Taf-Od

Y Gymraeg yn llithro?

Tarddiad: Andrew Bowden trwy Flickr
MaeÔÇÖr Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, os ydym yn ei siarad ai peidio. Dylai pawb ohonom fod yn falch ohoni, yn ei pharchu ac yn barod iÔÇÖw thrysori.

Gan Annell Dyfri | Golygydd Cymraeg

MaeÔÇÖr Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, os ydym yn ei siarad ai peidio. Dylai pawb ohonom fod yn falch ohoni, yn ei pharchu ac yn barod iÔÇÖw thrysori.

Ymhlith yr hynaf o ieithoedd Ewrop gyfan, maeÔÇÖr Gymraeg yn parhauÔÇÖn iaith fyw mewn cymunedau led-led Cymru. Dyma sydd yn ein gwneud yn unigryw ÔÇô y maeÔÇÖn rhan annatod oÔÇÖn hunaniaeth ni fel Cymry.

Ond iaith leiafrifol yw hi ac fel ymhob cyd-destun lle mae lleiafrif yn bodoli, maeÔÇÖn rhwydd iawn iÔÇÖr mwyafrif ei dilorni aÔÇÖi bychanu. Yn anffodus, diolch i dechnoleg ddigidol yn aml, maeÔÇÖr Gymraeg yn cael ei sathru ac yn destun sbort i lawer. MaeÔÇÖn ymddangos fod y tueddfryd hwn ar gynnydd gyda llwyfannau megis Facebook a Twitter yn cynnwys mwy a mwy o gyfeiriadau dilornus at y Gymraeg aÔÇÖi diwylliant.

Cwmnïau yn creu helynt

Yn y gorffennol unigolion oedd wrth wraidd y mwyafrif oÔÇÖr ymosodiadau hyn. Bellach, maeÔÇÖn ymddangos fod mwy a mwy o sefydliadau a busnesauÔÇÖn barod i fychanuÔÇÖr iaith yn gyhoeddus. Mae hwn yn ddatblygiad y dylem gadw llygad arno.

MaeÔÇÖn siwr y cofiwch y neges honno a drydarwyd gan gwmni ÔÇÿSnickersÔÇÖ yn gynt eleni pan ddisgrifiwyd enwau llefydd megis Rhosllanerchrugog a Llanfairpwll fel ÔÇÿa place in Wales or someone sat on a keyboardÔÇÖ. Dilynodd y cwmni Americanaidd, ÔÇÿBuzzfeedÔÇÖ, yr un trywydd wrth greu cwis ar ei wefan, unwaith eto yn gwneud hwyl am ben enwau Cymraeg. Gwelwyd enghraifft arall yr wythnos diwethaf pan gyhoeddwyd cart┼Án ym mhapur newydd The Telegraph a nodai ÔÇÿWeÔÇÖre testing passengers returning from Portugal to see if they show any signs of being WelshÔÇÖ gan ddangos teithwyr yn cario cennyn a gwrthrychau eraill syÔÇÖn cael eu cysylltuÔÇÖn draddodiadol ├ó Chymru. MaeÔÇÖn siwr y byddai rhai pobl yn dadlau mai cellwair yn unig yw hyn ac nad oes drwg mewn ychydig o sbort. Ond, wrth gwrs, gall ychydig o sbort ac ychydig eto droiÔÇÖn don bwerus a all wneud niwed sylweddol iÔÇÖr hyn syÔÇÖn cael ei dargedu yn y pen draw.

Braf oedd derbyn ymateb mor synhwyrol gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg iÔÇÖr hyn sydd wedi bod yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar. ÔÇÿMaeÔÇÖn siomedig fod unigolion o fewn cwmn├»au mawr yn gweld ymosod ar y Gymraeg fel ffordd hawdd o ennyn sylw,ÔÇÖ meddai llefarydd. ÔÇÿOs oes unrhyw gwmni mawr yn chwilio am gefnogaeth i ddefnyddioÔÇÖr Gymraeg o fewn eu busnes, mae croeso iddyn nhw gysylltu gyda ni trwy e-bost at hybu@comisiynyddygymraeg.cymru.ÔÇÖ

Taith Megan

Wrth gwrs, nid ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig y gwelwyd y fath ymosodiadau ar y Gymraeg yn ddiweddar. Gall llawer ohonom feddwl am sefyllfaoedd lle cawsom ein bychanu neu ein dilorni am i ni siarad Cymraeg maeÔÇÖn siwr. Un oÔÇÖr rhai a ddioddefodd yn ddiweddar yw Megan Evans o Fae Colwyn a adroddodd hanes ei phrofiad wrth deithio ar dr├¬n rhwng Caerdydd a Bryste ryw wythnos yn ├┤l. Tra yr oedd hi a rhai oÔÇÖi ffrinidau wrthiÔÇÖn siarad ├óÔÇÖi gilydd yn Gymraeg yn ystod eu taith, dyma weithiwr yn gofyn iddynt newid iÔÇÖr Saesneg gan eu bod yn swnioÔÇÖn ÔÇÿamheusÔÇÖ. Nododd Megan ei fod ÔÇÿyn siom fawr cael fy ngofyn i stopio siarad Cymraeg ar y tr├¬n gan aelod oÔÇÖr staff er fy mod yng Nghymru gan ei fod yn amheusÔÇÖ.

Beth nesaÔÇÖ?

Onid digon yw digon? Onid ywÔÇÖn amser i ni droiÔÇÖr drol a sicrhau bod y rheini syÔÇÖn mynnu ein bychanu yn profiÔÇÖr un driniaeth yn y pen draw? Er mor anodd y bydd hynny weithiau, y mae angen i bawb ohonom syÔÇÖn profi sefyllfa oÔÇÖr fath, lle cawn ein dilorni am siarad yn ein mamiaith, fynd ├óÔÇÖr mater ymhellach gan sicrhau bod y sawl a dramgwyddodd yn profi cyhoeddusrwydd negyddol a bod ei enw, hyd yn oed os ywÔÇÖn gwmni rhyngwladol o bwys, yn cael ei lusgo drwyÔÇÖr mwd am gryn┬ábellter.

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment