Rygbi Cymru Tymor yr Hydref: Hyf-forddwyr Newydd, Dechrau Newydd?

Gan Gwenllian Mason (Cyfrannwr)

Bydd bwrlwm yn llenwi strydoedd Caerdydd wrth i gemau rhyngwladol tymor yr Hydref agosáu, gyda chefnogwyr o bob cwr yn ymweld â’r brifddinas mewn gobaith o fuddugoliaeth i’w gwlad. Wedi aflwyddiant tîm Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf; yn derbyn y llwy bren yng ngemau’r Chwe Gwlad, a cholli 18 gêm yn olynol tan chwarae Japan ym mis Gorffennaf, bydd y tîm hyfforddi newydd o dan dipyn o bwysau i newid y drefn.

Steve Tandy ydy’r prif hyfforddwr i olynu Gatland ar ôl iddo gamu nôl o’r swydd ym mis Chwefror, ac fe fydd yn gweithio gyda’i hyfford- dwyr cynorthwyol, Matt Sheratt a Danny Wilson i drio sicrhau buddugoliaeth i Gymru fis yma. Gwahoddwyd hefyd 3 cyn-chwaraewr profiadol i fod yn rhan o’r tîm hyfforddi, Dan Lydiate fydd yn gyfrifol am yr ochr amddiffyn, Rhys Patchell fydd yn gweithio ar gicio a sgiliau’r chwaraewyr, a Duncan Jones yn cymryd rôl arweiniol gyda’r sgryms.

Roedd gan brif gyfarwyddwr Undeb Rygbi Cymru — Dave Reddin, ddigon o ffydd yn y tîm hyfforddi, gan ddweud “Mae dod a Duncan, Dan a Rhys i mewn ar gyfer yr hydref i weithio ochr yn ochr â Steve, Danny a Matt yn rhoi cydbwysedd da”. Gyda’r 3 yn arbenigo mewn meysydd tactegol a technegol gwahanol o’r gamp, a chyfuniad o 151 o gapiau rhyngddynt, gellir hyderu fod y doniau a’r wybodaeth yn safonol, ond oes digon o brofiadau hyfforddi ganddynt i allu ymddiried ynddynt a’r lefel ryngwladol?

Mae Tandy eisoes wedi cyhoeddi’r sgwad o 39, gyda sawl newid. Bydd posibiliad o waed newydd hefyd, yn dilyn sylwadau’r prif hyfforddwr yn ddiweddar; “Mae yna chwaraewyr hyn fydd pobl yn tybio bydd yn chwarae, ond yn y pendraw mae cyfle i bawb wneud argraff ar sut maent yn hyfforddi a gweithredu yn y grŵp”.

Ni ellir anghofio dychweliad yr asgellwr Louis Rees-Zammit yn ôl i Rygbi rhyngwladol chwaith, 32 o gapiau i’r wlad ac wedi bod yn rhan o sgwad y Llewod. Ar ôl ceisio’i lwc yn yr NFL am 18 mis, teimlodd nad oedd cymhariaeth i chwarae rygbi, a’i fod yn gwastraffu ei dalent yn America. A fydd Zammit yn gallu gwneud gwahaniaeth, a newid y darlun i dîm rygbi Cymru?

Yn ystod mis Tachwedd, bydd Cymru yn wynebu Yr Ariannin (9fed), Japan (15fed), Seland Newydd (22ain), a De Affrica (29ain), a chynhaliwyd bob gêm yn Stadiwm y Prinicipality. Gyda bargeinion arbennig ar wefan yr URC i fyfyrwyr, rydych chi, fel fi, siŵr o fod yn barod am wledd o rygbi dros y wythnosau nesaf, gan obeithio gall Cymru oresgyn y cyfnod anodd sydd wedi bod, a dangos eu cryfder a’u hyder ar y cae i gael canlyniadau cadarnhaol yn y

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *