Gwanwyn yn y Ddinas

O’r diwedd, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd Caerdydd! Mae’r haul wedi dychwelyd  i wenu dros y ddinas, a’r dail yn gwneud eu ffordd yn ôl i’r coed. Cawn innau felly wisgo ein sbectols haul eto, ac archwilio’r pethau sydd i’w gwneud yma yn yr haul…

Am dro (a choffi..?)

Does dim gwell i guro brysurdeb y ddinas a bwrlwm Cathays na dihangfa i’r parc. Boed ar gyfer cwffio cur pen noson cynt, dal fyny hefo ffrindiau neu amser i chi eich hunain, mae digon o lefydd lyfli i fynd am dro.  

Dafliad carreg o Cathays mae Parc Bute wrth gwrs. Mae’r gwanwyn wedi ei gyrraedd a’r blodau yn werth i’w gweld.  

Os fynnwch frêc o’r cerdded, mae The Secret Garden Cafe yn le gwych i fwynhau coffi yn yr haul.  

Hefyd, does dim i guro cerdded i Barc Y Rhath. Mae’n braf cylchu’r llyn ar ddiwrnod braf a gwylio’r haul yn disgleirio ar y dŵr, ond gwyliwch allan da chi am yr elyrch hyfryd a’u traed mawr, mawr!  

Mae golygfa hyfryd o’r llyn o Gaffi’r Terra Nova yno hefyd.

Pontcanna

Mae camu i gymdogaeth Pontcanna yn newid byd o Cathays, coeliwch chi fi. Mae’n dawel ac araf ac yn llawn caffis a siopau hyfryd ac annibynnol. Mae’n hawdd i’w gyrraedd wrth gerdded drwy Barc Bute, ac yn seibiant braf o brysurdeb canol y ddinas. 

Pob Dydd Sadwrn, cynhelir marchnad fferm yn King’s Road Yard sy’n gwerthu pob math o nwyddau ffres o 10 tan 2 . Mae marchnad vintage hefyd ar Ddydd Sul Cyntaf pob mis. Ceir pob math o hen bethau diddorol ac unigryw yma. Mae mynediad am ddim i’r ddwy fath o farchnad hefyd. 

Bydd y tair marchnad vintage nesaf yn cael eu cynnal ar y 5/4, 3/5 a’r 7/6.

Ar ôl crwydro’r farchnad, mae’n gyfle gwych i gael mymryn i fwyta mewn un o’r caffis hyfryd ym Mhontcanna….

Mae rhai o fy ffefrynnau yn cynnwys Canna Deli, yma cewch archebu yn Gymraeg. Mae Milk and Sugar, Milkwood a Ground i gyd yn llefydd gwych i eistedd allan yn yr haul hefyd. Cyn gadael, beth am fynd am dro i Siop Caban i ddewis llyfr Cymraeg i’w ddarllen yn y tywydd braf.

Nosweithiau goleuach 

Gyda’r dydd yn ymestyn, mae’n braf cael gwneud rhywbeth gyda’r nos. Un o fy ffefrynnau ydi mynd i ardd tafarn fel Woodville gyda ffrindiau i sgwrsio neu chwarae cardiau o dan y goleuadau bach cynnes.  

Ar nosweithiau Gwener a Sadwrn tan 22:30, mae to Rhostio yn agored ar gyfer coctels a diodydd. Yma, ceir olygfa hyfryd o’r ddinas tu ôl i fachlud yr haul, ac yn gefndir i gerddoriaeth a dewis eang o ddiodydd blasus. 

Mae bargen ar y mocktails hefyd ar gyfer opsiwn sobor, gyda 2 i’w gael am £12!  

Mannau Adolygu

Yn sicr, pan mae’r haul yn tywynnu, does dim gwaeth na bod yn sownd yn y llyfrgell neu’r tŷ, felly beth am ymweld â chaffi cyfagos a gwneud gwaith tu allan yn yr haul?  

Coffi Lab yw fy ffefryn i. Gyda lleoliadau ar hyd y ddinas, mae’r un ar Heol Wellfield yn bellter braf o Cathays ac yno mae man i eistedd tu allan. Heb os, mae’r cacennau yn werth cerdded yno amdanynt! 

Gyda dim ond ychydig o amser ar ôl yn y semester, mae’n braf cael y cyfle i flasu ac archwilio’r ddinas ymhellach. Gyda digon o heulwen ar ei ffordd i ni gobeithio, bydd yr wythnosau nesaf o ysgrifennu aseiniadau ac adolygu ychydig yn haws rŵan fod y gwanwyn wedi ein cyrraedd, Mae digon o bethau hwyl i’w gwneud yma, felly mwynhewch! 

Geiriau gan: Leus Tudor

Scroll to Top