Taf-Od

Cyfnod clo Boris Johnson yn amherthnasol i Gymru

Er gwaethaÔÇÖr ansicrwydd, cadarnhawyd y bydd y sector lletygarwch hefyd yn cael ail-agor eu drysau er gwaethaf cyfnod clo Lloegr. Tarddiad: International Press Telecommunications Council.
Er gwaethaÔÇÖr ansicrwydd, cadarnhawyd y bydd y sector lletygarwch hefyd yn cael ail-agor eu drysau er gwaethaf cyfnod clo Lloegr. Tarddiad: International Press Telecommunications Council.
Bydd y cyfnod atal byr yng Nghymru yn dod i ben ar Dachwedd 9 ac nid yw cyfnod clo Lloegr yn effeithio hynny.

Gan Alaw Fflur Jones | Golygydd Taf-od

Er gwaethaf datganiad diweddar Prif Weinidog y DU, Boris Johnson am gyfnod clo newydd. Esboniodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru fod y newidiadau gan Boris Johnson ond ÔÇÿyn berthnasol i Loegr.ÔÇÖ

 

Yn dilyn penderfyniad Boris Johnson, mae Lloegr dan gyfyngiadau clo ers dydd Iau, Tachwedd 5, a hynny am gyfnod o bedair wythnos. Ond, nid ywÔÇÖr newidiadau yma yn golygu bod Cymru yn gwynebu cyfnod clo estynedig. Cadarnhaodd Mark Drakeford mewn neges drydar brynhawn ddydd Sadwrn, Hydref 31.

 

ÔÇ£Bydd y cyfnod atal byr yng Nghymru yn dod i ben ddydd Llun, Tachwedd 9.

 

Bydd ein cabinet yn cyfarfod fory i drafod unrhyw broblemau posib ar y ffin ar gyfer Cymru yng ngoleuni unrhyw gyhoeddiad gan Rif 10.ÔÇØ

 

 

Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y clo byr yng Nghyrmu?

 

Bydd y cyfnod clo byr yn dod i ben ddydd Llun, Tachwedd 9. Cadarnhaodd Mark Drakeford na fydd cyfyngiadau lleol yn dychwelyd wediÔÇÖr cyfnod clo byr. Bydd Cymru gyfan yn dilyn yr un set o reolau. MaeÔÇÖr rheolau newydd, a fydd yn dechrau ar Tachwedd 9 yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd angen i bawb gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, yn parhau
  • Bydd y gofyniad i weithio gartref pan foÔÇÖn bosibl yn parhau
  • Ni ddylai pobl ond cwrdd ├óÔÇÖr rhai syÔÇÖn rhan oÔÇÖu ÔÇÿswigenÔÇÖ yn eu cartref eu hunain a dim ond dwy aelwyd fydd yn gallu ffurfio ÔÇÿswigenÔÇÖ. Os bydd un person oÔÇÖr naill aelwyd neuÔÇÖr llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunan-ynysu ar unwaith.
  • Caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd dan do wediÔÇÖi drefnu a hyd at 30 mewn gweithgaredd awyr agored wediÔÇÖi drefnu, cyn belled ├óÔÇÖu bod yn dilyn yr holl fesurau o ran cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelu eraill
  • Bydd pob safle, a wnaeth gau yn ystod y cyfnod atal byr, yn gallu ailagor. Ond mae yna gfyngiadau llymach ar y sector lletygarwch.
  • Fel rhan oÔÇÖn hymdrech i leihau ein risgiau cymaint ├ó phosibl, dylai pobl osgoi teithio os nad ywÔÇÖn hanfodol. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond dylai teithio rhyngwladol fod ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig.

 

Eglurhad iÔÇÖr sector lletygarwch

Yn dilyn cyhoeddiad Boris Johnson am gyfnod clo i Loegr, poenodd Mark Drakeford am ail-agor drysauÔÇÖr sector lletygarwch yng Nghymru. Pe bai tafarndai ar gau ar hyd y ffin yn Lloegr ÔÇ£maeÔÇÖn si┼Ár y bydd risg y bydd pobl yn ceisio torriÔÇÖr gyfraith” meddai Mark Drakeford.

Ond, ar ├┤l asesuÔÇÖr sefyllfa mae Mark Drakeford wedi cynnig eglurhad iÔÇÖr sector gan lunio set newydd o gyfyngiadau erbyn dydd Llun, Tachwedd 9.

Cyhoeddwyd y bydd cwmn├»au lletygarwch yn cael ail-agor eu drysau unwaith eto ond mi fydd cyfyngiant o 4 unigolyn ar bob bwrdd i aelodau o aelwydydd ar wah├ón, os ydynt yn ymbellhau’n gymdeithasol. Anogir i bobl ymweld ├ó bwytai, bariau a thafarndai mewn grwpiau lleiaf posib. Ac fe fydd y rheol am atal gwerthiant ar alcohol wedi 22:00 hefyd yn parhau mewn grym o ddydd Llun nesaf ymlaen am y tro. Rhagwelir y bydd cyfyngiadau pellach yn y maes lletygarwch gan gynnwys archebu ymlaen llaw, slotiau gyda therfyn amser, a phroses adnabod a dilysu cwsmeriaid.

ÔÇÿAr ├┤l yr aros am eglurhad, siomedig ywÔÇÖr penderfyniad. Er dwiÔÇÖn falch ein bod yn cael ail agor ein drysau, nid ywÔÇÖr cyfyngiadau yn galluogi iÔÇÖr dafarn neud ddigon o arian i gadwÔÇÖr drws yn agored! Dw i ar deimlad, nad ywÔÇÖr Llywodraeth wir eisiau iÔÇÖr sector lletygarwch fod ar agor ond ychwaith ddim eisiau ein cefnogi yn ariannol!ÔÇÖ Eglura Daniel Powell, perchennog Tafarn Dyffryn Aeron.

Ein cyfrifoldeb ni!

Am y tro, erfynia Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru ar bawb i barhau i gydymffurfio gydaÔÇÖr rheolau presennol. Er bod y cyfnod clo byr yn dod i ben, maeÔÇÖn angenrheidiol iÔÇÖr Cymry fod yn synhwyrol. Rhybuddiodd Mark Drakeford mewn cynhadledd iÔÇÖr wasg ddydd Llun,

“Peidiwch ymestyn y rheolau i geisio gwneud mwy – cymrwch gyfrifoldeb i wneud y pethau sy’n ein cadw ni oll yn ddiogel.

Pan fo’r cyfnod clo yn dod i ben dydw i ddim eisiau i hynny fod yn arwydd i bobl y gall eu hymdrechion ddod i ben.”

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment