Clebar

Pam ddylen ni siarad y Gymraeg?

Alexa Price

Yn anffodus mae’r canrifoedd diwethaf wedi gweld lleihad sylweddol yn y nifer o siaradwyr yr iaith Cymraeg yng Nghymru. Esblygodd yr iaith Cymraeg o’r ieithoedd Llydewig a Chernyweg, sydd yn dyddio yn ôl i ddiwrnodau’r Celtiaid. Cymraeg felly yw un o ieithoedd henaf Ewrop. Mae’r iaith wedi chwarae rhan fawr yn helpu siapio ein hanes a diwylliant cyfoethog, felly i weld yr iaith yn dioddef yng ngwlad ei hun yn broblem fawr. Does dim mwy na 30% o bobl Cymru ar hyn o bryd yn siarad yr iaith Cymraeg, sydd yn fy nigalonni yn fawr. O ganlyniad i’r ystadegau hynny, dadl fawr sydd yn cael ei hystyried yn aml yw os ydy’r iaith dal yn berthnasol yma yng Nghymru, yn nodedig yn y De lle mae llai o bobl eto yn siarad yr iaith. Teimlaf yn gryf bod hanes ac iaith Cymru yn cael eu hedrych trwyddo, yn lle uno ni fel gwlad, ac mae o’n bryd i hynny newid!

Yn dilyn llofruddied ein tywysog Llywelyn ap Gruffydd gan y Saeson yn 1282, mae o wedi bod yn broblem gynyddol o weld Cymru fel rhan o Loegr oherwydd y dylanwad Saesneg gwelwn yn hanes Cymru. Er enghraifft, yn yr 19eg ganrif gwelwn gynnydd yn athrawon yn defnyddio tactegau fel yr ‘Welsh Not’ i geisio cosbi plant Cymraeg a chodi cywilydd am siarad eu hiaith. Er mae hanes hir yn ôl yw’r esiamplau yma, maent dal yn cael effaith ar hanes a pherthnasau Cymru heddiw gyda gwledydd fel Lloegr.

Er fy mod i ond yn 19 mlwydd oed, mae’r sgil yna o allu siarad yn y Gymraeg wedi elwa i’n fawr. Cefais fy magu yn nheulu a bu ond yn siarad trwy gyfrwng y Saesneg, ac felly dewis mawr gan Fam a Dad oedd danfon eu plant i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg. Roedd dewis i fynd i’r Brifysgol i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn addasiad mawr i mi ar ôl gwneud 15 mlynedd o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn sydyn cefais fy nhaflu i mewn i fyd lle dydy pawb ddim yn gallu siarad yn yr iaith, lle ond addysg Saesneg roeddwn i yn cael. Er hyn, teimlaf fy mod Prifysgol Caerdydd yn annog eu myfyrwyr Cymraeg i gymryd yr holl gyfleoedd sydd ganddynt i siarad yr iaith. Mae gen i diwtor personol efo pwy ddwi’n cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â ffrindiau agos sydd i gyd yn siarad yn y Gymraeg.

Mae bod yn ddwyieithog ond wedi sicrhau fy mod i yn hyderus efo fy sgiliau gramadeg a chyfathrebu, sydd wedi fy elwa i yn fawr yn ystod fy mhrofiadau yn y Brifysgol ac yn y byd gwaith. Yn ogystal â bod yn fyfyrwyr llenyddiaeth lawn-amser, dwi hefyd yn gweithio yn rhan-amser yng nghanol y ddinas fel gweinyddes. Er bod yr oriau yn gallu bod yn hir, mae o’n swydd wobrwyol iawn. Mae gwybod fy mod i yn gallu cyfathrebu efo cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn deimlad cynnes, ac yn rhywbeth dwi wedi neud ar sawl achlysur. Rwy’n gwybod wrth wneud hyn fy mod i yn sicrhau bod cwsmeriaid yn teimlo yn gyfforddus ac fel bod dewis ganddynt i allu defnyddio’r iaith. Er bod y niferoedd yn brin, mae’r gallu i siarad yn y Gymraeg yng nghanol-ddinas y wlad yn mor bwysig!

css.php