Rygbi Cymru Tymor yr Hydref: Hyf-forddwyr Newydd, Dechrau Newydd?

Bydd bwrlwm yn llenwi strydoedd Caerdydd wrth i gemau rhyngwladol tymor yr Hydref agosáu, gyda chefnogwyr o bob cwr yn ymweld â’r brifddinas mewn gobaith o fuddugoliaeth i’w gwlad. Wedi aflwyddiant tîm Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf; yn derbyn y llwy bren yng ngemau’r Chwe Gwlad, a cholli 18 gêm yn olynol tan chwarae Japan ym mis Gorffennaf, bydd y tîm hyfforddi newydd o dan dipyn o bwysau i newid y drefn. Continue reading Rygbi Cymru Tymor yr Hydref: Hyf-forddwyr Newydd, Dechrau Newydd?

Ar Dân: Gall Ateb i Anghenion CynhesuCartrefi Caerdydd fod o dan ein Traed?

Mae data newydd yn dangos gall tymereddau dŵr daear islaw dinas Caerdydd gyrraedd hyd at 20°C. Credir mai gweithred uwchlaw’r ddaear sydd yn gyfrifol am y “llygredd tymheredd” yma. Er mwyn canfod y data yma, driliwyd 61 o dyllau ar draws dinas Caerdydd fu’n casglu data am dymereddau’r ddaear o dan y ddinas ers 2018. O’r bae i ganol y ddinas, a thu hwnt, roedd y dyfeisiau yma yn trosglwyddo data i sefydliad y ‘UK Geoenergy Observatories’ bob hanner awr dros y chwe blynedd diwethaf. Continue reading Ar Dân: Gall Ateb i Anghenion CynhesuCartrefi Caerdydd fod o dan ein Traed?

Hanner Myfyrwyr Cymraeg wedi Gadael y Wlad

Gan Hannah Williams (Pennaeth Taf-Od) Yn ôl ffigurau a gasglwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae hanner y myfyrwyr Cymraeg a ddechreuodd yn y brifysgol eleni wedi gadael Cymru. Mae’r ffigyrau yn cyfeirio at y rheini fuodd yn ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Tra bod 50% wedi aros yng Nghymru i astudio, mae 49% wedi symud i Loegr, ac 1% i’r Alban. Mynegodd y sefydliad … Continue reading Hanner Myfyrwyr Cymraeg wedi Gadael y Wlad