Gan Elen Lois Jones
Heb os nac oni bai, roedd dod i’r brifysgol yn codi braw arnaf. Roeddwn i’n pryderu am bopeth ac yn gwneud problem allan o ddim byd. Yn bennaf, y peth roeddwn i’n colli’r mwyaf o gwsg drosto oedd sut yn y byd o’n i’n mynd i neud ffrindiau? I rywun sydd prin yn yfed alcohol, yn dioddef o glawstroffobia ac yn hynod letchwith mewn unrhyw sefyllfa gymdeithasol – roedd y syniad o gyrraedd wythnos y glas, yn nabod neb, yn ddigon i’n ngwneud i’n sâl ! Ond, wrth feddwl yn ôl, roeddwn i’n bod yn wirion. Roeddwn i’n dod i brifddinas Cymru, gyda channoedd o bobl ifanc arall mewn sefyllfa debyg, pob un ohonom ni’n ysu i wneud ffrind!
Dwi bellach yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, y flwyddyn ddiwethaf o’n nghwrs israddedig, ac yn teimlo’n reit hapus o gydnabod mod i wedi gwneud tipyn o ffrindiau ar hyd y ffordd. Ond gallwn i fyth ddweud hyn heb yr help o fynychu grwpiau cymdeithasol o fewn y brifysgol, dros fy nghyfnod o fod yma.
Dyw hi ddim yn Ddydd Mercher heb i Gathays fod yn orlawn o grysau gwirion, amrywiaeth o wisgoedd ffansi a phob myfyriwr ar dop eu clychau, yn ysu i dyrru draw at Y Plas, yn yr Undeb tan oriau man y bore. Does dim dwy amdani, fyddant yn bresennol i’r darlithoedd am 9 y bore wedyn a’i hwynebau llawn glityr a blas y kebab yn dal i fodoli yn eu cegau fel tystiolaeth o’r noson cynt.
Mae ymuno â chymdeithas yn y brifysgol yn cynnig teimlad o berthyn i gymuned; mewn dinas fawr, mae’n hawdd mynd ar goll. Ond mewn môr o fyfyrwyr, diethyr, mae’r gymdeithas yn rhoi teulu, cymorth ac yn fwy na dim, ffrindiau. Yn bersonol, mae ymuno â chymdeithasau gwahanol yn y brifysgol wedi golygu mod i wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fyddwn i byth wedi breuddwydio gwneud pe na fyddwn i wedi cael fy rhoi yn y sefyllfa yna, diolch i’r gymdeithas.
Gallaf gofio pryderu am fy nhrôl gyntaf gyda’r Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym) yn wythnos y glas, ‘Crôl Teulu’, ond wir, wedi tair blynedd o ddigwyddiadau tebyg, allaf ddweud â llaw ar fy nghalon na fyddai fy mhrofiad ym Mhrifysgol Caerdydd, yr un peth, heb i mi ymuno â’r Gym Gym. Mae’r gymdeithas wedi cynnig tripiau lu, dros y tair blynedd ddiwethaf dwi wedi bod o Gaerdydd i Gaeredin, i Abertawe ac Aberystwyth ac eleni eto fyddwn ni gyd yn hwylio draw i Ddilyn i wylio Cymru’n chwarae oddi cartref. Ond anghofiaf i fyth fy nhrip gyda’r Gym Gym i Lambedr Pont Steffan, o bob man! O fewn yr un gymdeithas hyn, mae amryw o gyfleoedd boed yn bêl-droed, pêl-rwyd, rygbi neu farddoni a chanu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn flynyddol.
Dydw i ddim yn berson sydd yn serenni wrth gystadlu mewn timau chwaraeon, ond does dim modd anwybyddu’r gemau wythnosol, yr ymarferion a’r dathlu boed ennill neu golli, ac mae hyn i gyd diolch i’r cymdeithasau o fewn y brifysgol. Er nad ydw i’n rhan o dîm dwi’n nabod llu o bobl sydd wedi dod i nabod eu ffrindiau gorau yn eu carfannau chwaraeon.
Ond i mi, fy hoff gymdeithas yw Aelwyd y Waun Ddyfal. Mae’n gyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ymgynnull ar nos Lun i ganu, llefaru ac yn fwy na dim cymdeithasu. Mae’r chwerthin wythnosol yn donic drwy firi’r Brifddinas.
Dwi’n sicr na fyddwn i wedi mwynhau’r brifysgol hanner cymaint petawn i ddim wedi ymaelodi â’r cymdeithasau amrywiol ar draws y blynyddoedd, ac yn bendant na fyddwn i wedi gwneud ffrindiau oes hebddynt !