Clebar

Ydy’r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia yn un y dylid ei ddathlu?

Os rhaid ystyried y gwir am ein perthynas efo Patagonia?

Mae hanes Cymru a Phatagonia yn un sydd yn ymestyn dros nifer o flynyddoedd a milltiroedd, yn dechrau yn 1865 pan hwyliodd llong (y Mimosa) o Gymru i Batagonia, dros 8,000 milltir i ffwrdd. Er bod nifer eang o Gymry yn falch i ddweud bod yna wlad ar ochr arall y byd sydd yn medru’r Gymraeg a’r Sbaeneg, mae’n rhaid ystyried yr agweddau negyddol sy’n gysylltiedig â’n hanes fel Cymry ym Mhatagonia.

Fe wnaeth y Cymry allfudo i Batagonia yn 1865 fel ymgais i amddiffyn eu diwylliant Cymreig a’r iaith Cymraeg a oedd o dan fygythiad ar y pryd. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd diwydiant yn datblygu ar draws Cymru a oedd yn achosi niferoedd o gymunedau gwledig i ddiflannu. O ganlyniad i hyn, roedd nifer yn credu roedd Cymru yn colli ei diwylliant ac yn dod yn fwy tebyg i Loegr yn ddyddiol, felly mewn ymgais i osgoi colli ei hanes ymysg y chwyldro diwydiannol, fe wnaeth rhai o’r Cymry symud i Batagonia. Allfudodd tua 150 o’r Cymry o Lerpwl ar long y Mimosa yn fis Mai 1865 am £12 yr un, neu £6 i blant. Cymerodd y daith tua 8 wythnos, a wnaeth y llong cyrraedd Puerto Madryn ar y 27ain o Orffennaf, 1865. Wedyn, wrth iddynt gyrraedd Patagonia, darganfyddent nad oedd Patagonia mor ‘ddeniadol’ a beth oeddent yn meddwl yn wreiddiol. Nid oedd yna ddŵr i yfed neu digon o fwyd, na chwaith unrhyw fforestydd i greu llochesi. Er oedd y Teheulche (y gymuned cynhelid yna ar y pryd) wedi ceisio dangos iddynt sut roedden nhw wedi goroesi ym Mhatagonia efo braidd unrhyw adnoddau, roedd rhaid i’r Cymry ddibynnu ar nifer o gyflenwadau i oroesi.

Rydyn ni y Cymry ifanc, yn ymweld â Phatagonia efo’r Urdd yn flynyddol ac mae’r ddwy wlad efo cysylltiad unigryw ac anghyffredin sydd yn profi’n gwytnwch i amddiffyn ein diwylliant, iaith ac ein hanes fel Cymry. Ond, dydyn ni ddim wedi canolbwyntio ar yr elfennau negyddol o allfudo i Batagonia, a’r effaith yr oedd hyn wedi cael ar gymunedau cynhenid ym Mhatagonia.

Cafwyd y Cymry effaith negyddol ar y gymuned ym Mhatagonia?

Fe wnaeth Lucy Taylor ysgrifennu erthygl (‘The Welsh Way of Colonisation in Patagonia: The International Politics of Moral Superiority’) ar wladychu sydd yn awgrymu cymerodd y Cymry dros Batagonia mewn ffordd a wnaeth effeithio’n negyddol ar y teuluoedd a oedd eisoes yn bodoli ym Mhatagonia. Mae Lucy Taylor yn awgrymu, nid oedd y perthynas rhwng y Cymry a’r cymunedau cynhenid ym Mhatagonia mor gyfeillgar â beth rydyn ni yn ei ddysgu yn yr ysgol neu ar lein. Dwedodd hi fod y fersiwn o’n hanes ym Mhatagonia sydd yn bodoli yn awgrymu perthynas positif rhwng y Cymry a’r cymunedau cynhenid. Gan ddysgu’r fersiwn yma o’n hanes i ddisgyblion mewn ysgolion Cymraeg ac ar y we, mae’n dadlau ein bod ni yn parhau i orchuddio’r gwir realiti o difeddianiad y brodoron.

Os rhaid felly ystyried y gwir am ein perthynas efo Patagonia? A wnaethon ni achosi niwed i gymunedau cynhenid yn yr ardal pan gyrhaeddon ni? Os rhaid i ni drafod naill ochr y ddadl wrth  ddysgu am Batagonia mewn ysgolion?

Yn fy marn i, mae’n rhaid cydnabod efallai rydyn ni yn gogoneddu ein hanes efo Patagonia. Ond dyw hynny ddim yn meddwl bod yna problem efo’n cysylltiad efo Patagonia yn y presennol. Mae’n hollol anghredadwy ein bod ni yn medru dweud bod yna wlad ar ochr arall o’r byd sydd yn medru siarad Cymraeg, a does dim siom mewn dathlu hynny. Mae’n fraint medru dweud bod Cymraeg yn cael ei siarad ym Mhatagonia, a dylen ni beidio anwybyddu pa mor anarferol yw hi. Ond, o ran dysgu am ein hanes ym Mhatagonia yn yr ysgolion, mae’n rhaid bod yn ofalus a cheisio osgoi gogoneddu ein hanes o allfudo i Batagonia. Mae’n rhaid trafod ein heffaith ar y cymunedau cynhelid a oedd yn bodoli ym Mhatagonia cyn i’r Cymry cyrraedd, a’r effaith roedd y Cymry wedi cael ar ei ffyrdd o fyw. Credaf fe fydd buddion o addysgu disgyblion am y cymunedau cynhelid ym Mhatagonia, a gwneud siŵr ein bod ni yn parchu eu hanes a chydnabod eu pwysigrwydd yn ein hanes fel Cymry ym Mhatagonia.

Geiriau gan; Sian Jones.

css.php