Taf-Od

Mudiad YesCymru yn gweld twf yn nifer yr aelodau

Gorymdeithio: Gorymdaith dros annibyniaeth yng Nghaerdydd: Tarddiad: Iwan ap Dafydd (drwy flickr)
Gorymdeithio: Gorymdaith dros annibyniaeth yng Nghaerdydd: Tarddiad: Iwan ap Dafydd (drwy flickr)
Gydag aelodaeth YesCymru yn cyrraedd 15,000, Gair Rhydd sydd yn siarad gyda chadeirydd y mudiad, Sion Jobbins, ac yn edrych ar pam bod y twf yma yn nifer yr aelodau

Gan Aled Biston | Pennaeth Taf-od

Yn ein rhifyn cyntaf eleni, roeddem wedi ysgrifennu erthygl yn nodi bod mudiad dros annibyniaeth i Gymru, YesCymru, wedi cyrraedd 7,000 o aelodau. Mis wedyn, mae YesCymru yn dathlu dros dyblu nifer yr aelodau mewn cyfnod anghredadwy iÔÇÖr symudiad annibyniaeth. Mae gan y mudiad 15,000 o aelodau erbyn hyn, ond sut daeth y twf mor gyflym?

Heb amau, mae agwedd San Steffan at y cynllun ffyrlo wedi dilyn at dipyn yn ymuno. Pan ofynnodd Mark Drakeford i Lywodraeth San Steffan ymestyn y cynllun yng Nghymru, dywedodd Rishi Sunak nad oedd gan y llywodraeth yr arian i wneud, ond ymestynnwyd y cynllun pan gyhoeddwyd bod Lloegr yn mynd mewn i gyfnod clo am fis. Y teimlad ymysg nifer o bobl Cymru, oedd bod y cynllun ond yn cael ei ymestyn pan oedd yn addas i Loegr, nid pan oedd hiÔÇÖn gyfleus i Gymru.

MaeÔÇÖr twf yn aelodaeth hefyd yn codi cwestiynau am beth fydd canlyniad etholiad Seneddol Cymru blwyddyn nesaf? Mae canlyniad yr etholiad yn anodd iawn i ragfynegi, nid oes unrhyw un yn gwybod pwy fydd yn cael mwyafrif? Ond gyda Phlaid Cymru yr unig blaid (sydd ├ó seddi yn y Senedd) dros annibyniaeth i Gymru, byddent yn ennill cryn dipyn o seddi yn yr etholiad?

Mae annibyniaeth wedi bod yn rhan oÔÇÖr disgwrs gwleidyddol ers 2018, rhaid cofio bod dadl wedi bod yn y Senedd dros dal refferendwm ar y mater hefyd. Ond, mae Cadeirydd YesCymru, Si├┤n Jobbins yn cydnabod nad annibyniaeth yw barn y mwyafrif. Wrth drafod y posibilrwydd o etholiad ar annibyniaeth yn y tymor Seneddol nesaf, dywedodd ÔÇ£DwiÔÇÖn credu bod yna bosibilrwydd bachÔǪ maeÔÇÖn bwysig gydag etholiad y Senedd ym mis Mai, gydaÔÇÖr llywodraeth syÔÇÖn cael ei ffurfio, mae angen Cymru rhyw fath o lwybr tuag at annibyniaethÔÇØ.

Mae polau diweddar yn datgan cefnogaeth dros annibyniaeth tua rhwng 30-40%, gyda pholau YouGov a ffynonellau eraill yn amrywio yn dibynnu ar y sampl o bobl gofynnwyd. MaeÔÇÖr cynnydd yn nifer yr aelodau wedi helpu hyn llawer, ac mae Si├┤n Jobbins yn awyddus i gadwÔÇÖr momentwm i fynd. ÔÇ£Mae (gwybodaeth YesCymru am annibyniaeth) wedi ennyn diddordeb pobl, maen nhw eisiau gwybod mwy, mae yna lawer o bobl ÔÇÿindy-curiousÔÇÖ, ac maen nhw eisiau gwybodaeth ac i rannuÔÇÖr wybodaeth gyda phobl eraillÔÇØ.

Mae mudiad YesCymru yn amlbleidiol, felly nad ydynt yn gefnogol o un blaid yn uniongyrchol. Plaid Cymru aÔÇÖr Blaid Werdd ywÔÇÖr ddwy blaid sydd yn cefnogi annibyniaeth yng Nghymru, ond mae cangen o fewn y Blaid Lafur yn ei chefnogi hefyd. Ond bydd Llafur yng Nghymru byth yn datgan cefnogaeth iÔÇÖr ymgyrch, na, meddai Si├┤n Jobbins. ÔÇ£DwiÔÇÖn gweld hiÔÇÖn anodd gweld y blaid ei hun yn cefnogi annibyniaeth cyn yr etholiad nesafÔǪ Dwi methu gweld y blaid yn symud mor gyflym ├óÔÇÖr bobl (sydd yn cefnogi annibyniaeth o fewn Llafur)ÔÇØ.

Er iÔÇÖr daith dros Gymru annibynnol hen ddechrau erbyn hyn, mae dal siwrnau hir oÔÇÖu blaenau cyn iddynt ddechrau meddwl am ennill refferendwm dros eu hachos. Ond, wrth ddweud hynny, mae twf mewn cefnogaeth iÔÇÖr blaid ac yn nifer yr aelodau yn anhygoel. Efallai bydd y refferendwm yn dros Gymru annibynnol yn agosach na beth mae llawer o bobl yn meddwl.

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment