Clebar

Protest yw pride, nid parti (wel)…

people group holding rainbow flag lgbt pride festival concept mix race gays lesbians crowd celebrating love parade standing together full length flat horizontal vector illustration

Mae’r gymuned LGBTQ fel y gwyddoch, wedi goroesi nifer fawr o ddigwyddiadau trais a homoffobia yng nghanol yr holl glityr, dawnsio a dathlu. Mae’r digwyddiadau erchyll yma tuag at y gymuned LGBTQ yn dyddio yn nôl canrifoedd. Er bod pethau wedi ac yn parhau i wellhau, dydi’r berthynas rhwng y gymuned LGBTQ a’r gymuned heterorywiol dal ddim yn berthynas berffaith, ac mae rhaid cofio mai protest yw pride ac nid parti (wel)!

Yn 1954 sefydlwyd Pwyllgor Wolfenden ar ôl i lawer o ddynion adnabyddus gael eu dyfarnu’n euog o ‘anwedduster’. Yna yn 1957 awgrymodd y pwyllgor Wolfenden y dylai rwystro’r ddeddfwriaeth oedd yn atal dau ddyn i gael rhyw, neu’r hawl i droseddu dau ddyn os roeddynt yn cael eu dal. Cafodd yr awgrymiad yma gryn dipyn o gefnogaeth, yn enwedig gan Gymdeithas Feddygol Prydain, er hyn gwrthodwyd yr awgrymiad gan y llywodraeth.

Ychydig wedi hynny, sefydlwyd Cymdeithas Beaumont fel corff hunangymorth cenedlaethol wedi ei redeg ac ar gyfer y gymuned drawsryweddol. Yna yn 1969, y flwyddyn lle sbardunwyd un o ddigwyddiadau fwyaf arwyddocaol y gymuned LGBTQ hyd heddiw. Roedd Stonewall Inn yn Efrog Newydd yn destun cyrch gan yr heddlu yn ystod oriau mân y bore. Yn dilyn hyn, bu Stonewall Inn yn wynebu tair noson o aflonyddwch gyda’r gymuned LGBTQ yn brwydro yn nôl yn erbyn yr heddlu. Roedd lesbiaid a menywod traws groenliw yn rhai o ffigyrau allweddol y gwrthsafiad. Un o’r rheiny oedd Marsha P Johnson, merch draws groenliw a sefydlwyd y ‘Gay Liberation Front’, a dyma sbardunodd y gymuned LGBTQ i ddechrau ymgyrchu yn galed dros eu hawliau.

Yn 1970 cafodd y Gay Liberation Front ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig, dwy flynedd cyn i’r digwyddiad Pride gyntaf gael ei gynnal yn Llundain, a ddenodd dros 2,000 o bobl.

Er roedd pethau yn edrych ar ei fyny i’r gymuned LGBTQ yma yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, roedd dal llawer iawn o bobl yn gwrthwynebu caniatáu dau berson o’r un rhyw i fod mewn cariad, ac mewn perthynas.

Yn 1988 cafodd gyfraith newydd ei gyflwyno o dan lywodraeth Margaret Thatcher o’r enw ‘Article 28’. Roedd y ddeddf yma yn gwahardd athrawon rhag hyrwyddo perthnasoedd hoyw mewn ysgolion, ac i beidio rhamanteiddio y syniad o deuluoedd hoyw. Roedd y gyfraith newydd yma yn un o nifer o rwystredigaethau a wynebodd Stonewall Prydain, sef elusen sydd yn cefnogi aelodau o’r gymuned LGBTQ.

Yn 1992, penderfynodd sefydliad iechyd y byd i stopio cyfeirio at atyniad i’r un rhyw fel salwch meddwl, a dim ond yn y flwyddyn 2000 penderfynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi’r gwaharddiad tuag at y gymuned LGBTQ yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Erbyn hyn, mae dynion hoyw yn cael rhoi gwaed, ond dim ond ers 2011 ac mae hynny ar yr amod eu bod ddim yn rhan o unrhyw berthnasedd rhywiol 12 mis cyn rhoi gwaed. Yn fwy diweddar ac yn hanesyddol i’r gymuned LGBTQ, gall cyplau o’r un rhyw briodi’n gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr.

Er bod hawliau yn newid a deddfau yn cael ei dileu, mae dal llawer iawn o waith i’w wneud ar lawr gwlad er mwyn atal homoffobia, yng Nghymru, Lloegr ac o gwmpas y byd. Mae bod yn hoyw yn rhywbeth cyffredin, ac mae’r gymuned LGBTQ yr un mor gyffredin â’r gymuned heterorywiol. Dydi caru rhywun o’r un rhyw ddim yn cyfiawnhau gweithredoedd homoffobic mewn unrhyw ffordd.

Mae gennym ni gyd waith i’w wneud er mwyn sicrhau perthynas iach rhwng y gymuned LGBTQ a’r gymuned heterorywiol, ac mae hynny drwy sawl ffactor. Mae angen normaleiddio perthnasoedd yr un rhyw. Mae rhaid gwneud hynny i bawb o bob oedran, yn enwedig ar y teledu, mewn ffilmiau ac mewn llyfrau, i blant a phobl ifanc ond hefyd i oedolion.

Yn yr un modd a hynny mae rhaid dysgu am y gymuned LGBTQ, y terfysgoedd Stonewall, ac yr holl unigolion arwyddocaol sydd wedi siapio’r gymuned LGBTQ i fod yn gymuned agored a chynhwysol i bawb. Yn ychwanegol i hynny, mae dyletswydd ar y gymuned heterorywiol i gefnogi’r gymuned LGBTQ drwy arwyddo deisebau, cefnogi elusennau, ymuno yn yr hwyl o benwythnos pride. Bellach, mae pride yn cael ei gynnal ym mhob dinas fawr yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn, gan gynnwys prif ddinas Cymru, Caerdydd.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn hynod o od i bawb, ond mae un peth yn sicr, mae pawb â gwaith i’w wneud ynglŷn â dysgu am eraill, am gymunedau, crefyddau, a hil, ac i beidio bod mor gyfun i’n cylch personol.

Mae angen i ni fod yn agored i dderbyn pawb, dim ots pwy maent yn eu caru, neu beth yw lliw eu croen. Mae gan bawb hawl i garu pwy bynnag – byddwch yn garedig, a chefnogwch eich cyd-ddinasyddion!

Geiriau gan Dafydd Wyn Orritt.

css.php