Taf-Od

Cymru ar y blaen gyda’r rhaglen frechu

Ar hyn o bryd mae Cymru ar y blaen yn y DU gyda'r rhaglen frechu ac wedi rhoi'r ddos gyntaf i dros draean o'r boblogaeth.
Ar hyn o bryd mae Cymru ar y blaen yn y DU gyda'r rhaglen frechu ac wedi rhoi'r ddos gyntaf i dros draean o'r boblogaeth. Tarddiad: Asian Development Bank (trwy flickr).
Ar hyn o bryd mae Cymru ar y blaen yn y DU gyda'r rhaglen frechu ac wedi rhoi'r ddos gyntaf i dros draean o'r boblogaeth.

Gan Catrin Lewis | Golygydd Taf-od

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i frechu traean oÔÇÖi phoblogaeth gydaÔÇÖr brechlyn Covid-19. Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad ar yr 19eg o Chwefror bod 839,065 o boblogaeth Cymru wedi derbyn eu dos cyntaf oÔÇÖr brechlyn erbyn hyn, ffigwr syÔÇÖn cyfateb i 33.3% oÔÇÖr boblogaeth.

Mae hyn yn uwch naÔÇÖr ffigyrau ar draws gweddill y Deyrnas Unedig sef 32.1% yn Lloegr, 31.3% yn yr Alban a 29.4% yng Ngogledd Iwerddon.

Yn ogystal ├ó hynny, maeÔÇÖr ail ddos wedi cychwyn cael ei ddosrannu i rai unigolion gyda 25,433 wedi derbyn eu hail ddos erbyn y 19eg o Chwefror.

Mewn cynhadledd iÔÇÖr wasg dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

ÔÇ£Yr wythnos hon, fe ddechreuon ni gynnig apwyntiadau i bobol ar gyfer yr ail ddos ac mae mwy na 25,000 o bobl eisoes wedi cael eu rhai nhw.ÔÇØ

ÔÇ£Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y garreg filltir nesaf, i gynnig brechiad i bawb mewn grwpiau blaenoriaeth pump i naw erbyn diwedd mis Ebrill, ar yr amod bod cyflenwadau brechlynnau hefyd yn parhau ar y trywydd iawn.ÔÇØ

Yn sicr, er bod Cymru ar y blaen hyd yn hyn mae dal llawer o ymdrech iÔÇÖw wneud er mwyn sicrhau bod llwyddiant y rhaglen frechu yn parhau. Amlygodd y prif weinidog y pwynt yma yn ystod y gynhadledd ble cyhoeddodd y byddaiÔÇÖr cyfyngiadau aros adref yn aros mewn lle am o leiaf tair wythnos arall tra bod y brechu yn parhau.

Dywedodd nad ywÔÇÖn disgwyl y bydd llacio sylweddol yn y cyfyngiadau nes gwyliauÔÇÖr Pasg yn y man cynharaf. Bydd y cyfyngiadauÔÇÖn cael eu hailasesu ar Ebrill yr 2il, cyn y Pasg syÔÇÖn disgyn ar benwythnos cyntaf mis Ebrill.

Ar hyn o bryd mae tua 100 o bobl i bob 100,000. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol oÔÇÖr 600 ym mhob 100,000 oedd yn dioddef oÔÇÖr feirws ar gychwyn y cyfnod clo ym mis Rhagfyr. MaeÔÇÖn amlwg, felly, bod y cyfnod clo ynghyd aÔÇÖr rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiannus yn gostwng yr achosion oÔÇÖr coronafeirws yng Nghymru.

Dywedodd y prif weinidog y canlynol am gychwyn llacioÔÇÖr cyfyngiadau:

Os gallwn ni fwrw ymlaen i adeiladau ar y llwyddiant yna galla i weld llwybr tan y Pasg ble gallwn ni ddechrau yn ofalus i lacior cyfyngiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd.

Ymateb Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i hyn oedd

ÔÇ£Er bod dull gofalus o ddod allan oÔÇÖr cyfyngiadau symud yn synhwyrol, mae angen i ni hefyd darparu map a llwybr clir i adferiad i bobl ledled Cymru,ÔÇØ

Tra dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru:

ÔÇ£Er bod dull gofalus o ddod allan oÔÇÖr cyfyngiadau symud yn synhwyrol, mae angen i ni hefyd darparu map a llwybr clir i adferiad i bobl ledled Cymru,ÔÇØ meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.ÔÇØ

ÔÇ£Dylid llacioÔÇÖr cyfyngiadau yn ofalus mewn modd synhwyrol ÔÇô byddaiÔÇÖn dda ailgyflwynoÔÇÖr neges ÔÇÿaros yn lleolÔÇÖ cyhyd ag y bo angen.ÔÇØ

Mae Cymru o flaen y targed gwreiddiol oedd wedi ei osod ar gyfer y rhaglen frechu. Erbyn hyn maent yn anelu i gynnig y dos cyntaf oÔÇÖr brechiad i bob oedolyn yng Nghymru erbyn y 31ain o Orffennaf.

Mae hyn cwpl o fisoedd yn gyflymach naÔÇÖr targed gwreiddiol sef i gynnig y dos gyntaf i bob oedolyn erbyn yr Hydref.

Ar hyn o bryd maeÔÇÖr brechlyn yn cael ei roi iÔÇÖr grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 meddaiÔÇÖr swyddog iechyd Vaughan Gething mewn cynhadledd. MaeÔÇÖr grwpiau hyn yn cynnwys pobl rhwng 50 a 69 oed, pobl dros 16 oed gyda chyflwr iechyd sylfaenol sy’n cynyddu’r risg iddyn nhw o gael salwch difrifol petaent nhw’n dal coronafeirws a gofalwyr di-d├ól sy’n gofalu am berson sy’n fregus yn glinigol.

Y gobaith yw brechuÔÇÖr grwpiau hyn erbyn canol mis Ebrill. Dywedodd Vaughan Gething:

“Yn ddibynnol ar gyflenwad y brechlyn, byddwn wedi cyrraedd yr holl bobl hyn erbyn canol Ebrill.”

Yn y gynhadledd cyhoeddodd hefyd y bydd profion rheolaidd yn cael eu cynnal i weithwyr mewn gweithleoedd risg uchel ble bydd canlyniadauÔÇÖn cael eu rhoi mewn hanner awr. Mae hyn yn berthnasol i weithleoedd o fewn cyrff cyhoeddus a phreifat syÔÇÖn cyflogi dros 50 o unigolion.

Mae hyn yn dilyn y penderfyniad i beidio ├ó chynnwys athrawon a staff ysgol fel gr┼Áp syÔÇÖn cael eu blaenoriaethu yn y rhaglen frechu. Mae mwy o bwyslais wedi ei rhoi ar brofi mewn ysgolion yn hytrach na brechu ar hyn o bryd.

Mae tystiolaeth sylweddol felly bod y cyfnod clo aÔÇÖr rhaglen frechu wedi llwyddo i ostwng y nifer o achosion yng Nghymru. Fodd bynnag, maeÔÇÖn rhaid cymryd gofal gan fod posibilrwydd iÔÇÖr achosion coronafeirws newid yn gyflym. Er hynny, ar hyn o bryd mae hanner olaf 2021 yn edrych yn lawer fwy gobeithiol o gymharu ├ó llynedd. Dim ond amser gall ddangos ai fydd yr achosion yn parhau i ostwng digon i alluogi iÔÇÖr wlad fynd yn ├┤l i normalrwydd.

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment