Clebar

Y genhedlaeth Windrush yng Nghymru.

Beth yw’r Genhedlaeth Windrush?

Mae’r ‘Genhedlaeth Windrush’ yn cyfeirio at y rhai wnaeth deithio o wledydd Caribïaidd i Brydain rhwng 1948 ac 1971.

Ar y pryd, roedd diffyg gweithwyr megis nyrsys a gweithwyr rheilffordd ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Felly, fel rhan o’r Gymanwlad, daeth llawer o’r genhedlaeth Windrush i weithio.

Yn ôl yr Archifau Cenedlaethol, cyrhaeddodd tua hanner miliwn o’r genhedlaeth Windrush rhwng 1948-1970.

Daw’r enw ‘Windrush’ o ‘HMT Empire Windrush’ sef enw’r llong wnaeth cludo grŵp o bobl o wledydd Caribïaidd i Brydain yn 1948.

Y Sgandal

Dechreuodd y sgandal ddenu sylw yn y wasg yn 2017, er roedd y Swyddfa Gartref wedi cael eu hysbysu am elfennau o’r sgandal yn 2013.

Roedd y rhan helaeth o’r sgandal yn ganlyniad i’r polisi ‘amodau gelyniaethus’ a ddechreuodd yn 2012, gyda’r bwriad o’i wneud yn anodd i fewnfudwyr anghyfreithlon fyw ym Mhrydain.

Golygodd hyn roedd rhaid i bawb ddangos dogfennau adnabod er mwyn profi eu bod nhw yn y wlad yn gyfreithlon wrth geisio am swydd, lle i fyw a thriniaeth trwy’r gwasanaeth iechyd.

Roedd hyn yn broblem gan nad oedd gan llawer o’r genhedlaeth Windrush y dogfennau oherwydd teithion nhw i Brydain ar basbort eu rhieni.

Yn waeth, cafodd cardiau glanio eu dinistrio gan y Swyddfa Gartref yn 2010. Felly, roedd yn anodd i’r genhedlaeth Windrush brofi eu bod nhw ym Mhrydain yn gyfreithlon, hyd yn oed os roeddynt wedi bod yn gweithio a thalu trethi ers blynyddoedd.

O ganlyniad i ddiffyg gwaith papur, collodd llawer ohonynt eu swyddi a’u mynediad at driniaeth gan y gwasanaeth iechyd, a chafodd rhai eu gyrru o’r wlad yn anghyfiawn. Mae’r gweithredoedd hyn yn cyferbynnu’n llwyr gyda chroeso’r gwasanaeth iechyd i’r genhedlaeth Windrush yn 1948 pan roedden nhw’n gofalu amdanon ni wrth wneud y swyddi pwysig nad oedd digon o bobl Prydain am wneud.

Roedd y genhedlaeth Windrush yn gwynebu ansicrwydd ac ofn ynghylch eu dyfodol yn y wlad. Gyda faniau â’r neges “In the UK illegally? Go home or face arrest” yn gyrru ar hyd Prydain yn rhan o strategaeth y Llywodraeth. Mae’n ymddangos roedd yr elyniaeth yn amhosib iddynt ei dianc.

Yn ôl adroddiad annibynnol ar y testun gall y sgandal wedi cael ei rhagweld, a’i hosgoi.

Cyfraniad y Genhedlaeth Windrush yng Nghymru

Er bod llawer yn gwrthod cydnabod bod unigolion o’r genhedlaeth Windrush yn bodoli yng Nghymru, maent wedi cyfrannu’n fawr at ein gwlad.

Mae’n amlwg i’r genhedlaeth Windrush gyfrannu at ein heconomi. Wrth i’r galw am weithwyr gynyddu yn y 50au, roedd rhai cyflogwyr yn cyflogi pobl o’r Caribî cyn iddynt gyrraedd Prydain. Roedd yn arferol i gwmnïau dalu am daith y gweithwyr i Brydain ac ennill yr arian yn ôl dros amser trwy ostwng tâl y gweithwyr.

Hefyd, maent wedi cyfrannu’n fawr tuag at ein gwasanaeth iechyd. Mae Jackie Jones yn enghraifft o’r genhedlaeth Windrush yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at y GIG.

Rhannodd Jackie ei stori yn rhan o brosiect gan yr African Community Centre. Glaniodd hi yn Llundain ac yna daeth i Gymru yn 1972 i hyfforddi fel nyrs, yn ysbyty Castell Nedd. Mae hi wedi bod yn gweithio mewn ysbytai yng Nghymru am dros dri degawd.

Yn debyg, mae Vernester Cyril OBE wedi cyfrannu at y GIG trwy weithio fel nyrs ac yna fel bydwraig yng Nghasnewydd.

Yn ychwanegol, mae Vernester wedi siarad ar draws Cymru ynglŷn ag anghydraddoldeb a derbyniodd Vernester OBE yn 1999 am ei gwaith gyda chymunedau yn Ne-ddwyrain Cymru. Credai Vernester buasai dysgu am hanes eraill mewn ysgolion yn gwneud ein cymdeithas yn fwy cyfoethog a’n fwy parod i dderbyn eraill.

Iawndal Poenus o Araf

Mae nifer o’r dioddefwyr yn dal i aros am iawndal yn dilyn y sefyllfa. Ar ddiwedd mis Mai eleni, 60 o’r dioddefwyr yn unig oedd wedi derbyn iawndal trwy gydol Prydain.

Yn ogystal, cwpwl o wythnosau yn ôl adroddwyd bod o leiaf 5 o’r dioddefwyr ym Mhrydain wedi marw cyn derbyn yr iawndal.

Ar Ddiwrnod Windrush, ddywedodd Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip: ‘Rydym wedi cysylltu â’r Swyddfa Gartref ar sawl achlysur mewn perthynas â cheisiadau ac achosion iawndal Tasglu Windrush sy’n benodol i Gymru ond nid ydym wedi cael ymateb boddhaol eto.’

“Dwi’n dwlu ar fod yn Gymraes”

Mae Cymru yn rhan fawr o hunaniaeth rhai o’r genhedlaeth Windrush. Esboniodd Sharon Lawrence, a chafodd ei magu ym Mhort Talbot, ei bod hi’n “dwlu ar fod yn Gymraes”.

Ychwanegodd: “Pan mae’r rygbi ymlaen ac mae Cymru’n gwneud yn dda, dwi’ yno, ond pan ‘dwi’n clywed cerddoriaeth reggae, mae fy nghalon yn Jamaica”.

Er bod Sharon yn sôn am sut mae’r wlad wedi effeithio arni hi, mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n cofio cymaint y mae’r genhedlaeth Windrush wedi cyfrannu at ein gwlad ni hefyd, a bod hanes y genhedlaeth Windrush yn berthnasol iawn i Gymru.

Geiriau gan Rhiannon Jones.

css.php