Wrth edrych nôl at ein plentyndod, un o’r prif bethau sy’n sefyll allan yw gwylio ein hoff rhaglennu Cymraeg ar S4C yn ystod amser cinio yn yr ysgol. O Sali Mali i Sam Tan, dyma un cyfrannwr yn drafod ambell raglen fe wnaeth ef hoffi fel plentyn.
Gan Tomos Evans
Y Goeden Hud
Un o’m hoff raglenni pan oeddwn i’n blentyn oedd y Goeden Hud, un o gonglfeini Planed Plant Bach yn fy nhyb i. Bu’r gyfres yn olrhain hanes Rhacsyn a’u griw o anifeiliaid a oedd yn byw yn y goeden hud. Fel rhywun a gafodd ei fagu ar fferm, roedd gennyf gryn dipyn o ddiddordeb yn y byd natur a bywyd gwyllt felly roedd Twts y llygoden, Jac a Wil a Tylluan bob amser yn gwmni apelgar pan oeddwn yn iau.
Cymaint oedd dylanwad y rhaglen ar fy nychymyg imi benderfynu mynd ati i enwi coeden yn yr ardd ar ôl y gyfres. Ond, yn anffodus, hyd y gwn i nid oes unrhyw anifeiliaid yn byw yn y goeden honno.
Beth oedd fwyaf cofiadwy am y gyfres hon oedd bod cerddoriaeth a chanu yn rhan greiddiol ohoni. Eto, fel plentyn a oedd yn joio canu, roeddwn hefyd yn mwynhau’r gyfres hon.
Gan fy mod yn grediniol fod y Goeden Hud yn bodoli ac yn gartref i Rhacsyn a’r criw, wedi i Rhys Parry Jones (Rhacsyn) fynd ymlaen i chwarae rhan Dr John yn y ddrama boblogaidd, Teulu, roeddwn yn sicr wedi cael tipyn o syndod.
Pentre’ Bach
Roedd Pentre’ Bach am flynyddoedd yn fy niddanu i ynghyd â miloedd o wylwyr ffyddlon Planed Plant Bach a Cyw. Mewn ffordd, roedd hi’n rhyw fath o opera sebon i blant y dilyn hynt a helynt Sali Mali a chymuned ehangach o gymeriadau megis Jac Do, Jac y Jwc, Jaci Soch, y Pry Bach Tew a Jini.
Gyda chymeriad fel Sali Mali yn brif gymeriad ar y gyfres, roedd hi’n ddigon hawdd i weld o ble ddaeth ei phoblogrwydd. Ond, roedd plant o bob cwr o Gymru’n ymddiddori yn hanesion y cymeriadau i’r fath raddau fod y set lle cafodd Pentre’ Bach ei ffilmio wedi ei agor i’r cyhoedd gyda chyfle i’r teulu cyfan fwynhau paned o de a chacen yng nghaffi Sali Mali. A do, fe es i yno am ddiwrnod i ymweld â’r pentref fy hun. Roedd hi’n deimlad swreal iawn i gael camu i fyd a oedd fel arfer yr ochr arall i’r sgrin deledu.
Mae’r gyfres yn parhau i gael ei hailadrodd hyd heddiw ac mae’r apêl yr un fath ag erioed wrth i genedlaethau newydd o blant syrthio mewn cariad gyda Sali Mali a’i ffrindiau union hanner can mlynedd ers y crëwyd hi’n wreiddiol.
Uned 5
Uned 5 oedd y rhaglen yn ystod blynyddoedd olaf yn yr ysgol gynradd. Roedd hi’n ddefod wythnosol i wylio rhifyn diweddara’r gyfres. Un o’r pethau yr oedd y gyfres yn llwyddo i’w wneud oedd rhoi sbin Cymreig a Chymraeg ar newyddion am dechnoleg, rhaglenni teledu, ffilmiau a’r byd ‘showbiz’ yn ei gyfanrwydd.
Gellid gweld tebygrwydd mawr yn y rhaglen hon o’i chymharu â Blue Peter, ac, yn wir, fe aeth un o gyflwynwyr Uned 5, Gethin Jones, ymlaen i fod yn gyflwynydd ar Blue Peter am sawl blwyddyn.
Pan gymerodd Stwnsh le Planed Plant daeth Uned 5 i ben hefyd. Ond, mae nifer o elfennau o’r rhaglen wreiddiol yn parhau i ymddangos mewn rhaglenni eraill ar S4C, megis Stwnsh Sadwrn a, tan yn ddiweddar, Tag.
Heb os, mae Uned 5 yn un o’r rhaglenni hynny sy’n parhau i aros yn y cof heddiw achos bod ganddo fformat ffres a chyfoes a oedd o flaen ei amser. Hefyd, cafodd proffil nifer o wynebau sydd bellach yn hen gyfarwydd ei godi drwy’r gyfres, gan gynnwys Lisa Gwilym, Mari Lovgreen, Lowri Morgan, Rhodri Owen a Rhydian Bowen Phillips.
Tecwyn y Tractor
Roedd Tecwyn y Tractor yn un o’r rhaglenni hynny yr oeddem yn mwynhau gwylio drwy’r amser. Roedd hyd yn oed gen i rai VHS tapes o’r gyfres yn nhŷ fy mam-gu a thad-cu i’w gwylio ar-alw (ymhell cyn dyddiau’r iPlayer neu Clic).
Gan fy mod yn byw ar fferm, roedd anturiaethau Tecwyn y Tractor yn rhywbeth yr oeddem yn gallu uniaethu ag e. Roedd Tecwyn yn ychydig o arwr imi pan oeddwn i’n iau gan fy mod am gyfnod eisiau bod yn Tecwyn y Tractor fel gyrfa pan oeddwn i’n hyn. O edrych yn ôl, dw i ddim yn siŵr iawn o ymarferoldeb hynny ond pan ‘ych chi’n bump oed, sai’n siŵr os ydych chi’n ystyried y pethau hyn.
Nid yn unig oedd y gyfres ei hun yn ddiddorol a’r straeon yn rhai difyr, roeddem hefyd yn hoff iawn o ganu’r ‘theme tune’ ar ddechrau pob pennod. Ac am diwn oedd honno hefyd gyda llais eiconig Bryn Fôn yn canu am Tecwyn y tractor bach coch. Canwch: *Tecwyn , bîîîîîîîîîîîîîp bîîîîîîîîîîîîîp, Te-ecwyn*.
Yn fy marn i, Tecwyn y Tractor yw un o’r cyfresi Cymraeg gorau i blant a grëwyd erioed. Mae hi’n rhaglen addysgiadol iawn sy’n dysgu plant o bob cwr o Gymru am fywyd yng Nghefn Gwlad.