Clebar

Sut Mae’r Pandemig Coronafeirws Wedi Effiethio Economi Cymru?

Ar y 23ain o Fawrth 2020, cafodd y byd ei newid am byth pan wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson annog i bawb o fewn y Deyrnas Unedig i aros gartref oherwydd y cynyddiad mewn pobl a oedd yn cael eu heffeithio gan y Coronafeirws. Ar y 30 o Ionawr 2020, cafodd y Coronafeirws ei datgelu yn bandemig gan Sefydliad Iechyd y Byd. Nid tan fis Mawrth cafodd pawb o fewn y Deyrnas Unedig y deffroad garw yr oedd y sefyllfa yn hollol ddifrifol. Ers hynny, mae nifer o agweddau bywyd normal wedi cael eu heffeithio yn aruthrol. Cafodd ysgolion, bwytai, siopau a nifer o lefydd arall wnaethon ni ymweld yn aml cael eu cau heb wybod pryd byddwn nhw’n agor eto. 

O ran yr economi mae Cymru yn dibynnu ar nifer o dwristiaeth. Dros y blynyddoedd mae nifer wedi dod ar draws y byd i ymweld ar y natur a thirwedd anghredadwy rydyn ni’n lwcus i gael. Mae nifer o’r sectorau a chafodd eu cau, e.e. Manwerthu a lletygarwch oedd yn dod llaw yn llaw i helpu cynyddu twristiaeth. Felly efo’r effeithiau niweidiol i’r sectorau yma gan gynnwys popeth arall mae’n amlwg mae’r effaith ar yr economi yng Nghymru yn anferth. 

Yn ôl papur briffio o Brifysgol Caerdydd gan Jesús Rodríguez, roedd tua 228,000 (16% o’r boblogaeth) o weithwyr yng Nghymru yn gyflogedig o fewn sectorau a chafodd eu cau yn llwyr oherwydd cyfyngiadau. Roedd nifer o bobl sydd yn gweithio o fewn y sectorau busnes a chyllid yn gallu gweithio o gartref yn effeithiol heb i’r swydd cael ei heffeithio gormod. , I nifer o bobl eraill yr oedd nifer o newidiadau angen digwydd. Gan gynnwys nifer hefyd yn colli swyddi. Dengys y papur briffio yr oedd nifer a oedd yn derbyn cyflogau is yng Nghymru yn ddeg gwaith mwy tebygol o gael eu heffeithio gan gyfyngiadau oherwydd y Coronafeirws na phobl efo cyflogau uchel. Yn bendant nid yw’r effeithiau ar yr economi wedi cael eu dosbarthu’n gyfartal ar draws y gymdeithas. 

Beth sydd am digwydd nawr?

Dros blwyddyn ar ôl i’r cyfyngiadau cyntaf cael eu cyhoeddi yn 2020 yr ydym ni ond nawr yn dechrau gweld newidiadau cadarnhaol tymor hir diolch i’r NHS ac y brechlyn. Felly mae bywyd normal o’r diwedd o gwmpas y cornel. Ond, mae llawer angen cael ei gwneud i cyrraedd normalrwydd eto. Yn enwedig gwella’r economi. 

Felly, beth ydy’r llywodraeth am wneud i wella’r effeithiau mae’r pandemig Coronafeirws wedi cael ar yr economi? Mae llawer o wybodaeth ar gael ar y wefan GOV.WALES ond dyma rhai pwyntiau pwysig i ddarllen-

  • Datrys y broblem diweithdra gan gael £40 miliwn o’r ERF am raglenni hyfforddi, yn enwedig i rai sydd o dan 25 ac sydd yn cael trwbl dod o hyd i swyddi- pwrpas y rhaglenni yma i annog cyflogwyr i gynnig prentisiaethau i bobl ifanc.
  • Hefyd bydd mwy o gyllid i’r ‘Action Inclusive Programme’ sydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc a hen sydd yn teimlo maent yn cael eu hynysu gan y farchnad llafur. 
  • I sicrhau nid yw pobl ifanc yn colli allan yn addysgol neu yn economaidd a sicrhau mae’r bobl ifanc sydd wedi eu heffeithio yn dal lan o ran gwaith ysgol ac yn cael y cymorth sydd angen.
  • Cynyddu’r ‘Childhood Development Program’ am blant ifanc a chynnig cymorth o ran datblygiadau cymdeithasol ac iaith- buddsoddi miliynau o bunnoedd i’r sector gofal plant i ddiogelu darpariaeth barhaus.
  • Cynnig cymorth adolygu i blant mewn blynyddoedd 11,12 a 13 gan ffocysu ar fyfyrwyr bregus.
  • Gweithio efo cymunedau lleol i fuddsoddi canol trefi a sicrhau maent yn edrych yn fwy deniadol gan ffocysu ar greu cymuned fywiog a bydd yn creu awyrgylch cadarnhaol (gall hwn hefyd helpu o ran cynyddu twristiaeth).
  • Bydd mwy o gymorth i siopau a busnesau lleol yn gallu darparu swyddi i nifer.

css.php