Taf-Od

Tymor a hanner i dîm rygbi’r GymGym

Y GymGym ar garlam: Tîm rygbi'r GymGym. (Tarddiad: Ynyr Clwyd).
Owain ap Myrddin sy'n adolygu'r tymor i dîm rygbi'r GymGym.

gan Owain ap Myrddin

O’r gêm gyntaf roedd yna deimlad cartrefol iawn am y tîm gyda phawb yn groesawgar ac nid yn unig eisiau chwarae rygbi, ond eisiau mwynhau’r ochr gymdeithasol hefyd. Bu dechrau’r tymor yn un penigamp trwy guro’r Gyfraith, Peirianneg a Chemeg yn gyfforddus mewn gemau cyn-dymor trwy chwarae rygbi agored, cyflym iawn gyda’r blaenwyr a’r cefnwyr yn cyd-chwarae’n gampus gan chwarae “champagne rygbi” o’r safon uchaf.

Gwnaeth y tymor go iawn ddechrau ychydig yn anoddach gan golli o drwch blewyn i Phystory mewn gêm rwystredig ble’r oedd y GymGym yn haeddu curo ond yn methu gorffen symudiadau a doedd y tywydd na stad y cae ddim yn helpu hynny. Wedi cyfnod hir o beidio chwarae oherwydd tywydd ofnadwy cafodd y tîm fuddugoliaethau cyfforddus yn erbyn Peirianneg a Gwleidyddiaeth i orffen hanner cyntaf y tymor yn gryf cyn y Nadolig.

Dechreuwyd ail hanner y tymor fel y gorffennwyd yr hanner cyntaf gyda rygbi pert yn cael ei chwarae mewn amgylchiadau trafferthus, ond y tîm yn llwyddo i drechu’r Gyfraith i ddechrau 2019 mewn steil! Ond byr oedd y dathliadau wrth i’r GymGym golli’r wythnos ganlynol i Uni BaaBaa’s! Y tîm yn colli o drwch blewyn ac yn chwarae’n sâl mewn amgylchiadau anodd, yn bendant diwrnod i’w anghofio i’r GymGym. Ond gwnaeth y GymGym ymateb yr wythnos ganlynol gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Bioscience gyda bois Aberaeron yn serennu unwaith eto. Buddugoliaeth arall yr wythnos ganlynol yn erbyn Cemeg ond ar ôl dechrau da gwnaeth y tywydd ddylanwadu’n fawr ar y gêm ac roedd teimlad o siom gan y tîm am beidio perfformio cystal ag y dylent.

Yna teithiodd y tîm i Abertawe ar gyfer twrnament 7 bob ochr Eisteddfod Rhyng-gol ac er bod nifer o’r prif chwaraewyr ar goll, gan gynnwys y capten Dafydd Aron, dychwelodd y tîm adra wedi curo Abertawe a chyfuniad o Fangor ac Aberystwyth yn gyfforddus gan chwarae rygbi rhagorol. Curo Carbs Social yn gyfforddus yr wythnos ganlynol ac yna colli’n drwm yn erbyn tîm cyntaf Carbs yr wythnos wedyn ar ôl chwarae’n wych yn yr hanner cyntaf ond colli i dîm gwell ar y dydd oedd ein hanes. Y rownd gynderfynol oedd yr wythnos wedyn ac ia, yn erbyn Carbs unwaith eto. Roedd y tîm yn daer i setlo sgôr yr wythnos diwethaf ac mi fuon mor agos at lwyddo i wneud hynny. Chwarae rygbi anhygoel ac ennill 15-10 gyda dau funud yn weddill ond bu i Carbs sgorio i gipio’r gêm yn y munudau olaf o 17-15. Buddugoliaeth yn y gêm am y trydydd safle i orffen y tymor yn gryf drwy chwarae rygbi deniadol. Y GymGym ar garlam: Tîm rygbi’r GymGym. (Tarddiad: Ynyr Clwyd). Gêm yn erbyn y Geltaidd Aberystwyth ar Barc yr Arfau sydd nesaf ar y 10fed o Fai am 7 o’r gloch. Dewch yn llu.

Tymor rhagorol a gafwyd ac edrychwn ymlaen at y tymor nesaf yn barod. Yn bendant hwn yw’r tîm i unrhyw ‘fresher’ sy’n chwilio am rygbi, cwrw a llwyth straeon gwirion.

About the author

Tomos Evans

Add Comment

Click here to post a comment