Taf-Od

Cefnogaeth i Urdd Gobaith Cymru

Tarddiad: Wikkimedia Commons
GydaÔÇÖr Urdd wedi bod yn rhan greiddiol o fywydau nifer o ieuenctid a theuluoedd Cymru ers blynyddoedd wrth gefnogi a chynnal gweithgareddau o bob math drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gan Annell Dyfri | Golygydd Taf-od

Yn anffodus, yn sgil y pandemig aÔÇÖi effeithiau hir dymor, maeÔÇÖr Urdd wedi gorfod cwtogi nifer o sywddi yn sgil y dirwyiad economaidd diweddar. Nododd yr Urdd mewn datganiad eu bod wedi colli 49% oÔÇÖi weithlu oherwydd y pandemig, mae hyn yn ffigur hynod o uchel. Mae sgil effeithiauÔÇÖr panedmig wedi bod y enfawr is awl mudiad gan gynnwys yr Urdd, yn enweidg gan bod yr Urdd wedi bod yn rhan annatod o blemtyndod cynifer o Gymry.

Cynnigir yr Urdd blatfform ar gyfer pobl ifanc i ddangos eu doniau ar y cae chwarae ac ar lwyfan cenedlaethol a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn sgil hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod am roi ┬ú1.3m yn ychwanegol iÔÇÖr Urdd er mwyn iddynt allu adeiladu yn sgil y dirywiad economaidd diweddar. Mae hyn yn newyddion i godi calon cenedl wrth sicrhau dyfodol sefydlog iÔÇÖr mudiad cenedlaethol.

Nododd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant aÔÇÖr Gymraeg, yng Nghynhadledd Llywodraeth Cymru fod yr Urdd yn ÔÇÿyn un o brif gyflogwyr trydydd sector Cymru sy’n cynnig ystod eang o brofiadau trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifancÔÇÖ. Atega hyn bwysigrwydd yr Urdd o fewn ein diwylliant Cymraeg a Chymreig.

 

Sut y maeÔÇÖr arian yn helpu?

GydaÔÇÖr Urdd yn sicrhau swyddi i bobl ifanc, a chymorth i gymunedau, maeÔÇÖr arian am sicrhau parhad iÔÇÖw gwasnaeth. Nododd Eluned Morgan “Bydd dros 60 o staff ychwanegol yn cael eu cyflogi, ac mae gan yr Urdd gynlluniau i greu hyd at 300 o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg newydd dros y tair blynedd nesaf.”

Yn amlwg, buÔÇÖn rhaid gohirio Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni yn sgil effeithiau parhaol y Coronafeirws yng Nghymru a led-led y byd, ymatebodd Alaw Mair Williams, unigolyn sydd wedi bod yn cystadluÔÇÖn frwd dros y blynyddoedd, iÔÇÖr ÔÇÿDwiÔÇÖn falch bod arian yn mynd tuag at cefnogaeth a swyddi o fewn yr Urdd. Fel rhywun sydd wedi cystadlu llawer efoÔÇÖr Urdd yn y gorffennol dw iÔÇÖn hapus bod y llywodraeth sydd mor bwysig i gymunedau ac ysgolion ledled CymruÔÇÖ.

Unigolyn arall sydd wedi bod ynghlwm ├óÔÇÖr Urdd mewn sawl agwedd yw Bethany Pierce. Treuliodd Bethany gyfnod allan ym Mhatagonia gydaÔÇÖr Urdd yn ymweld ├óÔÇÖr ardal ac yn cynorthwyo mewn ysgolion a chymunedau lleol. Nododd ÔÇÿMaeÔÇÖn braf gweld mudiad fel yr Urdd yn derbyn cefnogaeth ariannol ychwanegol er mwyn sicrhau bod y cenedlaethau i ddod yn derbyn yr un fath o brofiadau ac yr ydw i wediÔÇÖi dderbynÔÇÖ.

MaeÔÇÖn amlwg bod y genfogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru am fod o fudd mawr iÔÇÖr mudiad. GobeithioÔÇÖn fawr y bydd modd gweld y sefydliad yn ail-adeiladu ac yn ffynu yn y dyfodol agos er mwyn sicrhau y bydd y cenedlaethau i ddod yn derbyn y cyfleoedd aÔÇÖr profiadau anhygoel y mae nifer ohonom wedi profi ar hyd y blynyddoedd.

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment