Gan Lowri Pitcher
Ar ôl blynyddoedd maith o fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg, dysgu Cymraeg neu ddefnyddio’r Gymraeg gyda theulu a ffrindiau, mae’n bosib taw dod i’r brifysgol yw’r tro gyntaf i chi fynd am gyfnodau estynedig heb ddefnyddio’r iaith. Serch hynny, nid yw newid amgylchedd yn golygu bod rhaid i chi stopio defnyddio’r Gymraeg. Dyma amryw o syniadau ynglŷn â sut i sicrhau nad yw’ch safon ieithyddol yn dirywio, ac yn bosib iawn, gallai’r syniadau yma gwella cyfoethogi’ch safon ieithyddol ac eich profiad yn y brifysgol:
Ymuno’r GymGym
Os hoffech chi ddefnyddio’r iaith mewn amgylchedd anffurfiol i gymdeithasu a chreu ffrindiau newydd, gallech chi ymuno â chymdeithas y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Caerdydd, y GymGym.
Mae’r gymdeithas yn cynnig amrywiaeth o brofiadau gwahanol sy’n apelio at bob math o berson, mae rhai o weithgareddau’r GymGym yn cynnwys:
- Trefnu crôls tafarndai
- Mynychu gemau rygbi
- Trefnu teithiau i lefydd fel Caeredin a Pharis
- Cymryd rhan mewn Eisteddfodau
- Cynnal sober-socials
- Hysbysebu cyfleoedd gwaith ble gellir siarad Cymraeg
Mae ymuno â’r gymdeithas yn hawdd; ymaelodwch drwy brynu aelodaeth ar wefan Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ymunwch â grŵp y GymGym ar wefannau cymdeithasol ac ewch i’r digwyddiad nesaf maent yn cynnal!
Modiwlau Cymraeg
Mae nifer o brifysgolion ledled Cymru yn cynnig modiwlau cyfrwng y Gymraeg. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ac erbyn hyn mae 39 cwrs yma yng Nghaerdydd sy’n cynnig rhwng 33% a 100% o fodiwlau trwy’r Gymraeg. Mae’r ystod o gyrsiau sy’n cynnig modiwlau trwy’r Gymraeg yn eang iawn; o’r Gyfraith i Fathemateg i Athroniaeth.
Yn well fyth, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau rhwng £1,500 – £3,000 dros gyfnod eich gradd os ydych yn penderfynu astudio mwy na thraen o’ch gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymraeg i Bawb
Os hoffech chi barhau i wella’ch sgiliau, meistroli’r iaith, neu fagu mwy o hyder yn defnyddio’r Gymraeg, pam na elwa o wersi rhad ac am ddim Cymraeg i Bawb? Mae Ysgol y Gymraeg yn cynnig cyrsiau wythnosol yn addas i fyfyrwyr lefelau dechreuwyr, sylfaen, canolradd ac uwch i unrhyw fyfyrwyr y brifysgol y hoffai ymuno.
Mae’r cyrsiau yn cymryd mewn i ystyriaeth bod gennych waith prifysgol i’w gyflawni, felly cynhelir y gwersi yn ystod y prynhawn hwyr/ nosweithiau ac nid oes gormod o waith cartref! Dyma gyfle gwych i fagu hyder, ymarfer eich sgiliau llafar a meistroli gramadeg, dim ots beth ydy’ch lefel ieithyddol.
Er mwyn ymuno, cysylltwch gydag Ysgol y Gymraeg neu mewn cofnodwch ar SIMS a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Gair Rhydd a Quench
Hoffech chi ymarfer eich iaith mewn amgylchedd cymdeithasol wrth dderbyn profiad gwaith gwerthfawr gellir nodi ar eich CV yn y dyfodol? Ymunwch â Chyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd!
Mae Gair Rhydd, papur newydd y brifysgol a sefydlwyd yn y 70au wastad yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig i gyfrannu i’r adran Gymraeg, Taf-od. Pob wythnos mae rhestr o dopigau amrywiol, o wleidyddiaeth i bynciau mynegi barn, i ddewis ohonynt a gallech ysgrifennu erthyglau ar sail y topigau yma.
Yn debyg, mae cylchgrawn misol y brifysgol, Quench, yn groesawi gyfranwyr i’w Adran Gymraeg, Clebar, sy’n trafod pob math o dopigau cysylltiedig i Gymru a’r Gymraeg.
Nid oes angen astudio gradd newyddiaduraeth er mwyn cyfrannu, mae’r papur yn groeso cyfranwyr o bob disgyblaeth, yr unig beth sydd angen ydy brwdfrydedd i ysgrifennu erthyglau o ansawdd da!
Ymunwch â’r grŵp cyfranwyr CMCC (Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd) ar Facebook neu cysylltwch gyda Gair Rhydd neu Quench er mwyn darganfod mwy!
Xpress Radio
Yn ogystal â phapur newydd a chylchgrawn Prifysgol Caerdydd, mae gan y brifysgol gorsaf radio, Xpress. Pob dydd mae rhaglen yn cael ei darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg yn trafod pynciau amryw sy’n estyn o drafod newyddion y dydd, cynnal sgyrsiau llawen llawn hiwmor i drafod manylion Brexit a digwyddiadau diwethaf byd gwleidyddiaeth.
Er mwyn cadw safon eich Cymraeg, ceisiwch wrando ar lein ar rai o’r sioeau Cymraeg canlynol: Gwyneb Radio, Crac y Wawr, Gwylio Gwleidyddiaeth, Y Tri Gŵr Ffôl, Malu ar yr Awyr, a, Lawr yn y Ddinas. Os ydych yn ymddiddori yn y sioeau, beth am ystyried cysylltu gyda’r cyflwynwyr? Efallai bydd cyfle i chi eu hymuno ar yr awyr!
Felly, er bod dod i’r brifysgol yn golygu efallai nad ydych chi’n cael defnyddio’r Gymraeg yn yr un ffordd ag yn ystod bywyd ysgol a chartref, nid yw’n golygu bod rhaid ffarwelio â’r iaith yn gyfan gwbl. Mae ystod eang o weithgareddau ar gael i ddiddanu unrhyw un; o crôls ffansi-dress gyda’r GymGym i fynychu gwersi Cymraeg neu ysgrifennu erthyglau papur newydd proffesiynol i Gair Rhydd a Quench.
Rhaid cofio bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil gwerthfawr iawn a gallai bod o fydd i chi yn y dyfodol agos!