Taf-Od

Dileu cynnwys ‘hiliol’ sianel YouTube Gymreig

YouTube. Tarddiad: YouTube (drwy wikimedia commons)
YouTube. Tarddiad: YouTube (drwy wikimedia commons)
Mae peth cynnwys y sianel Voice of Wales wedi cael eu dileu oherwydd eu bod yn groes i ganllawiau gwefan YouTube. Ond pa fath o gynnwys sydd ar y sianel hon?

Gan Aled Biston | Pennaeth Taf-od

Mae sianel YouTube Gymreig wedi ei labeluÔÇÖn ÔÇÿhiliolÔÇÖ aÔÇÖi chyhuddo o ddarlledu iaith a
syniadaeth ÔÇÿffiaiddÔÇÖ ac ÔÇÿannerbyniolÔÇÖ wedi ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C. EnwÔÇÖr
sianel yw ÔÇÿVoice of WalesÔÇÖ a dechreuodd y sianel darlledu ym mis Gorffennaf y llynedd, ac
mae dros 5,000 o bobl yn tanysgrifio iÔÇÖr sianel. Cyflwynwyd cynnwys y sianel gan ddau ddyn
o ardal Abertawe- Dan Morgan a Stan Robinson, ac mae eu cynnwys wedi cofnodi cyfanswm
o 350,000 o sesiynau gwylio hyd yma. Yn sgil ymchwiliad Newyddion S4C, mae YouTube
wedi dileu peth cynnwys lle mae Voice of Wales yn ymddangos a rhwystro hysbysebion rhag
ymddangos ar fideos eraill. Ond beth yn union yw cynnwys y sianel hon?

Mae Dan Morgan a Stan Robinson yn aelodau oÔÇÖr blaid UKIP, a dywed nhw eu bod yn rhoi
llais iÔÇÖr rhai sydd ddim yn cael eu cynrychioli gan gyfryngau prif ffrwd. MaeÔÇÖr ddau yn
gwahodd gwesteion gwaharddedig ar eu sianel hefyd, gan gynnwys y gr┼Áp ÔÇÿProud BoysÔÇÖ o
ogledd America sydd wedi cael eu gwahardd gan Facebook, Twitter ac Instagram. Yng
Nghanada, maen nhw wedi cael eu gwahardd yn llwyr wedi iÔÇÖr llywodraeth yno farnu eu bod
nhwÔÇÖn fudiad terfysgol. Mae Tommy Robinson a Katie Hopkins hefyd wedi ymddangos ar y
sianel, maeÔÇÖr ddau ohonynt wediÔÇÖu gwahardd gan Twitter am dorri canllawiauÔÇÖr wefan
honno o ran casineb. Mae rhai gwleidyddion Cymreig amlwg wedi ymddangos ar y sianel
hefyd, gan gynnwys unig Aelod Seneddol UKIP, Neil Hamilton a chyn-ymgeisydd etholiadol
Ceidwadol Felix Aubel.

BuÔÇÖr sianel hefyd yn bresennol mewn protestiadau dadleuol, gan ddarlledu sylw sydd yn
ymddangos yn ffafriol iÔÇÖr rheiny sydd wedi bod yn ceisio tarfu ar chwaraewyr p├¬l-droed
Abertawe wrth iddyn nhw benglinio i gefnogi mudiad Black Lives Matter, yn ogystal â rhai
oedd yn dangos gwrthwynebiad i gartrefi ceiswyr lloches mewn gwersyll hyfforddi milwrol
yn Sir Benfro. Yn ogystal â darlledu cynnwys dadleuol, mae iaith y ddau (Dan Morgan a Stan
Robinson) wedi codi pryderon. Mewn un fideo, mae Mr Robinson yn dweud nad yw eisiau
clywed am newyddion India, a bydd ef yn ÔÇÿmynd ar jet ac yn mynd i eisiauÔÇÖ os oedd eisiau
gwybod am newyddion y wlad. Ategodd at ei sylwadau gan ddweud bod ÔÇÿÔÇÖmobÔÇÖ Fwslimaidd
Pacistan yn broblematigÔÇÖ. TraÔÇÖn darlleduÔÇÖn fyw o Fae Caerdydd mewn fideo arall, mae Mr
Morgan yn gwneud y sylw canlynol wrth weld posteri o bobl ddu amlwg yn y ffenestri: ÔÇÿBeth
ywÔÇÖr adeilad yma?… Cyngor Celfyddydau CymruÔǪ achos ni gyd yn gwybod dyma beth sydd
ar ddod yng Nghymru. Cyngor Celfyddydau Affricanaidd Cymru. Oedd eÔÇÖn ddweud hynny?
Nag oedd. Ond mi ddylai wneudÔÇÖ.

Mewn datganiad, dywedodd YouTube bod eu canllawiau yn gwahardd defnyddio iaith
casineb aÔÇÖu bod nhwÔÇÖn cael gwared ag unrhyw fideos a sylwadau sydd yn torriÔÇÖr polis├»au
yma. Erbyn hyn, mae YouTube wedi dileu tri fideo yn cynnwys Voice of Wales ac wedi
rhwystro hysbysebion ar chwe fideo pellach. Yn sicr mae cynnwys y sianel wedi peri gofid i
lawer, ac nid oes amau bydd YouTube yn cadw llygaid ar y cyfrif yn y dyfodol agos.

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment