy’n cael ei fuddsoddi ym mhêl droed merched yng Nghymru hefyd wedi cynyddu 254% ers 2021. Nid yw’n syndod felly fod gan y Brif Hyfforddwraig ddisgwyliadau uchel o’i thîm a bod cynlluniau ar y gweill ganddi i ffurfio carfan gryfach nag erioed.
Mae Ania Denham, merch deunaw mlwydd oed o Fotwnnog yn rhan o garfan o dan 19 merched Cymru ac yn chwarae i glwb Wolverhampton Wanderers. Mae hi newydd ddychwelyd yn dilyn teithio ledled Sbaen gyda charfan o dan 19 Cymru a dyma oedd ganddi i’w ddweud am y profiad o gael chwarae’r gêm ar lefel broffesiynol:
“Mae cael chwarae dros Gymru’n deimlad anhygoel ac yn deimlad sydd pob tro yn fy nghyffroi. Mi ydw i wedi cael y cyfle i weld y byd a chael cyfarfod cymaint o ferched sy’n mwynhau pêl droed, fel fi. Fy nod ydi cael chwarae i’r tîm cyntaf ac mae’r profiadau dwi’n eu cael gyda’r tîm o dan 19 yn fy mharatoi tuag at hynny.”
Dyfodol disglair sydd i’w weld o flaen carfan merched Cymru wrth i fwy a mwy o ferched ifanc gael y cyfle i wisgo’r crys coch. Nid oes dwywaith felly fod Jess Fishlock wedi gadael ei merched mewn dwylo diogel.
