Taf-Od

Myfyrwyr yng Nghymru i ddychwelyd i gampws ar ├┤l y Pasg

Cyhoeddodd Kirsty Williams y gallai myfyrwyr yng Nghymru ddychwelyd i'r campws yn rhannol ar ├┤l gwyliau'r Pasg.
Cyhoeddodd Kirsty Williams y gallai myfyrwyr yng Nghymru ddychwelyd i'r campws yn rhannol ar ├┤l gwyliau'r Pasg. Tarddiad: Jeremy Segrott (trwy Flickr).
Cyhoeddodd Kirsty Williams y gallai myfyrwyr yng Nghymru ddychwelyd i'r campws yn rhannol ar ├┤l gwyliau'r Pasg.

Gan Catrin Lewis | Golygydd Taf-od

Mewn cynhadledd iÔÇÖr wasg cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai myfyrwyr yn gallu dychwelyd i gymysgedd o addysg ar-lein ac wyneb-i-wyneb oÔÇÖr 12fed o Ebrill ymlaen.

Er bod y cyfyngiadau ÔÇÿaros yn lleolÔÇÖ yn parhau i fod mewn lle, mae eithriadau ar gyfer addysg ac felly mae caniat├ód i drafeilio iÔÇÖr Brifysgol.

Bydd hefyd camau ychwanegol yn cael eu gwneud er lles diogelwch myfyrwyr megis profion yn cael eu cynnig dwywaith yr wythnos. Bydd y profion yn cynnig canlyniad o fewn hanner awr a byddent ar gael i unrhyw fyfyrwyr neu staff sydd ddim yn gallu gweithio o adref.

Yn y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog Addysg wrth fyfyrwyr:

ÔÇ£Rwyf yn ymwybodol bod eich profiad prifysgol wedi bod yn wahanol iawn iÔÇÖch disgwyliadau eleni ac rydych wedi colli allan ar lawer o agweddau cymdeithasol bywyd prifysgol.ÔÇØ

Aeth hefyd yn ei blaen i ychwanegu bod y risg o ddal a lledaenuÔÇÖr feirws wedi lleihau o ganlyniad i hynny ac wedi helpu achub bywydau.

Ers cychwyn y cyfnod clo diweddaraf ym mis Rhagfyr, mae nifer fawr o fyfyrwyr wedi aros adref i astudio. Er hynny, mae rhai cyrsiau ymarferol a chyrsiau iechyd eisoes wedi dychwelyd i arddull wyneb-i-wyneb.

Roedd hefyd caniat├ód i unrhyw fyfyrwyr oedd angen defnyddio cyfleusterauÔÇÖr campws megis llyfrgelloedd neu fannau astudio i ddychwelyd iÔÇÖr Brifysgol ar gyfer eu hastudiaethau.

Ar yr un diwrnod aÔÇÖr cyhoeddiad, dychwelodd fwy o fyfyrwyr yn ├┤l iÔÇÖr ysgol ar ├┤l bod adref ers cychwyn y gwyliau Nadolig.

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Addysg:

ÔÇ£O’r 12 Ebrill, rydym yn disgwyl y gall pob myfyriwr ddychwelyd ar gyfer dysgu cyfunol trwy gydol tymor yr hafÔÇØ.

ÔÇ£Mae prifysgolion wedi cynllunio i fwy o addysgu a dysgu parhau yn nhymor yr haf nag mewn cylchrediad academaidd arferolÔÇØ.

MaeÔÇÖr cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan Universities Wales syÔÇÖn cynrychioliÔÇÖr sector a dwedasant nhw mewn datganiad:

ÔÇ£Mae llawer o fyfyrwyr eisoes wedi dychwelyd i’r campws lle mae angen hynny i gwblhau neu i fodloni deilliannau dysgu, neu i gael mynediad at gyfleusterauÔÇØ.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu gweddill ein myfyrwyr yn ├┤l i’n cymunedau ar ├┤l y PasgÔÇØ.

“Mae diogelwch a lles myfyrwyr, staff a chymunedau lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i brifysgolion yng Nghymru, a gall y rhai sy’n dychwelyd ar ├┤l y Pasg fod yn hyderus bod ein campysau’n parhau i fod yn amgylcheddau diogel o ran y coronafeirws”.

DawÔÇÖr cyhoeddiad yn dilyn y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones, yn dweud mewn cynhadledd i’r wasg na fu “trosglwyddiad sylweddolÔÇØ o ganlyniad i ddysgu wyneb-i-wyneb mewn prifysgolion.

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ymysg rheiny sydd wedi ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg. Dywedodd ei fod yn credu bod y dystiolaeth a ddarparwyd gan Dr Chris Jones a llwyddiant y rhaglen frechu yn awgrymu y byddai dychwelyd i ddysgu prifysgol yn ddiogel.

Fodd bynnag mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg, eisiau gweld pethauÔÇÖn mynd cam ymhellach ac i bob disgybl ysgol uwchradd ddychwelyd iÔÇÖr ysgol ar y dyddiad yma hefyd.

MaeÔÇÖr cynllun i ddychwelyd yn ├┤l i arddull addysgu cyfunol yn ddibynnol ar y nifer o achosion coronafeirws yn aros yn isel dros yr wythnosau nesaf. Bydd myfyrwyr yn dychwelyd iÔÇÖr brifysgol yn gam arall yn agosach at y sector addysg yn dychwelyd i normalrwydd.

 

 

 

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment