Chocolate rugby ballls with a Welsh dragon on them

Rygbi Cymru Tymor yr Hydref: Hyfforddwyr Newydd, Dechrau Newydd?

Bydd bwrlwm yn llenwi strydoedd Caerdydd wrth i gemau rhyngwladol tymor yr Hydref agosáu, gyda chefnogwyr o bob cwr yn ymweld â’r brifddinas mewn gobaith o fuddugoliaeth i’w gwlad. Wedi aflwyddiant tîm Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf; yn derbyn y llwy bren yng ngemau’r Chwe Gwlad, a cholli 18 gêm yn olynol tan chwarae Japan ym mis Gorffennaf, bydd y tîm hyfforddi newydd o dan dipyn o bwysau i newid y drefn. Continue reading Rygbi Cymru Tymor yr Hydref: Hyfforddwyr Newydd, Dechrau Newydd?

Water manhole cover

Ar Dân: Gall Ateb i Anghenion Cynhesu Cartrefi Caerdydd fod o dan ein Traed?

Mae data newydd yn dangos gall tymereddau dŵr daear islaw dinas Caerdydd gyrraedd hyd at 20°C. Credir mai gweithred uwchlaw’r ddaear sydd yn gyfrifol am y “llygredd tymheredd” yma. Er mwyn canfod y data yma, driliwyd 61 o dyllau ar draws dinas Caerdydd fu’n casglu data am dymereddau’r ddaear o dan y ddinas ers 2018. O’r bae i ganol y ddinas, a thu hwnt, roedd y dyfeisiau yma yn trosglwyddo data i sefydliad y ‘UK Geoenergy Observatories’ bob hanner awr dros y chwe blynedd diwethaf. Continue reading Ar Dân: Gall Ateb i Anghenion Cynhesu Cartrefi Caerdydd fod o dan ein Traed?

A queue of people at an airport terminal.

Hanner Myfyrwyr Cymraeg wedi Gadael y Wlad

Gan Hannah Williams Yn ôl ffigurau a gasglwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae hanner y myfyrwyr Cymraeg a ddechreuodd yn y brifysgol eleni wedi gadael Cymru. Mae’r ffigyrau yn cyfeirio at y rheini fuodd yn ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Tra bod 50% wedi aros yng Nghymru i astudio, mae 49% wedi symud i Loegr, ac 1% i’r Alban. Mynegodd y sefydliad ei fod … Continue reading Hanner Myfyrwyr Cymraeg wedi Gadael y Wlad

Air ambulance stationed at Heath Hospital.

Myfyrwyr yn Codi Arian am Ambiwlans Awyr Cymru

Gan Gwenno Davies Gyda’r dyddiau yn byrhau a’r tywydd yn oeri yma yng Nghaerdydd, mae myfyrwyr y Brifysgol eisoes wedi bod wrthi yn cefnogi elusennau. Dyma gip ar beth fydd timau chwaraeon y Gymgym, a Chôr Aelwyd y Waun Ddyfal yn ei wneud dros fisoedd Tachwedd a Rhagfyr er mwyn codi arian. Timau Chwaraeon y Gymgym Yn ystod mis Tachwedd, mae timau Chwaraeon y Gymgym … Continue reading Myfyrwyr yn Codi Arian am Ambiwlans Awyr Cymru